Posted July 02nd 2021
Mae Emma, a gafodd ddiagnosis 10 mlynedd yn ôl, yn rhannu sgyrsiau a phrofiadau bywyd y rhai sy’n byw gyda deubegynedd ar y podlediad, yn ogystal â sgwrsio â gweithwyr proffesiynol yn y meysydd meddygol ac ymchwil, a theuluoedd a gofalwyr sy’n cefnogi’r rhai sy’n byw gyda deubegynedd.
Gwahoddwyd yr Athro Jones, Cyfarwyddwr NCMH ac athro Seiciatreg Amenedigol yn Isadran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol Prifysgol Caerdydd, i’r podlediad i siarad am dymhorau bywyd amenedigol ac ôl-enedigol gydag anhwylder deubegynol.
Dywedodd yr Athro Jones am ei ymchwil, “Rydyn ni’n gwybod bod anhwylder deubegynol yn salwch pwysig iawn a all effeithio’n ddifrifol ar unigolion. Mae profiad pawb ohono yn wahanol.
Mae helpu pobl i fyw’r bywyd gorau y gallant yn rhan bwysig iawn o fy ngwaith.
“Y nod yw atal pobl rhag mynd yn sâl, ac yna feddwl am driniaethau gwell nag sydd gennym ni nawr. Yr hyn sydd ei angen yw ffyrdd gwell i drin pobl.
“Rydyn ni’n anelu at siarad â chymaint o bobl sydd â’r salwch â phosib i sylwi ar batrymau, ac mae cael babi yn un o’r patrymau hynny.”
“Dysgu dawnsio gyda Deubegynedd”
Soniodd Emma am dderbyn yr anhwylder a’i bod bellach yn barod i gyd-fodoli â’r peth ar ôl bod yn ei frwydro cyhyd.
“Dyna yw pwrpas hyn,” meddai’r Athro Jones, “Er ei fod yn salwch difrifol gall pobl fod yn dawel eu meddwl ei bod yn bosib iddyn nhw gael bywyd da gydag e.”
“Mae derbyn y peth yn enfawr,” atebodd Emma, “Ac mae’r daith at dderbyn yn un haenog. Rwyf i wedi dysgu dawnsio gyda deubegynedd.”
Edrych i’r dyfodol gydag ymchwil Deubegynol
Pan ofynnwyd iddo am ymchwil deubegynol yn y dyfodol, dywedodd yr Athro Jones:
Gall ymchwil ein helpu i ddeall deubegynedd yn well ac arwain at ddatblygiadau, ac yna at y cam triniaeth nesaf fydd yn bwysig iawn mewn blynyddoedd i ddod. Rydyn ni’n gobeithio ein bod ni’n mynd i’r cyfeiriad cywir.
Beth yw anhwylder Deubegynol?
Mae Anhwylder Deubegynol yn salwch cymhleth a all amrywio’n fawr o ran natur a difrifoldeb rhwng pobl, fel yr esboniodd yr Athro Jones ar y podlediad:
Mae’n anhwylder hwyliau sy’n effeithio ar emosiynau pobl. Mae pawb ar y blaned yn profi hwyliau uchel a hwyliau isel, ond i bobl ag anhwylder deubegynol mae’r hwyliau hynny’n llawer mwy eithafol, gan gyrraedd pwynt y byddem ni fel clinigwyr yn ei alw’n ‘episod clinigol’.
Os oes gennych anhwylder deubegynol byddwch yn profi cyfnodau uchel a elwir yn mania neu hypomania, ac fel arfer, cyfnodau o iselder.
“Yn bwysicaf oll efallai, bydd y symptomau hynny’n achosi nam sylweddol yn eich gweithrediad o ddydd i ddydd,” meddai’r Athro Jones.
Cael help
Os ydych chi’n credu y gallai fod gennych chi anhwylder deubegynol, dylech weld eich meddyg teulu yn gyntaf, a fydd yn cynnal asesiad cychwynnol.
Yn dibynnu ar ganlyniad hynny, bydd eich meddyg teulu yn penderfynu a oes angen atgyfeiriad arnoch at weithiwr iechyd meddwl gofal sylfaenol, eich Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol lleol neu wasanaeth arall, yn ôl eich anghenion.
Os cewch eich cyfeirio at eich TIMC lleol byddwch yn derbyn asesiad manylach, a byddan nhw’n gweithio gyda chi i gynllunio’r triniaethau cywir ar eich cyfer.
Mae gwaith yr Athro Jones mewn anhwylder deubegynol yn parhau, gan weithio’n agos gyda Bipolar UK. Yn ddiweddar fe ymddangosodd yng nghynhadledd 2021 yr elusen ym mis Ebrill.
Cewch glywed y diweddaraf yn y gyfres podlediad Let’s Talk Bipolar.
Adnoddau
- Bipolar UK | Let’s Talk Bipolar podcast
- Taflen NCMH | Bipolar disorder
Darllen mwy
- Bipolar UK | Bipolar UK
- NCMH Conditions we study | Bipolar disorder
- Bipolar Education Programme Cymru (BEPC) webinars | Bitesize BEPC
- NCMH blog | Bipolar disorder and sleep: chasing the Zeds
- NCMH blog | Bipolar and pregnancy: 10 top tips for staying well
- NCMH blog | Climbing mountains: diagnosed with bipolar disorder at 57