Posted October 19th 2021
Cafodd y rhai a oedd yn bresennol gyfle i glywed am ystod o bynciau, o hanes NCMH, i’r heriau sy’n wynebu ymchwil iechyd meddwl yng nghyd-destun pandemig COVID-19, a dyfodol NCMH.
Ymunodd dros 50 o bobl â ni ar gyfer cyfres o gyflwyniadau.
Yn anffodus, nid oedd modd cynnal y digwyddiad yn ein pencadlys yn Adeilad Hadyn Ellis, ond roedd ein fformat ar-lein yn golygu ein bod yn gallu croesawu gwesteion o bob math o leoedd, gan gynnwys Sweden a’r Almaen.
Ymchwil iechyd meddwl ac effaith COVID-19
Dechreuodd yr Athro Jones y trafodaethau gyda throsolwg o’n gwaith yn ystod y degawd diwethaf a sut y bu’n rhaid i’n harferion newid o ganlyniad i COVID-19:
“Pe bai’n rhaid i chi roi crynodeb cyffredinol o NCMH, yr ateb fyddai ei fod yn cysylltu’r gymuned ymchwil ac iechyd meddwl yng Nghymru a’r GIG â phobl sydd â phrofiadau go iawn, â’r cyflyrau yr ydym yn eu hastudio, ac â’r cyhoedd ehangach yng Nghymru ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys recriwtio ar gyfer astudiaethau.”
“Mae COVID-19 wedi effeithio ar ein gallu i recriwtio i’n hastudiaethau, ac o ganlyniad bu’n rhaid eu stopio dros dro, ond mae hefyd wedi rhoi cyfleoedd eraill i ni, i fynd ati a chynnal ymchwil er mwyn mynd i’r afael â’r effaith y mae COVID-19 wedi’i chael ar bobl sydd â hanes o salwch meddwl. Fe wnaeth dros 3,000 o bobl ein helpu ni gyda’r astudiaethau hynny.”

Trafododd yr Athro Jones ganlyniadau astudiaeth COVID-19 NCMH.
Cymerodd Dr. Anne Krayer o Brifysgol Bangor yr awenau i ddweud wrthym am ei gwaith ymchwil a pha mor bwysig yw cefndir amrywiol ym maes ymchwil.
Tynnodd yr Athro Ann John o Brifysgol Abertawe sylw at ba mor bwysig yw data a gesglir fel mater o drefn o ran rhoi llais i’r rhai sy’n llai tebygol o gymryd rhan mewn arolygon, gan nodi eu bod yn aml yn dod o gefndiroedd tlotach.
Dyfodol cyffrous ym maes ymchwil
Siaradodd dirprwy gyfarwyddwr NCMH, yr Athro Jon Bisson, am ddatblygu triniaethau ac adnoddau newydd ym maes iechyd meddwl a chysylltiadau NCMH i wireddu cynlluniau ar gyfer y dyfodol:
“Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud o fewn NCMH yw cynyddu ein portffolio ymchwil gymhwysol. Rydym am gymryd rhai o’r canfyddiadau o’n gwaith epidemiolegol a gwaith cysylltu data, a meddwl am sut i ddefnyddio rhywfaint o’r wybodaeth honno i ddatblygu a dylunio ymyriadau’n well er mwyn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl yn y dyfodol.”
Pwysleisiodd Dr Sarah Rees ac Alan Meudell pa mor bwysig yw cynnwys y cyhoedd yn ein hymchwil, cyn i Dr Steve Beyer rannu’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd Anabledd Dysgu Cymru a sut mae’n cyfrannu at helpu pobl ag anableddau dysgu i gael gwaith.

Gofynnwyd i’r rhai a oedd yn bresennol sut roeddent yn disgrifio eu hunain mewn perthynas ag iechyd meddwl er mwyn deall pwy oedd yn ein cynulleidfa.
Daeth y prynhawn i ben gyda sesiwn holi ac ateb gyda’n panel, a’u syniadau am ddyfodol ymchwil iechyd meddwl.
I gloi, clywsom am yr hyn y mae’r panel yn teimlo fwyaf cyffrous yn ei gylch o ran dyfodol ymchwil iechyd meddwl. Dywedodd Alan, “Yr her fwyaf yw cynyddu nifer y cyfleoedd i bobl fod yn rhan o ymchwil, a datrys y broblem honno yw’r hyn sy’n fy nghael i fyny yn y bore.”
Gallwch ein helpu i symud tuag at ein nodau o gynyddu cyfranogiad y cyhoedd mewn ymchwil iechyd meddwl drwy gwblhau ein harolwg ar-lein, sy’n agored i bawb ac yn cymryd dim mwy nag 20 munud i’w gwblhau. Diolch.
Gwyliwch y weminar lawn:
Adnoddau
Darllen rhagor
- Astudiaeth NCMH | Astudiaeth COVID-19
- Astudiaeth NCMH | Astudiaeth ar-lein
- Post blog NCMH | The effect of the Covid-19 pandemic on people with learning disabilities