Posted April 07th 2022
Canfu’r papur, sydd bellach wedi’i gyhoeddi gan y British Journal of Psychiatry Open, fod 60% o’r cyfranogwyr wedi dweud bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn ystod y pandemig.
Eglurodd y prif awdur Dr Katie Lewis: “Yn ein hastudiaeth o bobl â chanddynt gyflyrau iechyd meddwl oedd yn bodoli eisoes, gwelsom lefelau uchel o symptomau gorbryder ac iselder a lefelau isel o les yn ystod y pandemig.
“Gwelsom fod cyfranogwyr â hanes o orbryder, iselder, anhwylder straen wedi trawma (PTSD) neu anhwylderau bwyta, yn arbennig o debygol o nodi dirywiad yn eu hiechyd meddwl.”
Deall yr effaith ar y rhai â salwch meddwl eisoes
Gan fod y rhan fwyaf o astudiaethau wedi edrych ar y boblogaeth gyffredinol, aeth NCMH ati i geisio deall rhagor am effaith pandemig COVID-19 ar unigolion â phrofiad bywyd o salwch meddwl.
Rhwng mis Mehefin 2020 a mis Awst 2020, cymerodd 2,869 o bobl rhwng 18 a 94 oed ran yn yr arolwg oedd yn digwydd yn y DU.
Recriwtiwyd cyfranogwyr drwy astudiaeth ar-lein yn ogystal â thrwy wasanaethau gofal iechyd megis meddygon teulu, a gofal ysbyty a chymunedol.
Ffactorau allweddol sy’n gysylltiedig â gwaethygiad o ran iechyd meddwl
Pryder cyffredinol am y pandemig, trafferth cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl, a llai o gwsg oedd y tri ffactor allweddol a oedd yn cynyddu’r tebygolrwydd y byddai pobl yn adrodd bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu.
Roedd ffactorau eraill oedd yn gysylltiedig ag iechyd meddwl gwaeth yn cynnwys bod yn iau o ran oedran, incwm isel, incwm yr effeithiwyd arno gan COVID-19, a mwy o ddefnydd o alcohol/cyffuriau.
Fodd bynnag, canfu’r astudiaeth hefyd fod cyfranogwyr oedd yn hŷn ac a oedd yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi’n gymdeithasol a chan wasanaethau, yn nodi gwelliant o ran eu iechyd meddwl.
Dywedodd dirprwy gyfarwyddwr NCMH a’r Athro Jon Bisson: “Mae’r ymchwil hon yn tynnu sylw at effaith sylweddol iawn y pandemig ar lawer o bobl sydd â phrofiad bywyd o salwch meddwl.
“Mae hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd a dylanwad cadarnhaol cefnogaeth dda gan ffrindiau, teulu a gwasanaethau.”
Beth nesaf ar gyfer ymchwil iechyd meddwl, yn ymwneud â’r pandemig?
Ar hyn o bryd mae’r tîm yn casglu gwybodaeth gan y 10% o gyfranogwyr a ddywedodd bod eu iechyd meddwl wedi gwella, er mwyn deall yr hyn a allai fod wedi cyfrannu at hyn.
Mewn astudiaethau yn y dyfodol, bydd meysydd iechyd meddwl eraill yn dod yn ffocws, megis symptomau seicotig, anhwylderau bwyta ac ymddygiadau anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD). Bydd y tîm yn edrych hefyd ar ymchwil hydredol er mwyn cymharu effaith y pandemig ar gyflyrau a symptomau penodol dros gyfnod hirach.
Meddai Dr Lewis, “Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr arolwg, yn enwedig yn ystod cyfnod mor anodd.”
Darllenwch y papur yn llawn: Effaith pandemig COVID-19 ar iechyd meddwl unigolion oedd eisoes yn dioddef â salwch meddwl