Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD)
Beth yw PTSD?
Anhwylder Straen Wedi Trawma, a gaiff ei dalfyrru yn aml i PTSD, yw’r enw a roddir i gasgliad o symptomau y mae rhai pobl yn eu datblygu ar ôl profi digwyddiadau trawmatig mawr. Gall y digwyddiad trawmatig fod yn achos unigol neu gall ddigwydd dros lawer o fisoedd neu flynyddoedd.
Mae llawer yn meddwl am PTSD fel rhywbeth sy’n effeithio ar bobl sydd wedi cael profiadau trawmatig tra’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog, ond, mewn gwirionedd, gall effeithio ar unrhyw un sydd wedi cael profiad o sefyllfa drawmatig.
Gall nifer o bethau achosi’r cyflwr, er enghraifft damweiniau difrifol ar y ffordd, treisio neu gam-drin rhywiol, trais domestig, ymosodiadau corfforol, poenydio, genedigaeth drawmatig, bod yn dyst i farwolaeth dreisgar neu bron unrhyw sefyllfa arall sy’n arbennig o fygythiol neu drychinebus ac sy’n debygol o achosi i bron unrhyw un deimlo trallod.
Mae hyd at un rhan o dair o’r bobl sydd wedi profi digwyddiad trawmatig yn datblygu rhai o symptomau PTSD. Mae astudiaethau’n amcangyfrif y bydd tua 7% o bobl yn dioddef o PTSD ar ryw gyfnod yn eu bywydau.
Mae rhai problemau eraill fel anhwylderau iselder a phryder yn dod law yn llaw â PTSD. Gall defnydd cynyddol o alcohol a chyffuriau hefyd fod yn broblem i rai pobl.
Symptomau PTSD
Mae’r sawl sy’n dioddef o PTSD yn aml yn profi atgofion gofidus rheolaidd ac ymwthiol o’r digwyddiad. Efallai y bydd ymdeimlad o ailfyw (neu ‘ail-brofi’) y digwyddiad drwy ‘ôl-fflachiadau’ neu ‘hunllefau’ hefyd, a all beri gofid a dryswch i’r sawl sy’n eu profi. Gellir cael adweithiau corfforol, megis crynu a chwysu hefyd.
Gan fod yr atgofion hyn yn gallu bod yn ddwys iawn a pheri gofid, efallai y bydd rhai o ddioddefwyr PTSD yn osgoi pobl neu sefyllfaoedd 2 www.ncmh.info sy’n eu hatgoffa o’r trawma, neu efallai y byddant yn ceisio anwybyddu’r atgofion ac osgoi siarad am yr hyn a ddigwyddodd. Efallai y bydd rhai pobl hefyd yn anghofio rhannau arwyddocaol o’r digwyddiad trawmatig.
Bydd eraill yn meddwl am y digwyddiad yn gyson, sy’n eu hatal rhag ymdopi ag ef (er enghraifft, byddant yn gofyn i’w hunain pam bod y digwyddiad wedi digwydd iddynt hwy, neu sut y gellid bod wedi ei atal rhag digwydd).
Gall pobl â PTSD gael emosiynau neu deimladau sy’n anodd delio â hwy, fel euogrwydd neu gywilydd, neu byddant efallai’n teimlo nad ydynt yn haeddu cael help.
Byddant efallai hefyd yn teimlo’n bryderus neu’n anniddig ac yn ei chael hi’n anodd canolbwyntio a chysgu. Efallai y bydd yn peri i’r unigolyn fod yn wyliadwrus neu’n eu cynhyrfu. I rai pobl, gall olygu bod gwneud pethau cyffredin iawn fel mynd i’r gwaith neu i’r ysgol neu fynd allan gyda ffrindiau yn anodd iawn.
Cael help
Os ydych yn meddwl bod gennych PTSD dylech fynd i weld eich meddyg teulu yn gyntaf a fydd yn cynnal asesiad cychwynnol. Yn dibynnu ar beth a ddaw o hynny, bydd eich meddyg teulu yn penderfynu p’un a oes angen eich cyfeirio at weithiwr gofal iechyd meddwl sylfaenol, eich Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC) neu wasanaeth arall, yn dibynnu ar eich anghenion.
Os cewch eich cyfeirio at eich TIMC lleol byddwch yn cael asesiad arall, mwy manwl, ac efallai y byddwch wedyn yn cael eich cyfeirio at wasanaeth straen wedi trawma arbenigol neu’n cael help gan y tîm.
Triniaethau ar gyfer PTSD
Therapïau seicolegol yw’r triniaethau mwyaf effeithiol ar gyfer PTSD. Yn benodol, mae tystiolaeth dda bod dau fath o driniaeth seicolegol sy’n canolbwyntio ar y digwyddiad trawmatig, sef Therapi Ymddygiad Gwybyddol â Ffocws ar Drawma (TFCBT) a Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiadau’r Llygaid (EMDR) yn effeithiol.
Dangoswyd bod y ddwy dechneg wedi lleihau’r symptomau a’r trallod a brofir gan ddioddefwyr PTSD. Mae’r term TFCBT yn cwmpasu nifer o ffurfiau o Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT). Yn fras, mae’r triniaethau hyn yn helpu’r dioddefwr i ddod wyneb yn wyneb â’u hatgofion trawmatig yn aml drwy siarad ac ysgrifennu am y digwyddiad.
Mae TFCBT yn helpu unigolion i adnabod a herio teimladau a meddyliau negyddol, gan gynnwys syniadau sy’n ymwneud â theimladau o euogrwydd a chywilydd. Gall y driniaeth hefyd gynnwys mynd yn ôl i wneud gweithgareddau a a gafodd eu hosgoi sydd wedi achosi ofn am eu bod yn gysylltiedig mewn rhyw ffordd â’r trawma.
Gall technegau EMDR helpu pobl sydd â PTSD i wynebu eu hatgofion trawmatig. Gofynnir i’r unigolyn ganolbwyntio ar atgofion, meddyliau, teimladau ac ymdeimladau sy’n gysylltiedig â’r trawma, tra hefyd yn canolbwyntio ar rywbeth arall ar yr un pryd. Fel arfer, mae’r ffocws arall ar ddilyn symudiadau bys y therapydd.Defnyddir triniaethau eraill weithiau er enghraifft meddyginiaeth a thechnegau rheoli straen i drin PTSD a gallant fod o gymorth, ond ymddengys nad yw’r rhain wedi bod mor effeithiol â TFCBT ac EMDR.
https://soundcloud.com/pieceofmindpodcast/ptsd