Posted February 01st 2021
Fel rhan o Wythnos Iechyd Meddwl Plant, roeddem am roi cyflwyniad i’r ganolfan newydd a’i gwaith arfaethedig a fydd, gobeithio, yn gwella bywydau llawer o bobl ifanc ledled Cymru a’r DU.
Pwy ydym ni?
Bydd Canolfan Wolfson, y ganolfan gyntaf o’i math yng Nghymru, yn ymuno ag adran sydd eisoes yn ffynnu yn yr Ysgol Meddygaeth, yn eistedd ochr yn ochr â sefydliadau eraill fel y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol (NCMH), Sefydliad Ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl (NMHRI), a’r Uned Cyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol (BRAIN).
Bydd ein Canolfan yn dwyn ynghyd dîm amlddisgyblaethol o seicolegwyr, seiciatryddion, gwyddonwyr cymdeithasol, genetegwyr ac arbenigwyr iechyd y boblogaeth.
Mae Prifysgol Caerdydd yn Ganolfan ragoriaeth ryngwladol ar gyfer iechyd meddwl pobl ifanc.
Yn dilyn proses gynnig hynod gystadleuol ledled y DU am grant o £10m gan Sefydliad Wolfson, trechodd cais Prifysgol Caerdydd 27 o brifysgolion eraill y DU.
Bydd Canolfan Wolfson, dan arweiniad y cyd-gyfarwyddwyr yr Athro Frances Rice a’r Athro Stephan Collishaw, yn ceisio cynhyrchu tystiolaeth dros y pum mlynedd nesaf sydd nid yn unig yn anelu at wella canlyniadau i bobl ifanc ond hefyd yn datblygu’r ffyrdd mwyaf effeithiol o fynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl.
Bydd y Ganolfan yn defnyddio dull cydweithredol sy’n unigryw yma yng Nghymru ac a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Bydd yn dwyn ynghyd ymchwil iechyd meddwl ieuenctid o’r radd flaenaf o Brifysgol Caerdydd ac Abertawe, yn ogystal â’r byd academaidd rhyngwladol, ysgolion, y GIG, Llywodraeth Cymru, y trydydd sector a’r bobl ifanc eu hunain.
Bydd defnyddio’r ecosystem ragorol sydd gennym ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru yn sicrhau ein bod yn rhoi profiadau a lleisiau pobl ifanc wrth galon gwaith y Ganolfan.
Pam plant a phobl ifanc?
Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn arbennig o heriol i bawb ac ni allai gwaith arfaethedig Canolfan Wolfson fod yn fwy amserol.
Heb os, bydd effaith y pandemig Covid-19 ar addysg, cymdeithasoli a datblygiad pobl ifanc yn cael effaith ar les emosiynol a meddyliol cenhedlaeth gyfan am flynyddoedd i ddod.
Bydd straen y sefyllfa ddigynsail hon yr ydym i gyd yn byw drwyddi yn cael ei theimlo gan y rhai mwyaf agored i niwed, yn enwedig unrhyw un sydd â chyflwr iechyd meddwl.
Mae’r problemau mwyaf cyffredin i blant a phobl ifanc yn cynnwys iselder ysbryd, gorbryder ac ADHD ac anhwylderau’r sbectrwm awtistiaeth (niwro-amrywiaeth).
Mae’r holl broblemau iechyd meddwl gwahanol hyn yn gorgyffwrdd (awtistiaeth heddiw, iselder yfory) ac mae cysylltiad agos rhyngddynt.
Mae problemau iechyd meddwl a niwroddatblygiadol yn peri gofid a gallant fod yn gostus i’r person ifanc yr effeithir arno, y rhai o’i gwmpas a gwasanaethau canolog y llywodraeth.
Gall y materion hyn effeithio ar addysg pobl ifanc, eu rhagolygon cyflogaeth a’u perthnasoedd â theulu a ffrindiau a gallant, yn anffodus, arwain at hunan-niweidio, camddefnyddio cyffuriau a marwolaeth cyn pryd.
Mae problemau iechyd meddwl ymysg pobl ifanc wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae’r dystiolaeth ddiweddaraf yn dangos bod COVID-19 wedi effeithio’n anghymesur ar iechyd meddwl pobl ifanc, yn enwedig y rhai o gefndiroedd difreintiedig.
Dylanwadu ar bolisi a gwneud newid
Bydd ymdrechion ymchwil cydweithredol Canolfan Wolfson yn cryfhau cysylltiad uniongyrchol effeithiol â Llywodraeth Cymru ac yn anelu at sicrhau newid diriaethol mewn polisi i wella bywydau pobl ifanc.
Dywedodd y Cyd-gyfarwyddwr yr Athro Frances Rice, “Rydym yn darparu cyngor arbenigol i Lywodraeth Cymru wedi’i lywio gan wybodaeth gyfoes o’r dystiolaeth a’r arfer gwyddonol gorau yn rhyngwladol.
“Gan dynnu ar ein seilwaith ymchwil ledled Cymru gallwn werthuso effaith polisi newydd ar iechyd meddwl plant, meysydd cysylltiedig gan gynnwys iechyd ac addysg, ac anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru.
“Mae gwerthuso cadarn yn llywio’r hyn sy’n gweithio’n dda, ar gyfer pa blant ac o dan ba amgylchiadau. Mae ein hymchwil yn helpu i lywio polisi, ac i’r gwrthwyneb.”
Mae’r cysylltiadau adrannol cyfredol â Llywodraeth Cymru yn cynnwys:
- Capasiti cynghori gwyddonol ar gyfer T4CYP (Gyda’n Gilydd dros Blant a Phobl Ifanc) a’r Cyd-Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol ar gyfer y Strategaeth Iechyd Meddwl Ysgol Gyfan.
- Buddsoddiad traws-lywodraeth a chynllunio strategol yn y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion ar gyfer yr adroddiad dangosyddion cenedlaethol parhaus ac i werthuso polisi (e.e. Strategaeth Iechyd Meddwl, Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015)
- Swydd polisi iechyd meddwl newydd wedi’i hariannu ar y cyd gan Ganolfan Wolfson a Llywodraeth Cymru.
Cyfleoedd ac uchelgeisiau yn y dyfodol
Mae Canolfan Wolfson yn cynnig cyfleoedd pwysig i ehangu’r seilwaith ymchwil yng Nghymru, er enghraifft trwy ehangu’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion i ysgolion cynradd, Unedau Cyfeirio Disgyblion ac ysgolion arbennig, yn ogystal ag addysg uwch.
Byddwn yn parhau i ddatblygu ymyrraeth gynnar effeithiol i wella iechyd meddwl a chefnogaeth i bobl ifanc niwro-amrywiol a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru.
Ychwanegodd y Cyd-gyfarwyddwr yr Athro Stephan Collishaw,
Ein huchelgais yw defnyddio ein henw da rhyngwladol yng Nghymru trwy ganolfan flaenllaw Wolfson.
“Rydym yn bwriadu adeiladu ac ehangu’r gweithlu iechyd meddwl plant a’r glasoed yn y meysydd addysg, iechyd ac ymchwil.
“Blaenoriaeth bwysig yw denu’r gorau i fyw a gweithio yng Nghymru a’u cadw yma, sy’n her neilltuol o ystyried y pandemig COVID-19, ac edrychwn ymlaen at weld y Ganolfan yn ehangu ymhellach yn ystod y misoedd nesaf, cyn lansiad ffurfiol llawn yn y hydref.”
Ymunwch a’r tim
Mae Canolfan Wolfson bellach wrthi’n recriwtio ar gyfer amrywiaeth o swyddi darlithio ac ymchwil ar Radd 5 ac uwch. Darllewnch mwy ar wefan Prifysgol Caerdydd.
Dod yn fuan
Ewch i’n wefan newydd a gallwch ffindo ni ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol:
Ymunwch â ni yno i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau cyffrous sy’n digwydd dros y misoedd nesaf.