Posted June 18th 2021
Sylwer: mae’r blog yn cynnwys cyfeiriad at hunanladdiad.
Pan oeddwn yn tyfu i fyny, doedd neb yn siarad am fod yn LHDT+.
Doedd fawr ddim cynrychiolaeth yn y cyfryngau nac yn fy nghymuned, felly roedd dechrau teimlo atyniad i’r un rhyw yn rhywbeth hollol estron ac yn eithriadol o frawychus.
Pan oeddwn yn iau doedd dim rhyngrwyd, felly allech chi ddim chwilio ar-lein i ddarganfod mwy am eich teimladau. Doedd gen i neb i siarad â nhw felly roedd yna ymdeimlad aruthrol o unigedd.
Effeithiau bradychu ar iechyd meddwl
Gyda fy hormonau’n ffrwydro a mil o feddyliau a theimladau heb eu hateb yn rasio o gwmpas yn fy mhen, cefais fy nanfon i ysgol breswyl i fechgyn lle rhannais wybodaeth am fy rhywioldeb gyda ‘ffrind’.
Arweiniodd hyn at gael fy mradychu a blynyddoedd o fwlio corfforol, rhywiol a meddyliol, a’m gorfododd i ynysu fy hunan.
Fe drois i at fwyd am gysur a darllen nofelau ffantasi i ddianc rhag realiti’r byd hwn. Roeddwn i’n teimlo cywilydd aruthrol ac roeddwn i’n ofni siarad neu ymddwyn yn wahanol.
Dechreuais i deimlo’n isel iawn ac fe fues i’n meddwl am hunanladdiad. Doedd gen i neb i siarad â nhw ac yn y diwedd fe drodd meddwl am hunanladdiad yn weithred.
Ond pa ymyrraeth bynnag ddigwyddodd – p’un ai llaw Duw, natur, lwc pur, neu bod fy stumog newydd wedi fy nghlustogi rhag fy ymgais – fe ddes i’n ôl yn ymwybodol, a sylweddoli nad ceisio cymryd fy mywyd fy hun oedd yr ateb.
Hyd yn oed wedyn, wnes i ddim dweud popeth wrth fy nheulu. Dywedais mai fy mhwysau a’r ffaith mod i’n gwisgo sbectol oedd y rheswm pam roeddwn i’n cael fy mwlio, a mod i’n teimlo’n drist iawn am hynny.
Er nad oedd y cyfaddefiad hwnnw’n hollol wir, cefais fy nhynnu allan o’r ysgol honno a symud i un well, diolch byth.
Fodd bynnag, fe wrthodais i roi sylw i sut roeddwn i’n teimlo, a dal ati i godi wal o amgylch y rhan honno o’m bywyd.
Dechreuais ‘ffitio i mewn’ trwy guddio pwy oeddwn i nes i mi adael yr ysgol a mynd i’m coleg chweched dosbarth.
Pwysigrwydd cymuned a dysgu caru’ch hun
Chwiliais am grŵp ieuenctid LHDT+lleol yn y papur lleol – na, doedd dim rhyngrwyd o hyd! – oedd yn cyfarfod unwaith yr wythnos. Fe es i flwch ffôn i alw’r arweinydd ieuenctid ac fe es i’r grŵp. Fe wnes i ddarganfod nad fi oedd yr ‘unig un’ yn y grŵp hwnnw. Nawr roedd gen i gefnogaeth. Fe wnaethon ni rannu profiadau, fe wnaethon ni siarad â’n gilydd am ein meddyliau a’n teimladau, ac fe gawson ni hwyl.
Yn fuan wedyn, fe es i’m gorymdaith Balchder gyntaf yn Llundain ac ymuno mewn dathliadau eraill. Ar ôl amser mor hir, fe ddechreuais deimlo ymdeimlad o berthyn, ymdeimlad o gymuned, ymdeimlad o fod yn gyfforddus yn fy nghroen fy hun. Dechreuodd hyn erydu’r wal roeddwn i wedi’i rhoi o amgylch y teimladau a’r meddyliau hynny yn y gorffennol.
Er gwaethaf hynny, roeddwn i’n dal i ddioddef o iselder, ac yn profi hwyliau anwadal a hunllefau. Fe wnes i droi at gyffuriau ac yfed i ‘deimlo llai’ a dechrau casáu pwy oeddwn i eto.
Gyda chymorth arweinydd fy ngrŵp ieuenctid, fe welais feddyg a chael meddyginiaeth a chwnsela, gan ddechrau prosesu a delio â’r ochr honno o’m bywyd, a dechreuodd pethau wella.
Cymerodd gyfarfod annisgwyl mewn bar hoyw gyda boi oedd yn yr ysgol gyda fi i droi fy mywyd o gwmpas mewn gwirionedd. Fe rannon ni ambell stori, a’i eiriau olaf wrth ymadael oedd, “Mor falch o’th weld di eto, rwyt ti’n edrych yn syfrdanol”.
Symudodd swits yn fy mhen. Roeddwn i’n ‘syfrdanol’.
Fe sylweddolais fy mod i’n werth rhywbeth a bod pwy oeddwn i yn golygu rhywbeth.
O’r adeg honno, pryd bynnag y byddai’r tywyllwch yn cynyddu yn fy mhen, byddwn i’n dweud, “Rwyt ti’n syfrdanol”, a byddai pethau’n gwella. Roeddwn i’n credu ynof fy hun. Daeth y cywilydd o fod yn hoyw yn llai o faich.
Wrth symud yn gyflym ymlaen i ble rydw i nawr, rydw i yn cael munudau pan na fydda i’n gwerthfawrogi fy hun, rydw i’n meddwl am yr amseroedd hynny ac yn teimlo’n drist, ond rydw i hefyd yn eu gweld nhw nawr fel cryfder a bathodyn anrhydedd.
Fe ddes i trwy’r amseroedd hynny, ac rydw i pwy ydw i nawr oherwydd hynny. Defnyddiais y profiadau hynny i helpu eraill sydd angen help. Mae gen i ŵr, babi blewog, a theulu cariadus. Felly, rydw i’n cyfrif fy hun yn lwcus.
“Rydw i’n syfrdanol!”
Rydyn ni fel cymuned yn dechrau creu byd sy’n cofleidio pobl LHDT+, heb eu gweld fel rhai tu allan i’r ‘norm’, ond er nad ydyn ni yno’n llwyr eto, mae gennym lygedyn o obaith.
Mae gan bob un ohonom ein rhan i’w chwarae. Gofalu am eraill a iechyd meddwl pawb, a chefnogi’r bobl hynny sydd angen cefnogaeth. Gallai gofyn i rywun, “Wyt ti’n iawn?” wneud byd o wahaniaeth.
Byddwch yn garedig i’ch gilydd. Gallai’r gweithredoedd caredig hynny newid bywyd rhywun a sut maen nhw’n teimlo. Cariad yw cariad. Byddwch yn chi’ch hunan bob amser. Rydych chi’n syfrdanol!
Adnoddau cymorth iechyd meddwl LHDT+
Os ydych chi’n LHDT+ ac yn chwilio am gefnogaeth i’ch iechyd meddwl, edrychwch ar yr adnoddau canlynol:
Elusen Mind: LHDT+ Cymorth iechyd meddwl
Mind Out: Ein gwasanaethau
Y GIG: Cymorth iechyd meddwl i bobl LHDT+
Stonewall UK: Cymorth a chyngor
Darllen mwy
Blog NCMH: Gan guddio pwy oeddwn i mewn gwirionedd, effeithiodd ar fy iechyd meddwl