Skip to main content

Traed hapus, ymennydd hapusach: sut cefais fy hun mewn dawnsio

Ffocws Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni yw symudiad: rhan hanfodol o gynnal iechyd meddwl a lles cadarnhaol. Fodd bynnag, pan fydd bywyd yn brysur, gall fod yn anodd cynnwys symudiad yn ein hamserlenni prysur. Mae ein blogiwr gwadd Catrin wedi dysgu pwysigrwydd addasu pan mae bywyd yn eich rhwystro.

Mae Catrin, sy’n 35 oed ac o Gaerdydd, yn ddawnswraig, yn crosio, yn llyfrbryf ac yn caru’r sinema. Hi hefyd yw Rheolwr Cyfathrebu’r Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl (NCMH) ac adran meddygaeth seicolegol a’r niwrowyddorau clinigol ehangach ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dechreuais i ddawnsio

Lindi Hop yw’r ddawns swing eithaf. Ymddangosodd ar ôl y Charleston, sy’n fwy unionsyth, yn y 1920au. Dyw’r ddawns ddim i fod yn gain a chonfensiynol. Gall fod yn gyflym, yn araf neu rywle yn y canol, ond ddylai hi fyth gael ei chymryd o ddifrif.

 Rwy’n cofio fy newrder aruthrol a’r angen am gwmni ffrind eofn wrth gamu i mewn i’m dosbarth Lindi Hop cyntaf. Er gwaethaf cariad at ffasiwn a cherddoriaeth y cyfnod, roedd gen i rai pryderon yn ymwneud â phwysau nad oeddwn i’n perthyn i lefydd o’r fath.

Wyth mlynedd yn ddiweddarach, ac rydw i wedi ymuno â ffrind i ddysgu ein dosbarthiadau ein hunain. Yn y cyfnod hwnnw, rydw i wedi dawnsio o gwmpas y DU ac ar wyliau yng Ngwlad yr Iâ a Sbaen, wedi perfformio mewn partïon ac wedi dawnsio ar y stryd am hwyl, yn ogystal ag yn nathliad awyr agored mwyaf Caerdydd ar gyfer pen-blwydd Roald Dahl yn 100 oed.

Pwynt pwysig: Dydw i ddim yn 26 oed mwyach

Gwnaeth y pandemig covid-19 arafu fy obsesiwn, yn ogystal â diagnosis mwy diweddar o arthritis (dwi’n cael trafferth dal beiro wrth ysgrifennu hwn).

Er nad ydw i’n dawnsio sawl awr yr wythnos gyda ffrindiau bellach, mae’n rhoi pleser mawr i mi allu ymarfer ychydig bach bob ychydig ddiwrnodau a mynychu gweithdai penwythnos – mae hefyd yn braf cael tocyn neu ddau yn fy mhoced ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol arbennig.

Dyw hi heb fod yn broses gyflym, ond rwy’n teimlo ’mod i o’r diwedd ar fy ffordd yn ôl at ychydig mwy o symud, y tu allan i’r tŷ, bob wythnos.

Traed hapus, ymennydd hapusach

O ran iechyd meddwl, gwnaeth dawnsio fy nhywys drwy rai adegau isel. Yn dilyn diwedd perthynas, roeddwn i’n teimlo ar goll braidd ac ychydig yn ynysig ar ôl symud allan ar fy mhen fy hun. Yn ogystal â’r ffrindiau roeddwn i wedi’u gwneud, rydw i wir yn credu bod cael rheswm i fynd allan o’r tŷ, yn ogystal â’r cysylltiad dynol a chorfforol hyfryd ’na, wedi achub fy iechyd meddwl.

I mi, dyma hanfod ymwybyddiaeth ofalgar. Rydych chi yn y foment, yn teimlo’r gerddoriaeth, yn cofio sut i symud eich traed a dawnsio’n gyfforddus, yn ogystal â darllen arwyddion cynnil gan eich partner dawnsio – y mae gan bob un ohonynt steil a symudiadau gwahanol.

Joiwch

Rhan fawr o’m cariad at Lindi yw’r cyfle i fod yn wirion.

Steil dawnsio tebyg o’r un cyfnod sy’n arbennig o hwyl yw Collegiate Shag (mae’n debyg nad yw shag yn golygu’r un peth yn yr Unol Daleithiau ag yn y DU – dwi’n chwerthin gan fod fy nheclyn arddweud yn ysgrifennu shag fel ****).

O symudiadau fel y ‘Tom and Jerry’ a ‘fish out of water’, i ‘sailor kicks’ a ‘bunny hops’, mae’n cael ei ddawnsio i ganeuon cyflymach.

Gyda Lindi a ****, unwaith y byddwch chi’n gwybod yr hanfodion, gallwch chi arbrofi gydag unrhyw bartner ac mae’n faes chwarae gwych ar gyfer creadigrwydd a hunanfynegiant.

Alla i ddim meddwl am lawer o hobïau eraill lle gallwch chi chwarae a chreu rhywbeth gyda phobl eraill, ac os yw pethau’n mynd o’i le, mae’n rhan o’r eiliad honno mewn amser. Rydych chi’n chwerthin a symud ’mlaen.

Daliwch ati i ddawnsio, ond yn bwysicach fyth, daliwch ati i ddysgu

Hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn i’r athrawon gwych dwi wedi’u cael yng Nghaerdydd dros y blynyddoedd: Anna Rogers ac Ollie Parham, Jessie Brooks a Benjie Talbot, a’r ffrindiau da rydw i wedi’u gwneud – rydw i’n dysgu’n barhaus wrthyn nhw hefyd.

Os ydych chi yng Nghaerdydd a’r cyffiniau ac awydd rhoi cynnig arni, ymunwch â chymuned Swing Project sy’n dawnsio yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter bob wythnos mewn dosbarthiadau a digwyddiadau cymdeithasol am ddim.

Neu os ydych chi awydd clywed tiwns bachog, rydw i wedi llunio rhestr chwarae gyflym i chi o fy ffefrynnau – maen nhw bob amser yn fy rhoi i mewn hwyliau da. Gwrandwch ar Spotify.

  • Lavender Coffin – Lionel Hampton
  • Bill Bailey, won’t you please come home – Ella Fitzgerald
  • I Wish I Knew How It Would Feel to Be Free – Nina Simone
  • I didn’t like it the first time (The Spinach Song) – Julia Lee and her boy friends
  • Ain’t nobody here but us chickens – Louis Jordan
  • Just a gigolo / I ain’t got nobody – Louis Prima

Rydw i wrth fy modd yn swingio i Lavender Coffin, ac rydw i’n dwlu dawnsio i Ella Fitzgerald ar bob cyfle ga’ i. A bydd bob amser lle yn fy nghalon Lindi i Shoo Fly Pie and Apple Pan Dowdy gan mai dyma un o’r caneuon cyntaf i ni wrando arni mewn gwersi.

Cân arall a fydd bob amser yn ffefryn yw’r hynod wirion Ain’t Nobody Here but Us Chickens, y dysgodd Lindi Hop Caerdydd drefniant iddi i gymryd rhan yn Ninas yr Annisgwyl, dathliad pen-blwydd Roald Dahl yn 100 oed a orchfygodd Gaerdydd am ddeuddydd cyfan yn 2016.

Beth sy’n gwneud i ti wenu?

Er y byddwn i wrth fy modd yn gweld pawb a’u mam yn gwneud Lindi Hop, rwy’n gwybod na fydd at ddant pawb. Mae’n werth gwneud beth bynnag sy’n eich codi ar eich traed sydd ddim yn rhy anodd i’w ffitio i mewn i’ch diwrnod – ar rai diwrnodau gall hynny olygu mynd am dro gyda phodlediad da.

Fe’ch gadawaf gyda geiriau doeth gan un o sylfaenwyr Lindi Hop, Mr Frankie Manning: “Dydw i erioed wedi gweld Lindi Hopiwr sydd ddim yn gwenu. Mae’n ddawns hapus. Mae’n gwneud i chi deimlo’n dda.”

Adnoddau

Lluniau du a gwyn gan y ffotograffydd Nick Treharne

Catrin Hopkins

Catrin yw'r Swyddog Cyfathrebu ar gyfer yr NCMH a Canolfan CYF Prifysgol Caerdydd.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd