Skip to main content

Therapi electrogynhyrfol: fy ngalwad olaf ar gyfer fy nhriniaeth iechyd meddwl

O fyw bywyd digon cyffredin i gael ei hun yn sydyn yn profi problemau iechyd meddwl critigol, mae Berlinda yn rhannu ei stori am dderbyn therapi Electrogynhyrfol (ECT) a'r gwahaniaeth a wnaeth hynny i ansawdd ei bywyd.

Nodwch fod y blog hwn yn cynnwys cyfeiriadau at hunanladdiad.

Hyd heddiw, dydw i ddim yn gwybod pam digwyddodd.

Roeddwn i mewn priodas gariadus, yn gyfforddus yn ariannol, ac yn mwynhau gyrfa lwyddiannus, er bod straen ynghlwm wrth hynny, a doedd gen i fawr ddim pryderon am anwyliaid a ffrindiau, yn sicr dim mwy nag y mae’r rhan fwyaf o bobl yn eu profi.

Ac eto, ar ddiwedd 2018, fe ges i bwl seicotig difrifol, a cheisio lladd fy hun ar sawl achlysur.

Roedd yr ymdrechion hynny’n cynnwys ceisio rhedeg i mewn i draffig, smyglo allweddi ceir a gyrru i ffwrdd yn gwbl ddi-hid, a chymryd gorddos.

An accident and emergency entrance at a hospital

Roeddwn i’n teimlo fel petai ar ben arna i

Ceisiodd fy nheulu ofalu amdana i gartre a symudodd un o’m brodyr yn ôl i mewn gyda fi a ngŵr.

Ond pan fu’n rhaid i mi fynd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys oherwydd fy ngorddos, profodd hynny, hyd yn oed pan oedden nhw’n cadw llygad arna i bob dydd, eu bod nhw’n methu fy nghadw’n ddiogel.

Fe’m gwelwyd yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys gan y gweithiwr cyswllt iechyd meddwl, a fu’n siarad â mi a’m teulu.

Ar ôl trafod gyda’r ymgynghorydd arweiniol, fe ges i fy nghadw yno o dan Adran 3, sy’n rhoi cleifion yn gyfreithiol o dan ofal a thriniaeth gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol am chwe mis.

Atgofion niwlog o’r ysbyty

Alla i gofio fawr ddim o’r amser hwnnw ar y ward.

Roedd rhyngweithio â chleifion a staff yn anodd iawn gan fy mod yn argyhoeddedig bod pawb yno i sbïo arnaf fi. Byddwn yn sgrifennu nodiadau i lawr ac yn eu trosglwyddo i’m teulu adeg eu hymweliadau.

Ers hynny, rwyf wedi gweld rhai o’r nodiadau hynny, ac mae’n amhosib deall y geiriau carbwl. Maen nhw mor estron i mi fel mod i’n teimlo eu bod wedi’u hysgrifennu gan rywun arall.

Ar y ward fe ges i amrywiaeth o gyffuriau, heb i’r un ohonyn nhw gael unrhyw effaith sylweddol ar fy lles meddyliol, ond ar ôl mis neu ddau, ces i ganiatâd i fynd allan yng nghwmni nyrsys neu’r teulu.

Yn ystod un prynhawn arbennig o gythryblus pan oeddwn i allan gyda fy ngŵr a nhad mewn siop goffi leol fe gynhyrfais i’n lân, gan guro fy mhen yn erbyn bwrdd a sgrechian a gweiddi nad oeddwn am fynd yn ôl i’r ward.

Ar ôl llawer o berswâd a chysuro tyner, fe’m gyrrwyd yn ôl i’r ward yn y pen draw gyda fy ngŵr yn gafael ynof fi i’m hatal rhag ceisio neidio allan o’r car.

Hyd yn oed ar ôl esbonio wrth y staff sut roeddwn i wedi bod y prynhawn hwnnw ac y dylwn gael fy ngoruchwylio, ces i fynd allan y diwrnod canlynol am y tro cyntaf am 15 munud ar fy mhen fy hun.

A series of greyscale brain scans

Fe gerddais i allan o dir yr ysbyty at y ffordd fawr oedd gerllaw.  Eisteddais am beth amser, yn pendroni ynghylch beth oedd yn digwydd ac yna – alla i ddim cofio beth sbardunodd fi – fe redais i rhwng y ceir oedd wedi parcio ac o flaen cerbyd oedd yn dod.

Dydw i ddim yn gwybod oeddwn i’n lwcus neu oedd y gyrrwr wedi llwyddo i ymateb yn rhyfeddol o gyflym, ond “dim ond” torri fy nghoes wnes i.

Fe’m cymerwyd i adran damweiniau ac achosion brys mewn ysbyty gwahanol, bu’n rhaid i mi gael llawdriniaeth ar fy nghoes, ac fe osodwyd cawell allanol amdani.

Ar yr adeg hon y ces i nyrs 24 awr o’r ward iechyd meddwl a fyddai’n gwylio drosof fi’n barhaus.

Profi, methu ac ECT

Rhoddwyd cynnig ar fwy o gyffuriau ac amrywio’r dosau er mwyn ceisio sicrhau unrhyw fath o welliant ond heb lwyddiant.

Tua diwedd Ionawr 2019, awgrymwyd y syniad o therapi electrogynhyrfol (ECT) gan dîm amlddisgyblaeth (MDT).

Rwy’n credu mai’r rheswm pam na wnes i ddadlau na cheisio diystyru’r driniaeth hon oedd nad oedd unrhyw beth arall wedi gweithio, felly roedd fy mharanoia yn argyhoeddedig na fyddai dim yn tycio.

Roedd fy nheulu’n amheus am ECT ond roeddent yn dawelach eu meddwl ar ôl siarad â’m hymgynghorydd ac wedi i mrawd ymchwilio i’r pwnc.

Dywedodd y ddau ohonynt, er nad yw’r rhesymau y tu ôl i’r manteision yn glir, fod y ffaith ei fod wedi helpu llawer o bobl yn fy sefyllfa i yn sylweddol yn fwy na digon o reswm i roi cynnig arni.

Roedd pryder o hyd, gan fod yn rhaid rhoi caniatâd y claf ar gyfer ECT, y byddwn yn newid fy meddwl ac yn penderfynu peidio â chael y driniaeth, ond ym mis Chwefror 2019 llofnodais y ffurflen ganiatâd ac fe aethon nhw â fi draw i’r ystafelloedd triniaeth ddewisol ar gyfer y gyntaf o ddeuddeg sesiwn.

Pulses of energy lighting up a ball

Triniaeth ECT yn dechrau

Alla i gofio dim am unrhyw un o’r triniaethau, ond roeddwn i’n cael teimlad aruthrol o ‘adnewyddiad’ wedi i effaith yr anesthetig ddod i ben. Byddwn i’n cysgu llawer wedyn.

Y dydd Mawrth ar ôl fy nhriniaeth gyntaf oedd pen-blwydd fy ngŵr, ac mae e’n dal i ddweud mai dyna’r anrheg pen-blwydd orau a gafodd erioed, sef fy mod i, ar ôl iddo gael ei adael mewn i’r ward, wedi’i weld, wedi gwenu’n braf arno, ac wedi codi o nghadair olwyn a rhoi cwtsh iddo fe.

Mae dagrau’n dal i gronni ynddo pan fydd yn adrodd y stori honno wrthyf fi. Y noson honno oedd y tro cyntaf iddo gael cipolwg ar y person oeddwn i o’r blaen.

Mae pawb yn dweud bod y newid ynof fi wedi digwydd bron ar unwaith. Ar ôl bod yn ymosodol ac yn sarhaus gyda’r staff, y cleifion ac ymwelwyr eraill, fe ddechreuais ymwneud â phawb.

Roedd fy swydd yn y sector lletygarwch, felly dwy erioed wedi cael unrhyw drafferth siarad a dod ymlaen â phobl ac yn awr roedden nhw o’r diwedd yn gallu gweld sut un oeddwn i mewn gwirionedd.

Roeddwn i’n dal i gael cyfnodau o dywyllwch, ond ychydig iawn oeddent, ac fe aethon nhw’n fwy prin wrth i’m triniaethau bob dydd Llun a dydd Iau fynd rhagddynt.

Wedi i mi gael rhyw bedair sesiwn, fe ges i ganiatâd i adael y ward.   I ddechrau, byddwn i’n mynd allan gyda’r teulu i gael coffi a rhywbeth bach i’w fwyta, ond yn y diwedd roeddwn i’n cael mynd allan ar fy mhen fy hun.

Pan fyddwn i allan ar fy mhen fy hun, byddwn i’n aml yn derbyn ceisiadau gan gleifion eraill ar y ward i gasglu papurau newydd, sigaréts neu fyrbrydau iddyn nhw o’r garej lawr y ffordd, yr un ffordd yr oeddwn wedi rhedeg allan iddi dri mis ynghynt.

Daeth fy nhriniaethau i ben ar ôl sesiwn deg, gan fod teimlad fy mod wedi elwa cymaint â phosib o’r ECT.

Ddechrau mis Ebrill cefais anrheg pen-blwydd wych i mi fy hun hefyd pan lofnododd fy ymgynghorydd y dogfennau i ganslo fy Adran 3. Fe ges i gyfle i ymlacio yn fy ngwely fy hun am y tro cyntaf ers chwe mis.

Hoffwn wybod pam mae ECT yn gweithio neu sut mae’n gwneud hynny, efallai mai dim ond sbardun oedd e, i roi cyfle i’m hymennydd adael i’r cyffuriau eraill wneud eu gwaith, ond mae wedi rhoi fy mywyd nôl i fi, ac er mod i wedi gwneud llawer o newidiadau i ofalu am fy iechyd meddwl, i ECT mae’r clod am roi cyfle i mi wella.

Darllen rhagor

Berlinda

Cafodd Berlinda, sy’n 51 oed, ddiagnosis o Iselder Seicotig yn hwyr yn 2018 a chafodd ei thrin â chwrs llwyddiannus o ECT yn gynnar yn 2019. Mae hi'n mwynhau treulio amser gyda'i theulu a'i ffrindiau, sy’n annwyl iawn ganddi, a'i dau ffrind Beau a Fleur!

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd