Skip to main content

Bod yn gefn i bobl ifanc ag anableddau dysgu neu awtistiaeth, o ran cael gwaith: Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH) sy’n darganfod beth sy’n gweithio

Mae'r Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol (NCMH) wedi bod yn cydweithio ag Engage to Change, prosiect saith mlynedd o hyd sydd wedi darparu cymorth cyflogaeth i dros 1000 o bobl ifanc yng Nghymru sydd ag anabledd dysgu neu awtistiaeth.

Wedi’i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae’r prosiect Engage to Change yn dwyn ynghyd asiantaethau cyflogaeth gefnogol sy’n gweithio gyda chyflogwyr i gynnig lleoliadau, swyddi, ac interniaethau â chymorth am dâl.

Uchafbwyntiau’r Adroddiad

Cyflawnodd y prosiect Engage to Change gyfradd gyflogaeth gyffredinol o 23% ar gyfer pobl ifanc ag anableddau dysgu neu awtistiaeth yn ystod y bum mlynedd gyntaf.

Mae hyn yn ganlyniad calonogol o’i gymharu â’r gyfradd gyfartalog genedlaethol o 4.8%, neu 5 ym mhob 100 o bobl ifanc.

Roedd oedran a phrofiad gwaith blaenorol yn gysylltiedig â chyfraddau cyflogaeth uwch, gyda phobl ifanc rhwng 23 a 26 oed yn fwy tebygol o sicrhau cyflogaeth am dâl.

Llwyddodd 37% o bobl ifanc a brofodd gyfnod sylweddol o brofiad gwaith, megis mewn lleoliadau ac interniaethau â chymorth am dâl, i gael cyflogaeth am dâl wedi iddynt gael eu cefnogi gan Engage to Change.

Mae’r ffigwr hwn yn awgrymu bod profiad gwaith hirdymor yn arwain at ganlyniadau gwell o ran cyflogaeth gan ei fod yn cynyddu hyder mewn meithrin sgiliau, ac ar yr un pryd yn rhoi amser i bobl ifanc ddarganfod beth sy’n gweithio iddyn nhw a pha swyddi y maen nhw am eu cael.

Canfu’r astudiaeth hefyd fod gwahaniaethau rhwng rhyweddau, gyda dim ond tri o bob 10 unigolyn ifanc a gyfeiriwyd at y prosiect yn uniaethu fel benywod.

“Mae’r gwahaniaeth hwn yn peri pryder ac yn dangos fod angen gwella rhywbeth er mwyn sicrhau bod menywod ifanc ag anableddau dysgu yn manteisio ar yr un cyfleoedd cyflogaeth â dynion ledled Cymru. “ Cydymaith Ymchwil NCMH Dr Elisa Vigna

Gweithiodd ymchwilwyr NCMH gydag Annie George Foster, Ffion Parsons, George Clarke, Tom Oakes a Tyler Savory, sef cyfranogwyr blaenorol y prosiect, a Llysgennad Arweiniol Engage to Change, Gerraint Jones-Griffiths, i gyd-gynhyrchu fideo hygyrch sy’n cyflwyno’r canfyddiadau hyn.

Gwyliwch uchafbwyntiau’r adroddiad

“Mae gwell cyfleoedd o ran cyflogaeth yn arwain at fwy o integreiddiad a symudedd cymdeithasol sydd, yn ei dro, yn arwain at well ansawdd bywyd a llesiant. Rydym yn galw ar Lywodraethau’r DU a Chymru i fuddsoddi yn nyfodol yr unigolion talentog hyn,” meddai Dr Vignae.

Darllenwch y papur llawn, ‘Dadansoddiad demograffig ac ansoddol o’r hyn sy’n effeithio ar lwyddiant prosiect Cyflogaeth â Chymorth Cenedlaethol’. 

Pwysigrwydd cefnogaeth anogwyr gwaith

Mae tîm Ymchwil NCMH hefyd wedi cynhyrchu adroddiad sy’n canolbwyntio ar rôl a phwysigrwydd anogwyr gwaith i’r prosiect Engage to Change.

Mae Anogwyr Gwaith yn darparu cefnogaeth wedi’i theilwra i helpu unigolion i ddysgu tasgau gwaith penodol a rhoi’r offer iddynt allu llywio rheolau, cydberthnasau ac amgylchedd yn y gweithle er mwyn hyrwyddo annibyniaeth.

 Un o egwyddorion allweddol anogaeth gwaith yw y dylid canolbwyntio ar allu yn hytrach nag ar anabledd.

“Mae ymchwil wedi dangos y gall pobl ag anableddau dysgu ddysgu tasgau a phrosesau gwaith cymhleth a chyfrannu’n llawn at fusnes pan fydd y gwaith cyfatebol cywir a’r cymorth a arweinir gan anghenion ar waith,” meddai Andrea Meek, sydd wedi bod yn cynorthwyo gyda’r ymchwil hwn.

Casglwyd data gan anogwyr gwaith Engage to Change ledled Cymru a amlygodd gryfderau’r pwyslais y mae anogaeth gwaith yn ei roi ar ddull a arweinir gan anghenion fel y gellir darparu cefnogaeth wedi’i theilwra.

Canfu’r data hwn hefyd fod anogwyr gwaith yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o helpu’r bobl ifanc sy’n rhan o’r prosiect i gael mynediad at amrywiaeth o lwybrau tuag at gyflogaeth.

Gall canfyddiadau’r adroddiad ddarparu mewnwelediad sydd wir ei angen ar gyfer darparwyr cyflogaeth â chymorth, llunwyr polisi a chyllidwyr, gyda’r nod o wella canlyniadau cyflogaeth ar gyfer pobl sydd ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth ledled Cymru.

“Byddai darparu rhaglen anogaeth gwaith a ariennir yn genedlaethol yn rhoi mwy o amser i bobl ifanc ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth feithrin sgiliau gwaith perthnasol a datblygu fel y gallant sicrhau cyflogaeth ôl-addysg.

Mae angen cydnabod fod annog gwaith yn rôl arbenigol ac mae angen ei chefnogi’n ehangach drwy bolisi a chyllid”.

Darllenwch y papur llawn ‘Rôl a Phrofiad yr Anogwr Gwaith: Profiad o brosiect Cyflogaeth â Chymorth Cenedlaethol’.

Mae fideo a gynhyrchwyd ar y cyd, sy’n cynnwys cyfranogwyr y prosiect Kurtis Marshall (Pobl yn Gyntaf Bro Morgannwg) a Gerraint Jones-Griffiths (Llysgennad Arweiniol Engage to Change) wedi’i greu i dynnu sylw at rôl yr Anogwr Gwaith.

A oeddech yn gwybod?

Mae Prifysgol Caerdydd yn gorff sy’n cyflogi ar gyfer Engage to Change: Mae Project SEARCH yn rhaglen interniaeth â chymorth sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc ag anabledd dysgu neu awtistiaeth dreulio blwyddyn academaidd yn gweithio gyda mentoriaid ar draws gwahanol adrannau o’r Brifysgol i feithrin sgiliau a phrofiad gwaith.

Mae rhai o aelodau staff NCMH yn gyn-interniaid!

I ddysgu mwy am Broject SEARCH a sut y gallech chi groesawu intern, cysylltwch â e2c@cardiff.ac.uk

Adnoddau

Engage to Change | Hafan

Engage to Change | Facebook

Engage to Change | Twitter

Ellie Short

Ellie yw Swyddog Cyfathrebu NCMH a Chanolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd