Skip to main content

Ydy anaf i’r ymennydd yn ymwneud ag iechyd y meddwl?

Mae Ymchwilydd NCMH Claudia yn trafod y berthynas rhwng anafiadau i'r ymennydd a'u heffaith ar iechyd a lles meddwl.

Mae’n anodd gwahaniaethu rhwng iechyd y meddwl ac anafiadau i’r ymennydd yn aml.

Pe bai iechyd eich corff yn wael o ganlyniad i dorri coes, er enghraifft.

Byddai modd dweud nad yw’ch corff yn holliach. Mae’r ddau’n ymwneud â’i gilydd.

Ydy’n berthnasol i iechyd y meddwl ac anaf i’r ymennydd, fodd bynnag?
Ydy’r naill yr un fath â’r llall?

Nac ydy yw’r ateb byr… ond, weithiau, ydy.

Problemau iechyd meddwl

Mae’n ddisgrifiad eang o gyflyrau seicolegol megis iselder, gorbryder, sgitsoffrenia, anhwylder straen ar ôl trawma ac anhwylderau bwyta.

Set o nodweddion gwybyddol, teimladol ac ymddygiadol sy’n diffinio’r cyflyrau hynny i gyd.

Rydyn ni’n tueddu i feddwl am y rhai teimladol ac ymddygiadol gan amlaf, fodd bynnag.

Edrychwn ar iselder clinigol, er enghraifft:

Yn ôl pob tebyg, nodweddion teimladol iselder a ddaw i’r cof fel arfer.

At hynny, efallai eich bod yn gwybod y gall ymddygiad pobl sy’n dioddef ag iselder newid mewn amryw ffyrdd megis bod yn fwy tawedog, cysgu’n fwy neu osgoi bwyta.

Nodweddion gwybyddol yw’r rhai lleiaf amlwg i leygwyr, yn ôl pob tebyg.

Dyna’r medrau y byddwn ni’n eu defnyddio i brosesu gwybodaeth.

Yn ystod pwl o iselder, gallai fod yn anodd canolbwyntio, rhoi sylw neu gofio.

Gall iselder effeithio ar rywun am nifer o resymau.

Gall problem fiolegol megis anghydbwysedd cemegol yn yr ymennydd achosi iselder weithiau.

Ar adegau eraill, fodd bynnag, gall digwyddiad neu brofiad erchyll megis cam-drin ei achosi.

Gall fod yn gyfuniad o’r rheiny i gyd, weithiau.

Anafiadau i’r ymennydd

Mae anaf i’r ymennydd yn anaf corfforol i’r ymennydd.

Gall fod amryw achosion allanol megis damwain mewn car neu daro’ch pen yn ystod chwaraeon.

Ar y llaw arall, gall achos mewnol megis trawiad, haint neu ddiffyg ocsigen niweidio’r ymennydd.

brain scans

Gall rhywun mae’i ymennydd wedi’i anafu amlygu amryw newidiadau gwybyddol, teimladol ac ymddygiadol, hefyd.

Mewn achosion o’r fath, fodd bynnag, anawsterau gwybyddol ddaw i’r amlwg gyntaf, yn aml.

Gan gynnwys problemau ynglŷn â’r cof, iaith, datrys problemau a chanolbwyntio.

Er y bydd newidiadau teimladol ac ymddygiadol yn aml hefyd, fyddwn ni ddim yn ystyried eu bod yn ymwneud ag iechyd y meddwl oni bai bod y sumptomau’n gweddu i ddiagnosis.

Felly, gall rhywun mae’i ymennydd wedi’i anafu ddioddef ag anawsterau gwybyddol, teimladol ac ymddygiadol heb afiechyd y meddwl.

Ar y llaw arall, gall rhywun mae’i ymennydd wedi’i anafu ddioddef ag afiechyd y meddwl, hefyd.

Mae amcangyfrif y bydd hanner y bobl mae’u hymennydd wedi’i anafu yn dioddef ag iselder cyn pen blwyddyn ar ôl yr anaf.

Gallwn ni ystyried hynny mewn dwy ffordd:

  • Mae’n ymddangos weithiau fod yr anaf wedi niweidio yn yr ymennydd strwythur neu swyddogaeth fydd yn ein diogelu rhag iselder.
    Felly, gall anaf i’r ymennydd fod yn achos biolegol neu beri inni fod yn agored i iselder yn fiolegol.
  • Ar y llaw arall, gall anaf arwain at anawsterau gwybyddol a fydd yn newid bywyd rhywun yn fawr megis colli’r gallu i weithio neu wneud pethau roedd yn eu mwynhau cynt.
    Yn sgîl hynny, gall fod yn anodd ymaddasu a gall newid o’r fath yn ei ffordd o fyw arwain at iselder neu beri i rywun fod yn agored iddo.

Wrth gwrs, efallai y bydd pobl sydd wedi dioddef o achos anaf i’r ymennydd ddatblygu problemau iechyd y meddwl sy’n hollol anghysylltiedig â’r anaf honno rywbryd wedyn.

Casgliadau

Dyw afiechyd y meddwl ddim yr un fath ag anaf i’r ymennydd ond gall anaf o’r fath arwain at gyflwr iechyd y meddwl mewn rhai achosion, nid pob un.

I rywun sy’n ceisio ymdopi ag anaf i’r ymennydd, boed gyda phroblem iechyd y meddwl neu beidio, mae Headway yn elusen ragorol sy’n gallu rhoi cymorth a helpu i wella’ch bywyd ar ôl anaf i’r ymennydd.

Adnoddau

  • Taflenni iechyd meddwl NCMH
  • Headway
    Elusen anaf i’r ymennydd
  • The Brain Charity
    Cefnogaeth a chyngor i bobl sy’n byw gyda chyflwr niwrolegol a’u teuluoedd.
Claudia Evison

Mae Claudia yn Gynorthwyydd Seicoleg NCMH.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd