Skip to main content

Sut gall y menopos effeithio’n negyddol ar iechyd meddwl?

Nod ein cyfres newydd o weminarau i fenywod dros y gaeaf yw gallu cynnig cyfres o weminarau sy’n trafod sut mae prosesau atgenhedlu megis beichiogrwydd, y cylch mislifol a heneiddio atgenhedlol yn effeithio ar iechyd meddwl menywod a phobl y nodwyd eu bod yn fenywod adeg eu geni (AFAB).

Amcangyfrifir bod tua 70% o’r 1.2 biliwn o fenywod ledled y byd dros 45 oed yn datblygu symptomau niwrolegol a seiciatrig yn ystod y perimenopos (y blynyddoedd hynny cyn cyfnod y mislif olaf).

Mae’r perimenopos yn cael ei nodi gan amrywiadau anrhagweladwy mewn hormonau atgenhedlu, a chylchoedd heb ofyliad y gellir disgwyl iddynt bara tua phum mlynedd yn nodweddiadol.

Mae gwaith ymchwil hefyd yn awgrymu bod menywod yn eu perimenopos mewn mwy o berygl o ddatblygu iselder difrifol, sgitsoffrenia, neu anhwylder deubegynol, tra bydd y symptomau a brofir gan y menywod hynny sydd eisoes wedi cael diagnosis yn gwaethygu.

Fodd bynnag, prin ac anghyson yn aml yw’r wybodaeth sydd ar gael am y cysylltiad rhwng y perimenopos ac iechyd meddwl, a’r hyn sy’n achosi i rywun fynd yn sâl yn ystod y cyfnod hwn o bontio i’r menopos. Mae’r diffyg gwybodaeth hwn yn peri risg fawr i fenywod, eu teuluoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol.

Ar gyfer rhan gyntaf y gyfres hon, ymunodd yr Athro Arianna Di Florio, Lisa Shitomi-Jones, Dr Clare Dolman â ni i drafod sut y gall y menopos effeithio ar iechyd meddwl trwy waith ymchwil a safbwynt rhywun sydd â phrofiad bywyd.

Gwyliwch y gweminar llawn nawr

Y perimenopos – llawer o ddiddordeb ond ychydig o dystiolaeth

Mae’r Athro Arianna Di Florio yn disgrifio’r cysylltiad rhwng y menopos a salwch meddwl fel un sy’n aml yn cael ei anwybyddu a’i gamddeall.

“Rydyn ni’n gwybod bod dros 50% o bobl sy’n mynd drwy’r menopos yn profi cyflyrau niwroseiciatrig, fel iselder ac anhunedd.”

 Fodd bynnag, mae’r mecanweithiau y tu ôl i brofiadau o salwch meddwl yn wahanol o berson i berson, sy’n ei gwneud hi’n anodd darparu triniaeth eang i bawb.

Mae cynnig atebion gonest hefyd yn dod yn fwyfwy anodd wrth edrych ar gwmpas presennol y gwaith ymchwil ar y menopos a salwch meddwl, gan fod y mwyafrif ohonynt yn adolygiadau neu’n astudiaethau achos o ddata a gasglwyd yn flaenorol.

a graph outlining that the majority of research into the menopause and mental illness are reviews and case reports

Arweiniodd hyn at ymchwilwyr a oedd yn gweithio ar y Rhaglen Iechyd Meddwl Atgenhedlol ym Mhrifysgol Caerdydd, yr Athro Arianna Di Florio a Lisa Shitomi-Jones, i ymchwilio ymhellach i’r risg o ddatblygu salwch meddwl yn ystod y perimenopos.

“Y cwestiwn allweddol y tu ôl i’n gwaith ymchwil yw gofyn a yw’r perimenopos mewn gwirionedd yn gyfnod o risg uwch o ddatblygu salwch meddwl.”

A oes cysylltiad uniongyrchol rhwng y perimenopos a salwch meddwl?

Hyd yn hyn, mae’r gwaith ymchwil a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerdydd wedi edrych ar gysylltiadau rhwng y perimenopos a chyflyrau iechyd meddwl penodol fel anhwylder iselder mawr, anhwylderau gorbryder, mania, a sgitsoffrenia, yn hytrach na symptomau sy’n gysylltiedig yn fwy cyffredinol ag iselder.

Gan gyfuno gwybodaeth o set ddata sy’n bodoli eisoes, UK Biobank, mae’r gwaith ymchwil cychwynnol wedi nodi cyfradd uwch o fania (anhwylder deubegynol) yn ystod cyfnod y perimenopos.

Fodd bynnag, yr hyn sy’n ddiddorol yw nad oes gan y rhai sydd mewn mwy o berygl unrhyw brofiadau blaenorol o salwch meddwl.

Felly, beth mae’r cysylltiad hwn rhwng anhwylder deubegynol a’r perimenopos yn ei olygu?

Mae’r Athro Di Florio yn awyddus i ymchwilio ymhellach i weld a all y risg uwch hon o anhwylder deubegynol fod yn uniongyrchol gysylltiedig â’r perimenopos, neu os yw hyn oherwydd y broses heneiddio yn y cyfnod bywyd hwn yn fwy cyffredinol.

“Er bod y cyflwyniadau seiciatrig mwyaf cyffredin o amgylch y perimenopos yn ymwneud ag iselder, gorbryder ac anhwylder deubegynol yn brin, mae’r cysylltiad yn dal yn eithaf penodol.”

“Gall canlyniadau datblygu anhwylder deubegynol yn y canol oed fod yn ddinistriol, oherwydd nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn meddwl y gall fod yn bosibl ar hyn o bryd mewn bywyd,” Yr Athro Di Florio yn parhau.

Hyd yn hyn, mae’r Athro Di Florio wedi defnyddio’r cefndir hwn o waith ymchwil i agor clinig iechyd meddwl i roi ail farn i fenywod ledled y DU, wedi’i leoli yng Nghaerdydd.

Mae’r gwasanaeth rhad ac am ddim hwn yn cynnig ymgynghoriadau i fenywod sy’n profi salwch meddwl sy’n gysylltiedig â digwyddiadau bywyd atgenhedlol fel y mislif, genedigaeth a’r menopos, er mwyn rhoi cymorth pellach iddynt gyda diagnosis a thriniaeth.

Rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Seiciatreg Prifysgol Caerdydd (CUPS)

Mae angen addysg ym maes y menopos ar raddfa genedlaethol

Trafododd Dr Clare Dolman, ymchwilydd yng Ngholeg y Brenin Llundain, sydd â phrofiad byw o anhwylder deubegynol, y safbwyntiau presennol ar y menopos mewn cymdeithas:

“Dim ond yn ddiweddar y codwyd ymwybyddiaeth y cyhoedd o ba mor wanychol a newidiol y gall y menopos fod i lawer o fenywod.”

Fodd bynnag, mae angen dybryd am yr ymwybyddiaeth hon oherwydd y niferoedd cynyddol o fenywod proffesiynol sy’n gadael y gweithle yn ystod y menopos oherwydd difrifoldeb eu symptomau.

“Mae hwn yn achos pryder mawr […] mae bron i 900,000 o fenywod wedi gadael eu swyddi oherwydd symptomau’r menopos.”

Pe baem ni’n gwybod digon am effaith hormonau ar yr ymennydd, gallai fod yn bosibl rhagweld pa fenywod fyddai’n fwy tebygol o ddatblygu symptomau difrifol ar adegau o lif hormonaidd, fel genedigaeth neu’r perimenopos.

Dyma’r wybodaeth hollbwysig y mae angen i feddygon a chlinigwyr, yn ogystal â chleifion, ei gwybod er mwyn bod yn rhagweithiol cyn cyrraedd y perimenopos ac o bosibl yn mynd yn sâl.

Er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg gwybodaeth a gwaith ymchwil yn ymwneud â’r menopos ac iechyd meddwl, lansiodd Bipolar UK gomisiwn cenedlaethol yn ddiweddar a oedd yn cynnwys adran ymchwil wedi’i neilltuo i fenywod o oedran y menopos.

Datgelodd y data hwn fod 89% o fenywod a holwyd wedi dweud nad oedd gweithiwr iechyd proffesiynol erioed wedi dweud wrthynt eu bod yn fwy tebygol o gael pwl o anhwylder deubegynol ar hyn o bryd.

Mae’r comisiwn llawn ar gael i’w ddarllen drwy Bipolar UK.

Dysgwch fwy a gwyliwch y gweminar llawn ar-lein nawr.

Peidiwch â cholli’ch cyfle!

Bydd rhan gyntaf cyfres y gaeaf o weminarau i fenywod yn archwilio’r diweddaraf am sut y gall hormonau effeithio ar iechyd meddwl, gan gynnwys y gwaith ymchwil diweddaraf mewn anhwylder dypsfforig cyn y mislif.

Cadwch eich lle trwy Eventbrite.

Rhagor o wybodaeth

Ellie Short

Ellie yw Swyddog Cyfathrebu NCMH a Chanolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd