Skip to main content

Defnyddio’r môr i reoli fy iselder

Fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2021, mae Kit, sy’n Bencampwr Ymchwil NCMH, yn sôn wrthym am ei diagnosis o iselder, a sut y mae nofio yn y môr wedi ei helpu ar ei thaith at adferiad.

Gall iselder effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg o’u bywyd a gall ddigwydd am ddim rheswm amlwg o gwbl.

Ar ddechrau fy nghyfnod o iselder yn 2014 fe wnes i ysgrifennu ar gerdyn post, ‘Rwy’n mynd i guro hyn’ ac fe wnes i ei roi ar y radio wrth fy ngwely. Mae’n dal yno. Fe wnes i guro’r iselder, ond nid ar fy mhen fy hun.

Allwn i fyth fod wedi credu bod modd i mi deimlo mor ddrwg, a doedd dim ots faint roeddwn i’n ceisio meddwl fy ffordd trwyddi, doedd dim yn tycio.

Dydyn ni ddim bob amser yn sylwi ar yr arwyddion ar unwaith. Neu efallai ein bod yn ceisio delio â sefyllfaoedd anodd ar ein pennau ein hunain. Cymerodd amser i gyfaddef i mi fy hun fy mod yn teimlo’n isel. Roeddwn i’n gobeithio y byddai’n diflannu, ond faint bynnag roeddwn i’n gobeithio, doedd hynny ddim yn gwneud iddo ddiflannu.

Sylwi ar newidiadau mewn ymddygiad 

Wrth i mi golli ymdeimlad ohonof fy hun, roeddwn i’n gwybod bod rhaid i mi gyfadde sut roeddwn i’n teimlo. Fe ddywedais i wrth fy ngŵr, a oedd wedi sylwi fy mod i wedi mynd braidd yn anghymdeithasol. Roedden ni wedi bod yn aros am Eurostar pan ddechreuodd siarad â newyddiadurwr ifanc a oedd yn mynd i fod yn gweithio’n agos aton ni gartref.

Fe wnes i wrthod ymgysylltu â hi, sydd ddim yn nodweddiadol, ac fe ddywedodd y drefn wrthyf fi am hynny ar ôl i ni fynd ar y trên.

Y foment honno a wnaeth i mi sylweddoli fy mod i’n llithro.

Fe wnes i ypsetio’n fawr a methu aros yn llonydd, roeddwn i’n methu aros mewn un lle bron yn gyfangwbl. Doedd dweud fy mod i’n methu setlo ddim yn agos at ei ddisgrifio. Ffoniodd fy ngŵr y feddygfa a gofynnodd i rywun – unrhyw un, ollwng y dasg oedd ar waith a dod aton ni i’n cartref yn gyflym.

Ymddangosodd dyn ifanc o fewn ychydig funudau. Cyflwynodd ei hun fel Adam, meddyg a oedd wedi cymhwyso’n ddiweddar.

Dechreuodd fy nghynnwrf dawelu, ac roeddwn i’n teimlo’n ffôl ac yn euog, ond fe’m cyfeiriodd ar unwaith at y tîm iechyd meddwl.

Yr oedd yn drawiadol pa mor ddifrifol yr oedd yn ystyried y broblem, er na chafodd fawr ddim tystiolaeth uniongyrchol o’m trallod. Ddychmygais i erioed y byddwn i’n cael mynediad at unrhyw gymorth. Rwy’n tueddu i ddatrys problemau fy hun ond roedd hyn ymhell y tu hwnt i’m gallu i ddelio ag ef.

Roedd Adam ar leoliad a welais i mohono erioed yn y feddygfa wedyn, ond fe’m gosododd ar lwybr na allwn obeithio dringo allan o’m salwch hebddo. Rhoddwyd trefn ar bethau’n gyflym i greu rhywbeth cydlynus a thosturiol.

Cael help 

Doeddwn i erioed wedi cael unrhyw help o’r blaen. Fe ges i ambell gyfnod dros y blynyddoedd pan oedd fy hwyliau’n isel, ond fe wnes i weithio fy ffordd drwyddynt. Ond ar ôl i mi ymddeol, fe ges i fy llethu gan gyfnod hwy o iselder.

Roedd cefnogaeth y Tîm Iechyd Meddwl yn ddi-ben-draw yn eu triniaeth. Roedd yn ymddangos yn rhwystr anorchfygol i mi fod mewn ystafell anghyfarwydd gyda’m gŵr, y CPN a’r ymgynghorydd, nad oeddwn wedi cyfarfod â nhw cyn y diwrnod hwnnw ac roeddwn i’n meddwl, “Fydda i byth yn dod i arfer â’r bobl hyn.”

Roeddwn i’n gwbl anghywir. Dechreuais werthfawrogi a deall gwerth y ddau ohonynt o’r dechrau, ond cymerodd oes i ddod i arfer â’r holl beth.

Ac eto, wrth edrych yn ôl, ni welaf ddim ond sicrwydd a charedigrwydd; amynedd diddiwedd a chreadigrwydd go iawn.

Efallai mai gwyddor yw meddygaeth, ond mae rhywbeth na ellir ei ddiffinio ynghylch ymgysylltiad y tîm â mi. Nid triniaeth yn unig oedd hyn. Roedden nhw’n meddwl yn fanwl am fy achos. Ac eto, dydyn nhw ddim yn cael digon o gyllid, na digon o staff, ac maen nhw wedi’u gorlwytho â chleifion. Mae eu hamynedd a’u proffesiynoldeb yn ddi-ben-draw, ac yn raddol fe wnaethon nhw sicrhau fy mod yn dilyn llwybr at adferiad. Nid meddygaeth yn unig yw hyn, ond alcemeg.

Bod ym myd natur fel rhan o adferiad wedi iselder 

Dydw i ddim yn nofiwr gwych, ond fe wnes i ddefnyddio’r môr hefyd yn fodd i fyfyrio drwy’r tymhorau i helpu i reoli fy iselder, gan ddefnyddio codi arian i’m gwthio ymlaen. 

a sunset viewed from between the waves in the sea

Yn yr haf, pan fyddwch chi’n nofio i gael hwyl, mae’n debyg iawn i fod yn y groth. Mae fel petai’n anadlu’n dyner ac yn eich siglo.  Fodd bynnag, yn y gaeaf, pan fydd yr eirlaw yn taro’ch croen noeth, dyw e ddim mor hawdd, ond rwy’n cael teimlad mor wych pan fydda i’n nofio. 

O ystyried y pwysau oedd arna i wrth godi arian, a gorfod gwneud y gwaith, roeddwn i wrth fy modd gyda rhai o’r sesiynau nofio hynny. Mae gen i atgofion hefyd am rai sesiynau pan oeddwn i’n dymuno mod i heb fynd i’r môr y diwrnod hwnnw! 

Os ydych chi’n cael trafferth ymdopi, yn rhagweld trychinebau, yn pendroni neu’n bryderus, dewch o hyd i ryw ffordd o gysylltu â byd natur. Does dim rhaid i hynny fod drwy fynd yn wlyb, ond bydd dod o hyd i gysur wrth fod yn yr awyr agored yn rhoi mwy o bleser a heddwch i chi nag y gallwch chi ddychmygu. 

O’i gyfuno â chymorth proffesiynol, gall treulio amser allan ym myd natur wneud gwahaniaeth mawr. 

Cofiwch, allwch chi ddim cymryd gofal da i gleifion yn ganiataol.  Os ydych chi’n ei dderbyn, dylech ei werthfawrogi.  

Ysgrifennodd Kit gerdd hefyd am effeithiau nofio yn y môr ym mhob un o’r tymhorau ar ei hiechyd meddwl a sut helpodd hynny hi i wella.

Adnoddau

Darllen pellach

Kit

Mae Kit yn athro wedi ymddeol sy'n mwynhau nofio, darllen ac ysgrifennu barddoniaeth. Mae hi hefyd yn Hyrwyddwr Ymchwil NCMH.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd