Skip to main content

Astudiaeth gydweithredol yn dangos canfyddiadau newydd ynglŷn ag ADHD mewn oedolion ifanc

Yr Athro Anita Thapar, sy’n arwain yr Adran Seiciatreg Plant a’r Glasoed yn yr Isadran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol, sy’n ysgrifennu am ganfyddiadau diweddaraf y tîm ynghylch Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD).

Rydym yn gwybod bod ADHD yn effeithio ar oedolion ac nid ar blant yn unig, fodd bynnag, nid ydym yn gwybod llawer am y cyfnod pontio rhwng 16 a 25 oed.

Roedd ein hastudiaeth ymchwil, ‘Anhwylderau Niwroddatblygiadol: Beth sy’n digwydd pan mae plant yn tyfu i fyny a pham?’ yn canolbwyntio ar hyn gyda’r nod o helpu i ddeall ADHD mewn oedolion ifanc.

Mewn prosiect cydweithredol gydag Uned Epidemioleg Integreiddiol y Cyngor Ymchwil Feddygol ym Mhrifysgol Bryste, a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Wellcome, gwnaethom edrych ar symptomau ADHD mewn grŵp o filoedd o bobl ifanc 25 oed a ddilynwyd yn rheolaidd ers iddynt gael eu geni.

Sut beth yw ADHD i bobl 25 oed?

Rydym yn gwybod bod gorgyffwrdd rhwng ADHD mewn plentyndod ac anawsterau dysgu a datblygiadol eraill, felly gofynnwyd y cwestiwn: A yw hynny’n debyg i oedolion?

Erbyn 25 oed, roedd ADHD â diffiniad eang yn dal i orgyffwrdd â nodweddion anhwylder sbectrwm awtistiaeth, anawsterau cyfathrebu ac o ran perfformiad yr ymennydd mewn tasgau. Yn union fel yn ystod plentyndod, roedd y gorgyffwrdd i’w weld yn rhywbeth ‘niwroddatblygiadol’.

A oes gan rieni oedolion rywbeth defnyddiol i’w gyfrannu?

Gwelsom hefyd fod rhieni’r grŵp hwn o oedolion ifanc 25 oed yn dal i fod yn ffynhonnell dda o wybodaeth am symptomau ADHD eu plentyn sy’n oedolyn ifanc.

Roedd yr hyn a nodwyd ganddynt yn dangos mwy o debygrwydd i ADHD plentyndod na’r hyn a nododd yr oedolyn ifanc.

Felly, os yw oedolion ifanc mewn cysylltiad â’u rhieni ac yn cydsynio, gallai fod yn werth meddwl am gael gwybodaeth gan rieni yn ogystal â’r oedolyn ifanc mewn clinigau ac mewn astudiaethau ymchwil yn y dyfodol.

 Young adults outdoors with the sun setting.

Heriau o ran cael diagnosis o ADHD fel oedolyn

I gael diagnosis o ADHD mae angen i’r symptomau ymddangos cyn mae’r unigolyn yn 12 oed.

Fodd bynnag, mae ein canfyddiadau yn awgrymu nad yw hynny’n wir i bawb ac nad yw pobl bob amser yn cofio’n gywir pryd dechreuodd eu symptomau.

Os ydych chi’n meddwl bod gennych ADHD ac yn dewis cael asesiad fel oedolyn, efallai y byddai’n well edrych ar adroddiadau ysgol yn hytrach na dibynnu ar eich cof.

Ffactor arall sy’n cymhlethu’r sefyllfa yw bod llawer o ymchwil, gan gynnwys ein hymchwil ni, yn awgrymu bod ADHD wedi ymddangos am y tro cyntaf i rai pobl yn eu harddegau neu fel oedolyn.

Yn ein hastudiaeth roedd hyn yn dal i edrych fel ADHD o ran cysylltiadau â geneteg, ond roedd mwy o fenywod (o gymharu ag ADHD a wnaeth ymddangos yn ystod plentyndod hefyd) ac yn ôl pob golwg mae’r grŵp hwn wedi cael ei ‘warchod’ gan fwy o adnoddau cymdeithasol a theuluol.

Ar hyn o bryd, mae gwyddonwyr yn ansicr beth yw’r ADHD hwn sy’n codi’n ddiweddarach.

Beth am anawsterau o ran iechyd meddwl ac addysg?

Gwelsom fod cysylltiad rhwng ADHD yn ystod plentyndod ac iselder yn ddiweddarach mewn oes, a bod hyn yn ôl pob golwg yn dechrau’n gynnar ac yn parhau neu’n codi eto.

Gan ddefnyddio geneteg, awgrymodd ein hastudiaeth hefyd mai ADHD oedd yn achosi iselder mewn rhai pobl yn ddiweddarach yn eu hoes. Mae hyn yn golygu y gallai rhai pobl ag iselder fod ag ADHD heb fod yn ymwybodol ohono.

A beth am iechyd corfforol?

Yn olaf, mae diddordeb cynyddol mewn cysylltiadau rhwng ADHD ac iechyd corfforol.

Gan ddefnyddio geneteg, gwelsom fod posibilrwydd bod ADHD yn achosi gordewdra yn ystod plentyndod a chlefyd y rhydwelïau coronaidd.

Mae hyn yn dangos pa mor bwysig yw meddwl am iechyd corfforol a meddyliol mewn pobl sydd ag ADHD yn ystod plentyndod, yn eu harddegau, ac fel oedolyn.

Y tîm ymchwil:

Anita Thapar, Evie Stergiakouli, Lucy Riglin, Kate Tilling, Beate Lepert,  Kate Langley, Sharifah Agha, Ajay Thapar, Stephan Collishaw,  George Davey Smith

Cyfeirnodau

Adnoddau

Darllen rhagor

Professor Anita Thapar

Professor Anita Thapar leads the Child & Adolescent Psychiatry section at the Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences, Cardiff University and also directs the developmental disorders group within the MRC Centre for Neuropsychiatric Genetics and Genomics.

Find out more.
Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd