Skip to main content

Adroddiad Bipolar UK: Mae 56% o bobl ag anhwylder deubegynol yn y DU heb ddiagnosis

Mae Bipolar UK wedi amcangyfrif bod y rhan fwyaf o bobl sy'n byw gydag anhwylder deubegynol yn y DU yn mynd heb ddiagnosis. Mae'r elusen wedi creu deiseb i helpu i roi llais i'r achosion hynny sydd heb ddiagnosis, fel yr ysgrifenna'r Prif Swyddog Gweithredol Simon Kitchen.

Golygu: yn wreiddiol mae’r prif ystadegyn yn darllen 66% ond mewn gwirionedd mae’n 56%

Fel elusen, ein cenhadaeth yw i bawb sydd ag anhwylder deubegynol fyw’n dda a chyflawni eu potensial.

Dyna pam y lansiwyd y Comisiwn Deubegynol ym mis Mawrth y llynedd – gwella ansawdd gwasanaethau a lleihau’n sylweddol y gyfradd hunanladdiad i bobl sy’n byw ag anhwylder deubegynol yn y DU.

Un o’n heriau yw nad ydym yn cyrraedd grŵp craidd o bobl ag anhwylder deubegynol oherwydd amcangyfrifir nad oes gan 66% o bobl sydd ag anhwylder deubegynol yn y DU ddiagnosis.

Mae’n rhaid iddynt reoli heb y driniaeth gywir, y cymorth na’r cynllun hunanreoli. Ac, ar gyfartaledd, mae ymchwil yn dangos bod yn rhaid iddynt reoli heb ddiagnosis am bron degawd.

Llofnodwch ein deiseb

Helpwch ni i gyrraedd y rhai sy’n gwneud penderfyniadau trwy lofnodi ein deiseb.

A person on a balcony smiling, holding a bottle of beer

Oedi cyn cael diagnosis

Canfu arolwg ar-lein cyntaf y Comisiwn Deubegynol (a gwblhawyd gan 2,458 o bobl â diagnosis o anhwylder debegynol) fod oedi cyfartalog o 9.5 mlynedd rhwng rhywun yn cysylltu am y tro cyntaf â gweithiwr iechyd proffesiynol am symptomau a chael diagnosis cywir o anhwylder deubegynol.

A allwch ddychmygu ymateb y cyhoedd pe bai oedi diagnosis cyfartalog o 9.5 mlynedd ar gyfer cyflwr corfforol cyffredin? Asthma, er enghraifft.

Felly beth sy’n achosi’r oedi? Mae anhwylder deubegynol yn aml yn cael ei ddiagnosio fel iselder i ddechrau – mewn gwirionedd, dywedodd bron 70% o’r ymatebwyr wrthym eu bod wedi cael diagnosis blaenorol o iselder.

Ac, yn llai cyffredin, gall anhwylder deubegynol gael ei gamddehongli fel salwch meddwl difrifol arall, megis sgitsoffrenia neu anhwylder personoliaeth.

Mae clinigwyr yn dweud bod nifer o resymau eraill hefyd dros yr oedi, gan gynnwys diffyg seiciatryddion, cymhlethdod diagnostig, gorgyffwrdd â chyflyrau iechyd meddwl eraill, pobl nad ydynt yn cyflwyno symptomau difrifol i ofal sylfaenol, pobl nad ydynt yn cydnabod arwyddocâd cyfnodau blaenorol o hypomania ac amharodrwydd i gael diagnosis deubegynol sy’n dal i fod â stigma.

Effaith oedi cyn cael diagnosis

Nid yw’n syndod bod 60% o ymatebwyr ein harolwg wedi dweud bod yr oedi cyn cael diagnosis wedi cael effaith sylweddol ar eu bywydau.

Gall profi symptomau deubegynol eithafol heb driniaeth neu gymorth arbenigol arwain at ganlyniadau dinistriol ar fywyd proffesiynol a phersonol rhywun.

Collodd dros hanner yr ymatebwyr eu swydd neu gadawodd eu hastudiaethau oherwydd yr oedi a chafwyd effeithiau sylweddol ar iechyd meddwl ehangach, ac ar berthynas â ffrindiau ac aelodau eu teuluoedd.

Yn fwyaf dinistriol, dywedodd 75% eu bod wedi cael mwy o feddyliau hunanladdol a dywedodd 40% eu bod wedi ceisio lladd eu hunain oherwydd yr oedi.

Nid yw’n hysbys faint o bobl fydd wedi colli eu bywydau i hunanladdiad oherwydd oedi wrth gael diagnosis, er bod astudiaethau’n awgrymu y bydd pob 12 ymgais yn llwyddiannus.

Mae’n sobri’r meddwl wrth ystyried o’r 839 o bobl a ddywedodd wrthym eu bod wedi ceisio lladd eu hunain oherwydd yr oedi, y gallai fod 70 o bobl eraill nad ydynt yma mwyach i ddweud eu stori. Unwaith eto, mae hyn yn tynnu sylw at yr angen am ymyrraeth gynnar.

A person on a balcony smiling, holding a bottle of beer

Pam mae diagnosis yn bwysig

Dywedodd mwyafrif llethol yr ymatebwyr (84%) fod diagnosis naill ai’n ddefnyddiol neu’n ddefnyddiol iawn. Dywedodd llai na 5% nad oedd yn fuddiol nac yn ddi-fudd.

Rhoddodd diagnosis esboniad iddynt am eu profiadau yn y gorffennol, sydd mor bwysig o ystyried y gofidiau a’r cywilydd y mae pobl yn aml yn eu teimlo am eu hymddygiad pan fyddant wedi bod yn profi cyfnodau o fania neu iselder difrifol.

Dywedodd dros ddwy ran o dair o’r ymatebwyr fod cael diagnosis wedi’u galluogi i gael gwell meddyginiaeth. A dywedodd bron hanner fod cael diagnosis wedi’u helpu i ddeall yn well, er gwaethaf y stigma.

Mae hefyd yn golygu y gallant gysylltu â phobl eraill sydd wedi cael profiadau tebyg – yn enwedig drwy grwpiau cymorth cyfoedion a chymunedau ar-lein.

Ymgyrch dros ddiagnosis cyflymach

Mae diagnosis yn ei gwneud yn bosibl i rywun gael triniaeth a chymorth effeithiol, a byw’n dda ag anhwylder deubegynol.

Amcangyfrifir bod o leiaf un o bob 20 o bobl sy’n lladd eu hunain wedi cael diagnosis o anhwylder deubegynol.

Po fyrrach yw’r oedi wrth gael diagnosis, gorau po gyntaf y gall rhywun rymuso ei hun gyda hunanreolaeth effeithiol a meithrin cylch cadarnhaol gyda llai o atglafychu yn y tymor byr a’r tymor hir.

Rydym am roi llais i bobl sydd ag anhwylder deubegynol nad oes ganddynt ddiagnosis.

Helpwch ni i gyrraedd y rhai sy’n gwneud penderfyniadau trwy lofnodi ein deiseb. Unwaith y byddwn yn cyrraedd 10,000 o lofnodion, rydym yn fwy tebygol o gael ymateb gan y llywodraeth. Ac er y gwyddom ei fod yn hynod uchelgeisiol, os byddwn yn cyrraedd 100,000 efallai y cawn drafodaeth yn y senedd.

Adnoddau

Darllen rhagor

Simon Kitchen

Simon Kitchen yw Prif Swyddog Gweithredol Bipolar UK.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd