Skip to main content

Podlediad Piece of Mind: Y cysylltiad cudd rhwng hormonau ac iechyd meddwl

Yn y bennod ddiweddaraf o’r podlediad Piece of Mind, buom yn trafod realiti byw gydag Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (PMDD) a'r diweddaraf o’r byd ymchwil gyda'r ymgyrchydd Becci Smart a'r ymchwilydd Chloe Apsey.

Mae PMDD yn anhwylder hwyliau sydd fel arfer yn digwydd bythefnos cyn dechrau gwaedu mislifol ac yn dod i ben o fewn ychydig ddyddiau cyntaf y mislif, a elwir hefyd yn gyfnod lwteal. Mae symptomau PMDD yn ddifrifol ac yn effeithio’n fawr ar les seicolegol y rhai sy’n cael eu heffeithio ganddo. Mae’n gyffredin i hyn gynnwys syniadau am hunanladdiad.

Er yr amcangyfrifir bod tua 5% o’r boblogaeth yn profi PMDD, gallai’r nifer hwn fod yn llawer uwch gan nad oes llawer o wybodaeth o hyd am yr hyn sy’n achosi’r cyflwr a sut yn union y gellir ei ddiagnosio a’i drin yn effeithiol.

Cafodd Becci brofiad o’r dryswch hwn yn uniongyrchol pan gafodd ddiagnosis hwyr yn 2019, ar ôl deunaw mlynedd o afiechyd meddwl. Roedd hyn yn cynnwys derbyn nifer o gamddiagnosisau, gan gynnwys anhwylder deubegynol ac iselder ôl-enedigol.

“Nid nes i fy merch gael ei geni yn 2019 y cyrhaeddais bwynt argyfyngus, a dywedais wrth fy ngŵr nad oeddwn yn siŵr a fyddwn i’n cyrraedd y mis nesaf.”

Rhybuddiodd meddyg teulu Becci hi am PMDD am y tro cyntaf ar ôl iddi sôn mai’r unig amser nad oedd hi wedi profi symptomau oedd pan oedd hi’n feichiog.

“Sylweddolais na ddylech chi fod yn teimlo’n hunanladdol yn y cyfnod cyn eich mislif.”

Ers ei diagnosis mae Becci wedi codi ymwybyddiaeth o PMDD drwy ymddangos ar y teledu, y radio, y cyfryngau cymdeithasol ac ar y newyddion lleol yn galw am fwy o addysg mewn lleoliadau meddygol a phrifysgolion fel ei gilydd, yn ogystal â sicrhau bod meddygon teulu yn cael eu cefnogi’n ddigonol.

Bu Becci hefyd yn trafod realiti byw gyda PMDD a’i effaith ar berthnasoedd rhieni a theuluoedd.

“Mae’n rhaid i mi ddweud hyn wrth bawb; dydy bod â PMDD ddim yn fy ngwneud i’n rhiant gwael nac yn fam wael.”

Chwilio am atebion – beth mae’r ymchwil wedi ei ddweud wrthym?

Mae ymchwil PMDD wedi arwain at fwy o ymwybyddiaeth o’r cyflwr a sut y gall effeithio ar fywydau pobl. Fodd bynnag, mae’r ddadl yn parhau ynghylch a ddylid ei ddylid ei drin fel cyflwr seicolegol neu gynaecolegol.

Mae Becci yn ychwanegu: “Mae llawer mwy i’w ddarganfod  am PMDD. Mae llawer o’r ymchwil yn wrthrychol ac nid yw’n ystyried brwydrau mewnol a pha mor ddifrifol yw’r anhwylder.”

Mae hyn yn rhywbeth y mae ymchwilwyr yn NCMH yn ei herio drwy wahodd pobl i gymryd rhan yn ein hymchwil. Mae diddordeb gennym glywed gan unrhyw un sydd ag unrhyw brofiad o syndrom cyn mislif  (PMS) hyd yn oed os nad oes ganddynt ddiagnosis o PMDD neu os nad ydynt wedi siarad eto â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol amdano.

Mae’r ymchwil hon hefyd yn defnyddio data genetig trwy gasglu samplau poer, sy’n golygu y gall cyfranogwyr sydd wedi cael profiad o symptomau PMDD o’r blaen gymryd rhan, gan nad yw data genetig yn newid.

Trafododd Chloe, ymchwilydd NCMH sy’n gysylltiedig â’r astudiaeth, oblygiadau dadansoddi data genetig, lle gallai ymchwilwyr nodi tebygrwydd rhwng geneteg PMDD ac anhwylderau hwyliau eraill, megis anhwylder deubegynol tra’n sefydlu PMDD fel ei ddiagnosis ar wahân ei hun.

Dywedodd Chloe: “Rydym wedi mabwysiadu ymagwedd ymgysylltu gyhoeddus iawn tuag at ein hymchwil. Mae pobl sydd â phrofiad o fyw gyda PMDD yn aml yn fwy o arbenigwyr na’r ymchwilwyr sy’n edrych ar feini prawf diagnostig safonol.”

Mae llawer o ymchwil PMDD gyfredol hefyd yn gofyn i gyfranogwyr am eu symptomau yn ôl-weithredol, er gwaethaf y ffaith bod y meini prawf diagnostig ar gyfer yr anhwylder yn nodi bod angen i gleifion fod wedi llenwi dyddiadur dyddiol yn monitro’u hwyliau am ddau fis neu fwy.

Mae’r prosiect PreDDICT yn herio hyn drwy ofyn i gyfranogwyr lenwi dyddiadur dyddiol yn monitro’u hwyliau er mwyn casglu mwy o wybodaeth am olwg symptomau PMDD o ddydd i ddydd.

Gwrandewch ar y sgwrs lawn ym Mhennod 11 o’r podlediad Piece of Mind , sydd ar gael nawr ar Acast, Spotify, ac Apple.

Rhagor o wybodaeth

NCMH | Cymryd rhan yn ein hymchwil PMDD

NCMH | Torri’r stigma: Anhwylder Dysfforig Premenstrual (PMDD)

NCMH | Hormonau a’m Hiechyd Meddwl; mae PMDD yn fy ngwneud yn gyfan

 

 

Ellie Short

Ellie yw Swyddog Cyfathrebu NCMH a Chanolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd