Skip to main content

Gallai cynyddu mynediad i driniaeth ar gyfer problemau iechyd meddwl cyffredin ymysg mamau gael buddiannau net o hanner biliwn o bunnoedd

Mae problemau iechyd meddwl mamau yn bryder iechyd cyhoeddus sylweddol. Gall effeithio ar gynifer ag un o bob pum menyw, a heb driniaeth, gall y problemau hyn gael effaith ddinistriol ar fenywod a'u teuluoedd.

Yn anffodus, gwyddom mai problemau iechyd meddwl mamau yw prif achos marwolaeth ymysg mamau yn y flwyddyn gyntaf ar ôl genedigaeth o hyd.

Y gofal cywir ar yr adeg iawn

Dros y pum mlynedd diwethaf, bu buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol ym mhob un o bedair gwlad y DU. Mae hyn wedi arwain at ddarparu gwasanaethau arbenigol newydd sy’n cefnogi menywod a theuluoedd yr effeithir arnynt gan y problemau iechyd meddwl mwyaf difrifol a chymhleth ymysg mamau.

Erys bylchau yn narpariaeth gwasanaethau arbenigol y mae’n rhaid mynd i’r afael â hwy. Ochr yn ochr â hyn, mae angen mwy o ymrwymiad hefyd i gefnogi’r nifer fwy o fenywod sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl amenedigol cyffredin fel iselder a gorbryder. Heb fynediad i’r gofal cywir ar yr adeg gywir, gall problemau iechyd meddwl amenedigol cyffredin gael effaith hirdymor a dinistriol ar fenywod a theuluoedd.

Model gofal integredig

Mewn adroddiad annibynnol newydd a gomisiynwyd gan Gynghrair Iechyd Meddwl Mamau (MMHA), mae ymchwilwyr o Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth Llundain (LSE) yn amcangyfrif costau a buddiannau mynd i’r afael ag anghenion iechyd meddwl cyffredin ymysg mamau sydd heb eu diwallu.

A mother clutches her sleeping baby as she uses a laptop

Archwiliodd adroddiad LSE yr economeg sydd ynghlwm wrth ‘fodel gofal integredig’ a fyddai’n golygu bod gofal iechyd meddwl ar gyfer problemau iechyd meddwl cyffredin yn cael ei integreiddio i wasanaethau mamolaeth ac ymwelwyr iechyd. Byddai hyn yn caniatáu i lesiant meddyliol menywod gael ei asesu’n gywir ym mhob cyswllt arferol, a bod cyngor, cymorth a thriniaethau addas yn cael eu cynnig – yn yr un modd â chyflyrau corfforol fel diabetes neu bwysedd gwaed uchel.

Mae’r ymchwilwyr yn dod i’r casgliad y gallai newidiadau i arferion safonol gael buddiannau economaidd net o £490 miliwn dros ddeng mlynedd, sef £52 miliwn o arbedion i’r GIG a gwelliannau i ansawdd bywyd gwerth £437 miliwn.

Mewn cyferbyniad â hyn, mae’r adroddiad yn canfod bod yr arfer presennol yn golygu nad oes modd i lawer o fenywod gael mynediad at driniaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth pan fydd ei hangen arnynt ac yn y lle y mae ei hangen arnynt.

O dan y model arfaethedig, byddai ymwelwyr iechyd, bydwragedd ac ymarferwyr iechyd meddwl yn cael hyfforddiant penodol ac yn cael eu cyflogi i gynnig cymorth pwrpasol ar gyfer iechyd meddwl menywod, ochr yn ochr â’u cefnogi nhw a’u baban gyda’u hiechyd a’u llesiant corfforol. Pe bai’n cael ei weithredu, byddai gan y model darparu gwasanaeth integredig hwn y potensial i atgyfnerthu’r ddarpariaeth bresennol drwy sicrhau bod pob menyw yn cael ei holi ar bob cyfle am ei hiechyd meddwl, ac yna’n cael cynnig ymyriadau dwysedd isel sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi iechyd meddwl a llesiant da os ydynt yn teimlo dan straen, yn bryderus neu’n isel neu os oes ganddynt broblemau iechyd meddwl cyffredin eraill.

Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau

Mae’r adroddiad yn mesur yr adnoddau sydd eu hangen i ddarparu’r model gofal hwn yn erbyn eu henillion economaidd. Mae cost gyfunol y model hwn ledled y DU yn cyfateb i £124 miliwn y flwyddyn, a fyddai’n gost o £6 miliwn y flwyddyn i Gymru.

Mae’r costau’n cynnwys hyfforddiant i fydwragedd, ymwelwyr iechyd ac ymarferwyr iechyd meddwl, a chostau eu cyflogi.

Er mwyn i’r model hwn fod yn effeithiol, rhaid iddo hefyd fynd i’r afael ag anghydraddoldebau presennol ym mhrofiadau menywod o ofal mamolaeth ac iechyd meddwl. Felly, bydd yn hanfodol datblygu darpariaeth gwasanaethau integredig mewn ffordd deg, gan geisio diwallu anghenion pob menyw.

Mae’r ymchwil hon yn darparu glasbrint cyffrous ar gyfer ateb realistig a chosteffeithiol a allai wella bywydau cymaint o fenywod a theuluoedd yr effeithir arnynt gan broblemau iechyd meddwl mamau ledled y DU – mamau’r genhedlaeth hon a’r un nesaf.

Darllen mwy

  • Gallwch ddarllen yr adroddiad yma.
  • Gallwch ddarllen y dadansoddiad polisi yma.
Dr Sarah Witcombe-Hayes

Dr Sarah Witcombe-Hayes yw Uwch Ymchwilydd Polisi NSPCC yng Nghymru ac mae'n arwain ar yr ymgyrch Frwydro am Gychwyn Teg yng Nghymru.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd