Skip to main content

Therapi Electrogynhyrfol- gelyn neu gyfaill?

Derbyniodd Gwyneth therapi electrogynhyrfol (ECT) yn ystod y pandemig COVID-19 ac yma mae hi'n rhannu ei thaith o'r driniaeth gyda ni, gyda chyflwyniad gan yr Athro George Kirov.

Mae un driniaeth mewn seiciatreg sydd wedi ennyn dadleuon byth ers iddi gael ei datblygu gan Ugo Cerletti a Lucio Bini yn Rhufain ym 1938.

Fwy nag wyth deg mlynedd yn ddiweddarach mae triniaeth Electroconvulsive (ECT) yn dal i fod yn driniaeth safonol ar gyfer salwch seiciatryddol difrifol ledled y byd.

Fe’i defnyddir o hyd am reswm syml: mae’n cynhyrchu gwelliant sylweddol mewn oddeutu 80 y cant o gleifion (Cymdeithas Seiciatryddol America) ac yn gweithredu ei effaith o fewn ychydig wythnosau (Husain et al, 2004).

Mewn llawer o wledydd, mae’n driniaeth brif ffrwd, ond mewn eraill, mae’n dal i gael ei hystyried gan y cyhoedd fel triniaeth hynafol neu fel y dewis olaf.

Y dyddiau hyn yn y DU, fe’i defnyddiwyd yn bennaf pan fydd triniaethau eraill wedi methu ac er gwaethaf hynny, mae’n cynhyrchu cyfraddau rhyfeddol o uchel o ryddhad.

Yn un o’r astudiaethau modern mwyaf, defnyddiodd Husain et al, (2004) ECT dwyochrog ac adroddodd fod 74.7% o’r cyfranogwyr wedi cael eu hesgusodi.

Adroddodd Kellner et al, (2016) gyfraddau dileu 61.7% mewn 172 o gleifion> 60 oed, wedi’u trin ag ECТ unochrog iawn.

Yn ein clinig yng Nghaerdydd, rydym yn cyrraedd cyfraddau dileu 58% ar ôl hyd at 12 sesiwn.

two people silhouetted against a bright screen

Ystadegau sych yw’r rhain nad ydynt yn datgelu unrhyw beth am ddioddefaint personol cleifion a’r newidiadau cadarnhaol dramatig y mae rhai ohonynt yn eu profi.

Dim ond trwy glywed eu straeon personol y gellir gwerthfawrogi gwir effaith y driniaeth hon.

Mae stigma yn gysylltiedig ag ECT, felly dim ond ychydig o gleifion sy’n barod i siarad am eu profiadau personol. Rydyn ni wedi gofyn i rai ohonyn nhw rannu eu straeon.

Stori Gwyneth

Ym maes iechyd y meddwl, bydd pob brwydr mor unigryw â’r sawl sy’n ymwneud â hi.

Gwyneth yw fy enw i, ac fe ges i fy ngeni yng Nghaerefrog ym 1943.

Fe ddes i Gaerdydd ym 1965 i weithio ym maes addysg uwch.

Dechreuodd fy anawsterau ynghylch iechyd y meddwl ym 1987.

Ceisiais fy lladd fy hun am na allwn i weld unrhyw reswm dros barhau.

Roedden nhw wedi tynnu fy nghroth a’m hwyfa chwith ym 1984 ac efallai bod hynny’n sbardun.

A minnau wedi ymddeol yn 2002, dechreuais i deimlo’n sâl yng ngwanwyn 2003.

Roedd yn anodd ymaddasu yn sgîl ymddeol am fod newid enfawr yn fy mywyd.

Doeddwn i ddim wedi paratoi’n dda ar ei gyfer. Ceisiais fy lladd fy hun eto, a methu o drwch blewyn.

O ganlyniad i driniaeth trwy gyffur gwrth iselder o’r enw venlaflaxine, daeth pwl o wallgofrwydd arnaf a bues i yn yr ysbyty am sbel.

Yn ôl y diagnosis, roeddwn i’n dioddef ag anhwylder deubegwn.

Profiad o ECT

Dechreuodd y therapi electrogynhyrfol ar ôl pwl arall yn 2008. Roeddwn i’n dioddef ag iselder yn Uned Llanfair Ysbyty Llandochau bryd hynny.

Ar ôl pwl arall o wallgofrwydd, roedd yn anochel y byddai iselder yn dilyn.

Yn ystod iselder, mae’n anodd gwneud bron unrhyw beth – bwyta, cysgu, hylendid personol, cael sgwrs arferol.

Ar ôl rhai misoedd yn yr ysbyty, roedd y moddion seiciatryddol arferol heb gael effaith eto.

Gan fod hynny wedi methu, penderfynwyd rhoi cynnig ar therapi electrogynhyrfol.

Bu rhaid imi deithio i Ysbyty’r Eglwys Newydd ar gyfer y driniaeth.

brain model

Alla i ddim cofio llawer o’r hyn a ddigwyddodd, a hynny’n rhannol am fod y cyfnod a dreuliais yn yr uned yn un o brofiadau gwaethaf fy einioes.

Efallai mai’r iselder dwfn a chyflwr gwael yr uned oedd dau reswm.

Dechreuais wella, fodd bynnag, ar ôl 12 sesiwn o’r therapi newydd. Gwelwyd rhywfaint o wella ar ôl dim ond hanner y sesiynau.

12 mlynedd wedyn, yng ngwanwyn 2020, daeth yr anhwylder deubegwn yn ôl.

Bues i yn Ward E18 Gwasanaethau Iechyd y Meddwl i Bobl Hŷn. Daeth hynny ar ôl cymryd moddion gartref dros rai wythnosau wrth geisio fy iacháu fy hun.

Ymddangosai y tro hwn fod cyfuniad o iselder a gwallgofrwydd arnaf. Mae gwallgofrwydd yn teimlo’n dda mewn ffordd am y byddwch chi’n hyderus iawn.

Dyw’r nodweddion eraill – diffyg cwsg a thuedd i wneud gormod – ddim yn iach, fodd bynnag. Fel y nodais uchod, ar ôl gwallgofrwydd daw iselder a diffyg gobaith.

Triniaeth ECT yn ystod y pandemig COVID-19

Gohiriwyd fy therapi electrogynhyrfol oherwydd cyfyngiadau COVID-19 gan fod haint arnaf erbyn yr ail ddiwrnod yn yr ysbyty.

Fe gefais y 12 sesiwn arferol wedi hynny. Mae ystafell y therapi yn Hafan y Coed a byddai nyrs yn fy hebrwng o’r ward.

Doeddwn i ddim yn cael bwyta nac yfed ar ôl canol nos y diwrnod blaenorol i baratoi ar gyfer yr anesthetig.

Roedd staff yr ystafell yn groesawgar ac yn garedig bob amser.

Byddai prawf cof gyntaf cyn mesur pwysedd fy ngwaed, curiad fy nghalon ac ati.

Cyflwynwyd y staff i gyd pan es i mewn i’r ystafell. Bydden nhw’n mesur fy mhen i ofalu y byddai’r electrodau yn y lleoedd cywir.

Rhoddwyd yr anesthetig a chyffur llacio cyhyrau trwy diwb yng nghefn fy llaw.

green reusable face masks

Ar ôl peth ocsigen, byddwn i’n teimlo’n gyfforddus iawn wrth fynd i gysgu. Byddai’r therapi drosodd cyn pen fawr o dro a byddai peth amser yn yr ystafell adfer wedyn.

Byddai’r staff yn rhoi paned a pheth bwyd, hefyd. Cyn ymadael, byddai rhaid mesur curiad y galon, pwysedd y gwaed ac ati eto.

Roeddwn i’n cael gadael Ward E18 rai dyddiau ar ôl diwedd y therapi.

Roedd yn dda gan staff y ward weld bod iechyd fy meddwl wedi gwella’n fawr.

Rwy’n ddiolchgar iawn iddyn nhw am fod yn gefn, hyd yn oed pan nad oeddwn i’n cydweithredu.

Fe glywais eu bod yn rhyfeddu o hyd ynghylch pa mor gyflym roedd y therapi wedi llwyddo.

Penderfynon nhw y byddai rhagor o therapi imi yn glaf allanol. Byddai hynny’n fy helpu i atal ailwaelu.

Roeddwn i’n cael mynd i’r ystafell ar fy mhen fy hun. Yn fy marn i, roedd hynny’n gam pwysig ymlaen.

Ar ôl fy sesiwn olaf, bu prawf cof arall. Roedd rhannau o’r prawf yn eithaf ymestynnol.

Mae rhywfaint o’m cof yn wan – o ganlyniad i’r therapi, efallai. Bu prawf cof terfynol ryw dri mis ar ôl y sesiwn olaf.

Meddyliau terfynol

Mae’r ddadl am fanteision ac anfanteision y therapi yn mynd rhagddi o hyd.

Mae stigma iddo, hyd yn oed ymhlith meddygon.

Efallai y bydd rhai pobl yn gwybod na ddefnyddiwyd anesthetig pan gyflwynwyd y driniaeth gyntaf.

Wrth siarad â ffrindiau yn ddiweddar, dywedodd rhai na fydden nhw’n ei ystyried o achos hynny.

Gwnaeth y ffilm ‘One Flew Over the Cuckoo’s Nest’ (1975) a’r portread o’r therapi yn fath o gosb lawer o niwed.

old fashioned ECT machine

Mae peth ansicrwydd ynghylch sut yn union mae therapi o’r fath yn gweithio, hefyd.

At hynny, mae sibrydion am yr hyn ddigwyddodd i bobl yn ystod y driniaeth.

Mae meddwl yn negyddol yn fwy naturiol i bobl na meddwl yn gadarnhaol am nad oes angen cymaint o ymdrech ymwybodol.

Rwy’n ystyried y therapi yn ffrind gwerthfawr.

Gwelir y canlyniadau yn eithaf cyflym o’u cymharu ag effeithiau moddion seiciatryddol.

Mae colli ychydig o’r cof yn bris bach i’w dalu am ddychwelyd i fywyd normal.

Bues i’n byw am 12 mlynedd heb ailwaelu difrifol a dyna un o fanteision enfawr y therapi, ynghyd â gwybod y byddai ar gael eto pe bai ei angen arnaf o ganlyniad i ailwaelu.”

Hoffem ddiolch i Gwyneth eto am siarad mor onest am ei phrofiad gydag ECT.

Adnoddau

Yr Athro George Kirov

Mae ymchwil yr Athro Kirov ym Mhrifysgol Caerdydd yn canolbwyntio ar rôl amrywiadau rhifau copi (CNVs) a dilyniannu trwybwn uchel mewn anhwylderau niwroseiciatreg. Yn ei waith clinigol, mae'n goruchwylio'r gwaith o gyflenwi ECT yng Nghaerdydd.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd