Skip to main content

Defnyddio dyfeisiau clyfar i ragfynegi cyfnodau o seicosis

Mae astudiaeth newydd i arferion ffôn pobl sydd wedi profi seicosis yn gobeithio gallu adnabod arwyddion cynnar cyfnod o seicosis sydd ar ddod.

Mae Prifysgol Caerdydd yn un o chwe phrifysgol o bob rhan o’r DU sy’n ymwneud â’r prosiect newydd, CONNECT.

Mae gan ymchwilwyr ddiddordeb mewn gweld sut y gellid defnyddio ffonau clyfar ac oriorau i ragfynegi pryd y gallai rhywun brofi cyfnod o seicosis.

Eglurodd Dr Kimberley Kendall, ymchwilydd o Gaerdydd sy’n gweithio ar y prosiect, “Gall pobl o bob cefndir brofi seicosis. Prif symptomau seicosis yw rhithweledigaethau, rhithdybiau, dryswch o ran meddwl a lleferydd. Fodd bynnag, mae symptomau cynnar cyfnod o seicosis yn anodd eu canfod ac yn aml yn cynnwys lefelau uwch neu ostyngiad o gwsg a gweithgaredd.”

Gan ddefnyddio ffôn clyfar ac oriawr pwrpasol, bydd ymchwilwyr yn casglu data fel cyfradd curiad y galon, cyfrif camau, ansawdd cwsg, a lefelau gweithgaredd gan gyfranogwyr sydd â hanes o seicosis,

Trwy ddadansoddi’r data dienw hwn, mae ymchwilwyr yn gobeithio nodi patrwm cynnar o ddatblygiad symptomau neu ymddygiadau a all ddangos fod cyfnod o seicosis ar ddodyn gynharach.

Cofnodi profiadau pobl

Yn ogystal â chyfrif camau, lefelau gweithgaredd, ansawdd cwsg, a chyfradd curiad y galon, bydd ymchwilwyr hefyd yn casglu gwybodaeth am weithgaredd ffôn cyffredinol.

Gall hyn fod yn nifer y negeseuon testun a anfonwyd ac a dderbyniwyd, hyd galwadau ffôn, defnydd ap, a lleoliad.

Bydd ymchwilwyr yn defnyddio’r wybodaeth ddienw hon i weld a allai lefelau is o ryngweithio cymdeithasol, megis mynd allan, tecstio, a gwneud galwadau ffôn ddangos arwyddion cynnar o gyfnod o seicosis.

Trwy gydol yr astudiaeth, gofynnir i gyfranogwyr hefyd ateb holiaduron byr ychydig o weithiau’r wythnos am eu lles cyffredinol a chwrdd ag ymchwilydd bob tri mis am asesiad.

Manteision cymryd rhan

Er mai budd allweddol cymryd rhan yw’r cyfraniad at ymchwil a all helpu i nodi symptomau cynnar a all atal cyfnod o seicosis o bosibl,

Trwy gymryd rhan yn yr ymchwil hwn, bydd gwirfoddolwyr yn cyfrannu at ddatblygu gwybodaeth newydd a allai helpu pobl sy’n profi seicosis yn y dyfodol.

Mae ymchwilwyr hefyd yn gobeithio, trwy fynd ati i fonitro meddyliau, hwyliau, ansawdd cwsg, a gweithgaredd cyffredinol, y bydd cyfranogwyr yn dod i ddeall sut y gall yr elfennau hyn effeithio ar eu lles.

Mae’r manteision eraill yn cynnwys:

  • Ar ddiwedd cymryd rhan yn yr astudiaeth 12 mis, byddwch yn gallu cadw’r ffôn clyfar a’r ddyfais gwisgadwy (os gwnaethoch ofyn am un i’w defnyddio yn ystod yr astudiaeth).
  • Bydd yr astudiaeth hefyd yn talu am eich costau rhwydwaith data am yr amser yr ydych yn defnyddio ap CONNECT, ac am fynychu asesiadau ymchwil dros y 12 mis. Byddwch hefyd yn cael eich ad-dalu am unrhyw deithio rhesymol i ac o apwyntiadau ymchwil.
  • Ar ddiwedd yr astudiaeth, byddwch yn cael crynodeb o’ch gwybodaeth a chyfle i siarad amdani gyda’r tîm ymchwil.

Dywedodd Dr Kendall; “Rydym yn gosod unigolion sydd â phrofiad byw o seicosis wrth wraidd astudiaeth Connect. Os ydych chi wedi cael profiad o seicosis o’r blaen ac eisiau ein helpu ni i wneud gwahaniaeth, rydyn ni eisiau clywed gennych chi.”

Ewch i wefan CONNECT i gael gwybod mwy am y gallwch chi helpu heddiw

Ellie Short

Ellie yw Swyddog Cyfathrebu NCMH a Chanolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd