Skip to main content

Does neb yn cymryd plentyn o ddifrif: stori bersonol

Mae Jess yn fyfyriwr lleoliad yn y Ganolfan MRC ym Mhrifysgol Caerdydd. Ar gyfer Wythnos Iechyd Meddwl Plant mae'n rhannu cyfrif gonest o'i phrofiad gyda phroblemau iechyd meddwl fel plentyn a sut mae wedi ysbrydoli ei dewisiadau ar gyfer ei gyrfa ym maes iechyd meddwl.

Roeddwn i’n byw bywyd cysgodol iawn yn blentyn. Cefais y fraint o fyw mewn cartref diogel gyda thair chwaer hŷn (gan gynnwys gefeilles) a oedd yn dalentog, yn garismatig ac yn hyderus (popeth roeddwn i’n teimlo nad oeddwn i).

Pan oeddwn gyda ffrindiau neu deulu, byddent yn dechrau sgwrs gyda fy chwiorydd hŷn ac anaml y byddent yn siarad â mi yn unigol.

Deuthum yn eithaf hoff o hyn, gan nad oedd angen i mi boeni am ddechrau sgwrs ddiddorol na chyfrannu pethau doniol; roedd fy chwiorydd yn siarad ar fy rhan ac nid oedd neb yn sylwi arnaf.

Roeddwn i’n teimlo pe na bawn i’n dweud unrhyw beth yna ni fyddwn yn dweud unrhyw beth o’i le a dyna’r peth mwyaf diogel i’w wneud.

Ond pan ddaeth noson rhieni bob blwyddyn, gwnaed yr un sylwadau, “Dylai Jess godi ei llaw a chyfrannu mwy mewn gwersi” a wnaeth i mi deimlo’n annigonol iawn.

Roedd yr ysgol hefyd yn lle anodd i mi, o’r dderbynfa i’r chweched dosbarth, rwy’n drist dweud na wnes i erioed fwynhau un diwrnod o’r blynyddoedd hyn, a does gennyf yr un atgof nad yw’n cynnwys salwch meddwl.

Roeddwn yn fud o ganlyniad i fy ngorbryder, ac yn cael symptomau tebyg i byliau o banig pan oeddwn yn teimlo’n sâl, angen mynd i’r toiled yn ystod gwersi, yn cael adborth o asesiad neu’n cael fy newis i ateb cwestiwn.

Nid yr athrawon yn unig a sylwodd ar fy nistawrwydd, ond fy nghyfoedion hefyd.

Dechreuais gael fy ngalw’r efeilles dawel ac oriog, tra roedd fy ngefell yn cael llwyth o gariadon, gosodwyd fy chwaer hŷn yn y dosbarthiadau ‘dawnus a thalentog’ ar gyfer pob pwnc ac roedd fy chwaer hynaf yn brif ferch.

Roeddwn yn teimlo fy mod i ar fy mhen fy hun yn llwyr mewn byd tawel, ac yn brwydro â’m meddyliau.

Byddai ffrindiau’n mynd a dod heb unrhyw esboniadau am adael, a byddwn yn cydio yn fy ngefeilles gan fy mod yn gwybod na fyddai hi byth yn fy ngadael.

Rwy’n cofio amseroedd egwyl a chinio cyfan pan fyddwn i’n eistedd mewn distawrwydd wrth wylio’r diwrnod yn mynd heibio, wnes i ddim siarad oherwydd roedd gen i ormod o ofn a chredais hefyd nad oedd gen i ddim byd diddorol i’w ddweud beth bynnag.

Felly, roedd pobl yn dweud fy mod i’n swil.

Images of Jess with her twin through childhood

Ond nid yw rhywun sy’n swil yn osgoi yfed na bwyta drwy’r dydd fel nad oes yn rhaid iddyn nhw ofyn o flaen y dosbarth cyfan a allan nhw fynd i’r toiled.

Nid yw pobl swil yn teimlo bod eu byd yn chwalu bob tro mae rhywun yn edrych arnyn nhw.

Nid yw pobl swil yn eistedd ar lawr eu hystafell wely yn y tywyllwch bob nos yn crio oherwydd nad oes ganddyn nhw unrhyw un i siarad â nhw.

Pam cafodd hyn i gyd ei normaleiddio fel plentyn?

Pam mae pobl yn ceisio dweud wrthyf mai dyna pwy ydw i, gan ddweud wrthyf fod salwch meddwl clinigol a gwanychol yn rhan o fy mhersonoliaeth, yn nodwedd gadarn o’r hyn sy’n fy ngwneud i yn fi, na allaf ei newid na’i dileu, fel coes neu fraich.

Yna pan gefais sawl pwl o banig, penderfynais o’r diwedd drosof fy hun fod angen help arnaf.

Erbyn hyn, roeddwn yn 16 oed ac wedi datblygu iselder ac anhwylder bwyta a wnaeth fy ngorbryder yn waeth.

Doedd ffrindiau ddim yn deall pam fy mod i’n bwyta tamaid o letys yn unig bob dydd i ginio neu’n treulio pob eiliad a oedd gennyf yn adolygu.

Gwnaethant ei gysylltu â fy mhersonoliaeth, ei wneud yn jôc, ac ni wnaethant erioed gynnig unrhyw gymorth, hyd yn oed pan oeddwn yn eistedd yno yn crio o flaen eu trwynau.

Nid ffrindiau yn yr ysgol yn unig ydoedd, roedd meddygon hefyd yn fy nhrin fel merch arall a oedd mynd trwy ‘gyfnod anodd’ yn fy mywyd.

children's shadows on a grey wall

Siaradodd meddygon teulu â mam yn hytrach na mi mewn apwyntiadau, gan danseilio fy anawsterau a dweud wrthyf na allent roi meddyginiaeth imi gan nad ydynt wedi cael eu profi ar bobl o dan 18 oed.

Yna daeth i’r amlwg i mi nad yw ein cymdeithas yn ymwybodol iawn bod plant yn gallu dioddef gyda lleisiau sgrechian a meddyliau isel eu hysbryd yn debyg i unrhyw oedolyn.

Ac eto rydym yn cael ein tanseilio oherwydd cydadwaith o hormonau cymhleth yn ystod cyfnod y glasoed, y farn ystrydebol o ferch oriog yn ei harddegau sy’n ei chael hi’n anodd datblygu i fod yn oedolyn ifanc.

Ac eto, ni wnaeth fy nharo i, fy nheulu, ffrindiau na meddygon y gallwn fod yn profi rhywbeth y tu hwnt i’r norm ac roedd angen help difrifol arnaf i symud a chael gwared ar y rhan hon o’r hyn sy’n fy ngwneud i yn fi: salwch meddwl clinigol.

Gobaith am y dyfydol

Unwaith i mi droi’n 18 oed, cefais feddyginiaeth yn hawdd ac yn gyflym, llawer o wahanol fathau o therapi gan y GIG ac yn breifat, a gadewais addysg brif ffrwd yn llwyddiannus i ddechrau yn fy newis cyntaf o brifysgol i astudio seicoleg.

Er fy mod yn dal i geisio rheoli a pharhau i gystadlu â fy iselder, gobeithio y gallaf, ar ddiwedd fy ngradd, roi’r help yr oeddwn ei angen yn fawr ar bobl pan oeddwn yn blentyn.

Cymorth

  • Young Minds Prif elusen y DU sy’n ymladd dros iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
  • Childline gwasanaeth cwnsela i blant a phobl ifanc hyd at eu pen-blwydd yn 19 oed yn y DU.
  • The Mix yn cynnig cefnogaeth i unrhyw un dan 25 oed am unrhyw beth sy’n eu poeni.
  • Papyrus cynnig cefnogaeth gyfrinachol i bobl ifanc sy’n cael trafferth â meddyliau hunanladdol.
  • Beat yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i unrhyw un y mae anhwylderau bwyta yn effeithio arno.
Jess Wilkins

Mae Jess Wilkins yn fyfyriwr ar leoliad sy'n gweithio gyda thîm ymchwil CNV ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi'n eiriolwr iechyd meddwl sy'n benderfynol o ennyn trafodaeth wrth leihau stigma o amgylch lles. At hynny, yn ei hamser rhydd, mae'n gwirfoddoli i sefydliad yng Nghaerdydd sy'n anfon myfyrwyr prifysgol i ysgolion uwchradd lleol i gyflwyno gwersi ar iechyd meddwl a lles

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd