Skip to main content

PTSD Cymhleth: Roeddwn i’n meddwl mod i’n achos colledig

Heddiw yw Diwrnod Ymwybyddiaeth PTSD. Cysylltodd Taj â ni i rannu ei stori am fyw gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma Cymhleth (PTSD) o oed ifanc.

Mae’r erthygl hon yn cyfeirio’n fyr at drawma rhywiol.

PTSD cymhleth. Ieeee… Fel tase PTSD ddim yn swnio’n ddigon dramatig!

“Beth yw e hyd yn oed?” Dyna roeddwn i’n gofyn i mi fy hun, wrth i’r gŵr bonheddig hyfryd esbonio na allai fy helpu gan fod fy achos (fel gwnaethoch chi ddyfalu) yn gymhleth.

“Mae hynny’n hollol iawn, rwy’n deall,” meddwn innau.  “Diolch am eich holl help beth bynnag.”

A siarad yn onest, roeddwn i’n torri fy nghalon ac yn methu ymchwilio i beth oedd PTSD Cymhleth. Roeddwn i’n baglu mlaen yn credu mod i’n ddim mwy nag achos cymhleth ag anghenion cymhleth oedd angen atebion rhy gymhleth i’w dirnad.  Mewn geiriau eraill, roeddwn i’n meddwl mod i’n achos colledig.

Fisoedd yn ddiweddarach, eisteddais gyferbyn â chwnselydd cymwys o’r diwedd i ddianc rhag yr iselder oedd yn fy llethu. Sylweddolais bryd hynny faint o drawma oedd wedi cael hyd i ffordd i mewn i’m bywyd.

Roeddwn i’n 16 oed pan ges i ddiagnosis o PTSD am y tro cyntaf oherwydd trawma rhywiol blaenorol. Daeth allan mewn ffordd hyll iawn.

Roeddwn i’n cael fflachiadau atgof yn gyson yn ystod y dydd a hunllefau ofnadwy.

Roeddwn i’n ddigon ffodus i dderbyn help a gwella’n llwyr, ond gwaetha’r modd, fe ges i fy ail-drawmateiddio flynyddoedd yn ddiweddarach a chael diagnosis o PTSD cymhleth. Cafodd fy holl waith caled ei ddadwneud.

Doedd fy mhrofiad y tro hwn ddim yn gymaint o fywyd llawn gorbryder, ar bigau’r drain, â’r tro cyntaf. Roedd yn llai amlwg, gyda gwacter diystyr a theimladau o fod yn ddiwerth.  Roeddwn i’n tybio bod hynny’n golygu nad oedd cynddrwg ag o’r blaen, gan fod modd i mi ‘ffugio’ fy ffordd trwy fywyd.

Ond doeddwn i ddim wedi rhagweld pa mor llechwraidd fyddai’r gelyn.  Roedd fy nhrawma’n cael ei fwydo i mi fel gwenwyn araf.

I frecwast, byddwn i’n boddi mewn powlen o ddiffyg hunan-barch.  “Rwyt ti mor ddiwerth, dwyt ti ddim hyd yn oed yn haeddu bwyd”. I ginio, byddwn i’n gorfwyta llwyth o encilio ac ynysu. I swper, byddwn i’n gweithio fy ffordd yn ffyrnig trwy ‘berthnasoedd’ afiach (doedd cariad ystyrlon ddim yn rhywbeth gallwn i ymddiried ynddo, a doeddwn i ddim yn meddwl mod i’n ei haeddu).

Ond roedd yr un cynhwysyn sefydlog ym mhob un o’m tri phryd sgwâr o hunan-ddinistr yn rhywbeth a gymerodd fisoedd i mi ei adnabod a hyd yn oed yn hirach i’w ddisgrifio.

Cael diagnosis newydd

“Mae fel tase fy mywyd yn digwydd ond mod i ar awtobeilot heb unrhyw reolaeth,” dywedais wrth fy nghwnselydd. “Neu bod fy mywyd yn ffilm, a minnau ar y tu allan yn gwylio’r cyfan, ond beth bynnag bydda i’n ceisio’i wneud, mae fel mod i’n methu atal trychinebau rhag datblygu”.

“Mae hynny’n swnio’n debyg iawn i ddatgysylltiad,” atebodd fy nghwnselydd.

“Mae gair amdano?! Nid fi sy’n analluog?”

“Ddim o gwbl. Mae popeth rydych chi’n ei ddisgrifio yn effeithiau biolegol oherwydd eich trawma”.

“Wow…”

Fe wnaeth fy sgwyddau ostwng; fe ollyngais i’r baich o feio fy hunan am fy ‘anallu’ wrth symud ymlaen.   Roedd yr hyn roeddwn i wedi meddwl ei fod yn achos nodweddiadol o iselder mewn gwirionedd yn PTSD cymhleth.

Mae’n gas gen i gyfaddef, ond hyd yn oed wedi’r holl amser hwn, roedd fy mywyd wedi’i beintio ag effeithiau trawma. Roedd yn rhaid i mi gydnabod mai hynny oedd wrth wraidd fy symptomau a’i wynebu’n uniongyrchol er mwyn gwella.

Fe wnes i ymdopi â’m trawma drwy ddatgysylltu fy hun, a defnyddio’r un dechneg yn anymwybodol bob tro byddwn i’n teimlo’n ofnus neu mewn trallod emosiynol.  Roedd fel petawn i yng nghanol cwmwl o ddifaterwch, yn hofran uwchben fy mywyd.

Roeddwn i’n gallu gweld digwyddiadau ond roeddwn i’n edrych drwy wydr. Roedd popeth yn cael ei ystumio. Roedd amser yn gysyniad dieithr oedd yn golygu bod y cwestiwn “Sut oedd dy benwythnos?” yn anhygoel o anodd ei ateb.

Doedd dim ots am y pethau mawr mwyach.

Fy ngradd, bwyd, fy mywyd – roedd y cyfan yn ymddangos yn bell ac yn ddiystyr. Doedd gen i ddim egni i fod ag ots amdanyn nhw.

Darluniad Taj o ddatgysylltiad, “Mae’r fenyw yn edrych i lawr ar wahanol ddigwyddiadau yn ei bywyd: pan fydd hi’n paratoi yn y bore, pan fydd hi’n adolygu ac ar ei pherthynas ag eraill,” esboniodd.

Mae pethau yn gwella

Mae PTSD cymhleth yn fyd anhygoel o unig. Aeth rhwystr anweledig ac amhenodol â’m gallu i wneud pethau sylfaenol fel coginio, nad oeddwn i nac eraill o’m cwmpas yn gallu ei ddeall, ond mae pethau yn gwella os nad ydych chi’n bwrw ymlaen gan geisio ei anwybyddu.

Mae’n bwysig dod o hyd i’r math cywir o therapi i brosesu eich trawma. Rydw i hefyd yn cymryd meddyginiaeth sy’n gweithio i mi.

Rydw i’n dal i ddysgu’r grefft o agor fy myd i fyny, a pheidio â’i gyfyngu i’r elfennau sy’n fy ngwneud yn ansicr yn unig.  Mae rhai dyddiau’n well nag eraill, yn enwedig wrth siarad â ffrindiau. Mae un ffrind yn arbennig hefyd yn profi datgysylltiad,

ac rydyn ni’n cyfnewid technegau gwreiddio. Er bod cadw mewn cysylltiad rheolaidd yn rhywbeth y mae’r ddau ohonon ni’n ei gael yn anodd, mae’n rhoi nerth o’r newydd i’n heneidiau pryd bynnag y byddwn ni’n gwneud hynny.

Bydda i hefyd weithiau’n cael cysur mewn grwpiau PTSD cymhleth ar gyfryngau cymdeithasol. Mae clywed profiadau pobl eraill yn eich sicrhau nad yw’r cyfan “yn eich pen” ac nad ydych ar eich pen eich hun. Ond y wers fwyaf rydw i wedi’i dysgu yw bod yn dosturiol tuag ataf fy hun.

Fe fydda i’n gwella.

Rydw i’n ddigon cryf i ddefnyddio poen y digwyddiadau a’m harweiniodd yma i wella fy hun ac i helpu’r rhai sydd wedi troedio’r un llwybr o’m blaen ac ar fy ôl.

Os yw fy stori’n taro tant gydag unrhyw un, rwy’n gobeithio y byddwch chi’n cael cysur o wybod bod digon ohonon ni gyda chi.

Adnoddau

Darllen mwy

Taj

Mae Taj wedi graddio’n ddiweddar sydd wedi cael profiad o PTSD Cymhleth. Gan ddefnyddio ei phrofiad a'i phrofiad o eraill, mae hi'n creu ap sy'n cynnig cefnogaeth hunangyfeiriedig i bawb sydd wedi goroesi trawma rhywiol.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd