Skip to main content

Cadw fy mhen uwchben y dŵr: syrffio a goresgyn galar

Ffocws Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2024 yw mudiad: rhan hanfodol o gynnal iechyd meddwl a lles cadarnhaol. Mae ein blogiwr gwadd Chloe yn rhannu ei phrofiad o symud a sut mae wedi ei helpu i ddelio â galar.

Ar ôl marwolaeth sydyn ffrind agos, roeddwn i’n cael llawer mwy o drafferth gyda hwyliau isel a chymhelliant.

Dechreuodd gweithio gartref ac eistedd wrth ddesg drwy’r dydd ar fy mhen fy hun waethygu’r teimladau hyn. Roeddwn i hefyd yn cael trafferth gyda galar, a oedd yn golygu nad oeddwn i’n teimlo’n barod i fentro i’r swyddfa.

Mae galar yn brofiad eithaf ynysig, ac roedd byw mewn dinas lle nad oes gennyf unrhyw ffrindiau agos, sawl awr yn y car oddi wrth fy nheulu, yn sicr yn gwneud pethau’n anoddach.

Roeddwn i’n gwybod bod angen i mi newid er mwyn bod yn fwy parod i ddelio â phopeth a oedd yn digwydd yn fy mywyd. Roeddwn i hefyd eisiau gwneud ffrindiau newydd a bod yn actif, roeddwn i’n teimlo mor euog am gloi fy hun i ffwrdd, fel pe bawn i’n bradychu fy ffrind trwy wneud hynny.

Dod o hyd i’r hyder i roi fy hun allan yno

Dwi wastad wedi bod yn berson eithaf pryderus, a dwi erioed wedi bod yn naturiol athletaidd chwaith.

Yn yr ysgol, wnes i erioed fwynhau Addysg Gorfforol ac yn aml roeddwn i’n cael fy nal yn ôl gan fy ofn fy hun o embaras. Roedd cofrestru mewn campfa ar fy mhen fy hun neu fynd i ddosbarth yn syniad brawychus!

Felly, ar hap, penderfynais fynd i wersyll syrffio ac ioga ym Moroco. Roeddwn i wedi rhoi cynnig ar syrffio sawl gwaith tra’n teithio yn ystod fy amser yn y Brifysgol, ac er fy mod i’n eitha’ gwael roeddwn i’n ei fwynhau’n fawr.

I berson eithaf swil mae’n siŵr bod hyn yn swnio braidd yn eithafol, ond fy rhesymeg i oedd, os byddwn i’n gwneud ffŵl o’m hun, fyddai neb o gartref yna i ‘ngweld i!

Yn ffodus, cwrddais i â chymaint o bobl anhygoel pan gyrhaeddais i, a oedd yr un mor nerfus, lletchwith, ac awyddus i ddysgu rhywbeth newydd â mi.

Mae syrffio yn hobi ffantastig. Mae’n weithgaredd sy’n gallu cael ei rannu â rhywun arall, neu gall fod yn weithgaredd unigol sy’n dda i’r meddwl – rydych chi’n canolbwyntio cymaint ar beth rydych chi’n ei wneud rydych chi’n anghofio’r sŵn o’ch cwmpas.

Am unwaith, roeddwn i wedi ymgolli’n llwyr yn yr hyn roeddwn i’n ei wneud – heb boeni pa mor flêr oedd fy ngwallt i na pha mor wirion roeddwn i’n edrych yn cwympo bob dwy eiliad.

Gwyliwch y tonnau – ffeindiwch eich safle – padlwch nerth eich breichiau – popiwch i fyny (neu, yn amlach na pheidio, disgynnwch i ffwrdd a dechreuwch eto) – edrychwch i’r cyfeiriad rydych eisiau mynd iddo – a mwynhewch.

Hyd yn oed os mai dim ond unwaith y byddwch chi’n llwyddo i sefyll mewn sesiwn pedair awr, mae’r cyflawniad rydych chi’n ei deimlo yn anhygoel! Un o’r pethau gwych am fod yn ddechreuwr yw bod cymaint o le i ddysgu a symud ’mlaen.

Gwneud symud yn rhan o newid ffordd o fyw

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydw i wedi parhau i ymarfer ioga, yr ydw i’n ei fwynhau llawn cymaint. Mae bellach yn rhan o’m trefn wythnosol, ac rydw i wedi gwneud ffrindiau newydd.

Mae ymarfer ioga bob wythnos hefyd wedi golygu ’mod i wedi adeiladu mwy o gryfder corfforol, ac yn teimlo cymaint yn fwy cysylltiedig a diolchgar am fy nghorff.

Dychwelais i Foroco ym mis Mawrth ac yn sicr rydw i wedi gwneud mwy o gynnydd, er fy mod i’n dal i fod yn ddechreuwr balch.

Rydw i hefyd yn edrych ’mlaen at roi cynnig ar rai o’n llecynnau syrffio lleol hardd yma yng Nghymru yr haf hwn!

Neilltuo amser i mi

Dyw mynd allan, gwneud ymarfer corff a rhoi cynnig ar bethau newydd ddim o reidrwydd yn ‘wellhad cyflawn’.  Nid yw wedi datrys fy ngalar; mae’r teimladau hynny yno o hyd. Fodd bynnag, mae’r gweithgareddau hyn yn caniatáu i mi neilltuo amser bob wythnos i roi fy meddwl ar ‘fodd tawel’. O ganlyniad, mae wedi fy ngalluogi i ddatblygu’r gallu i ddelio â galar yn well.

Rydym yn aml yn cyfeirio at gwpan neu fwced emosiynol, a all weithiau orlifo oherwydd straen bywyd, yn enwedig os yw’r cwpan hwnnw eisoes yn llawn.

Rydw i wedi gweld bod cael hobi newydd neu ddau wedi gwneud ychydig mwy o le yn fy nghwpan i ddelio â bywyd, a galar.

Felly, fy nghyngor i unrhyw un sydd am fod yn fwy actif:

  • Does dim rhaid i chi fod yn dda am rywbeth i’w fwynhau!
  • Yn amlach na pheidio, mae dysgu rhywbeth am y tro cyntaf hyd yn oed yn fwy o hwyl na bod yn feistr arno.
  • Mae lle i bawb.
  • Boed yn ddosbarth ioga, campfa, neu hyd yn oed allan ar y llinell syrffio – mae gennych yr un hawl i hyn â phawb arall, a does neb yn mynd i fod yn grac neu’n ypsét gyda chi am wneud hynny.
  • Ceisiwch beidio â theimlo embaras, ond os ydych chi – ceisiwch chwerthin am y peth.
  • Does neb yn edrych arnoch chi beth bynnag! Yn amlach na pheidio, roedden nhw yn union yr un sgidiau â chi ar ryw adeg.
  • Yn olaf, os ydych chi’n ystyried rhoi cynnig ar rywbeth, ewch amdani!
  • Mae ’na ddosbarth i ddechreuwyr yn rhywle ar gyfer y rhan fwyaf o chwaraeon, ac mae’n cael ei alw’n ddosbarth i ddechreuwyr am reswm – does dim rhaid i chi fod yn dda i roi cynnig arni!

Adnoddau

Chloe Apsey

Mae Chloe yn Gynorthwyydd Ymchwil ac yn fyfyriwr PhD i'r NCMH sy'n gweithio ar brosiect PreDDICT.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd