Skip to main content

Lansio astudiaeth genedlaethol i gyflyrau iechyd meddwl a dementia

Mae UK Minds yn brosiect ymchwil cenedlaethol sy'n edrych ar brofiadau a diagnosis o sgitsoffrenia, seicosis, iselder, deubegynol a dementia.

Dychmygwch pe gallech fynd at y meddyg teulu am brawf sy’n asesu eich risg o ddatblygu dementia, neu gyflwr iechyd meddwl fel deubegwn?

Mae UK Minds yn brosiect ymchwil cenedlaethol sy’n anelu casglu gwybodaeth am amgylchfyd, bioleg a ffordd o fyw pobl ac mae’n gydweithrediad rhwng y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd ac Akrivia Health.

Y nod yw darparu rhai o’r atebion y mae dirfawr angen amdanynt a fydd yn gwthio ein dealltwriaeth ymlaen o pam mae rhai pobl yn cael problemau gyda’u hiechyd meddwl a/neu wybyddol.

Gan ddefnyddio cofnodion iechyd dienw’r GIG a gedwir ar lwyfan Akrivia, bydd UK Minds yn cyfuno’r wybodaeth hon â data a gasglwyd gan Ymchwilwyr NCMH mewn cyfweliad, gan gynnwys samplau gwaed.

Bydd hyn yn creu cronfa ddata helaeth o wybodaeth y gellir ei defnyddio gan ymchwilwyr i ymchwiliadau pellach i wella diagnosis, triniaeth, a therapïau cyffuriau ar gyfer cyflyrau salwch meddwl a dementia.

Mae gan y prosiect nod cychwynnol i recriwtio cyfranogwyr i un o dri grŵp:

  • Prif garfan o 6000 o gyfranogwyr â diagnosis iechyd meddwl
    • 1000 o’r nifer hwn i fod wedi darparu data biolegol (samplau gwaed)
  • 1000 o gyfranogwyr â diagnosis dementia

Felly, beth mae prosiect MINDS y DU yn ei gynnwys os ydych am gymryd rhan?

Mae’r prosiect yn cynnwys cyfranogwyr yn ymgymryd â sgrinio sylfaenol i gadarnhau a allant gymryd rhan.

Gofyniad allweddol i gymryd rhan yw bod cyfranogwyr yn cael diagnosis o seicosis, sgitsoffrenia, deubegwn, neu iselder gyda chyfranogiad gofal eilaidd megis y tîm iechyd meddwl cymunedol lleol, seiciatreg neu wasanaethau argyfwng.

Ar gyfer rhan ddementia’r astudiaeth, rhaid i unigolion gael diagnosis o Alzheimer, dementia fasgwlaidd, Dementia Frontotemporal neu nam gwybyddol ysgafn.

 Os yn gymwys i gymryd rhan, bydd ymchwilwyr yn cynnal cyfweliad byr 1 awr naill ai o bell, yng nghartref yr unigolyn, neu yn un o’n safleoedd ymchwil.  Bydd sampl gwaed bach o ddim mwy na 50ml yn cael ei gymryd hefyd.

Pam ydych chi’n cymryd samplau gwaed?

Bydd samplau gwaed yn cael eu defnyddio at amrywiaeth o ddibenion ymchwil gan gynnwys creu llinellau celloedd ac astudio nodweddion biolegol.

Bydd hyn yn galluogi ymchwilwyr i chwilio am enynnau a ffactorau eraill a allai wneud rhai pobl yn fwy tebygol nag eraill o fynd yn sâl.

Cofrestrwch eich diddordeb heddiw

Fel diolch am eu hamser bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn derbyn naill ai daliad o £25 neu £50 neu daleb rhodd. Gellir talu costau teithio hefyd os ydych yn teithio i safle ymchwil.

Gwrandewch yn awr

Buom hefyd yn trafod UK Minds gyda’r cyfranogwr, Dave, a Rheolwr Prosiect Holly Pearce ar ein podlediad Piece of Mind. 

Liam Cooper-King
Mae Liam yn Uwch Gynorthwyydd Seicoleg sy'n gweithio ar brosiect UK Minds yn
Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd