Skip to main content

Anhwylder Datblygu Iaith yn yr ystafell ddosbarth: 10 peth rydw i wedi’u dysgu am yr anhwylder

Dyma Hannah yn rhannu ei phrofiad o gefnogi plant ag Anhwylder Datblygu Iaith ac yn esbonio pam mae gwybodaeth a dealltwriaeth well o'r cyflwr hwn yn hanfodol er mwyn helpu i wella lles plant, i’w galluogi i lwyddo o fewn yr ystafell ddosbarth yn ogystal â thu hwnt.

Rydw i wedi treulio degawd yn gweithio mewn darpariaeth Dysgu Uwch i blant ag Anhwylder Datblygu Iaith.

Mae darpariaeth Dysgu Uwch yn sylfaen adnoddau sy’n aml yn rhan o ysgol brif ffrwd, lle mae maint dosbarthiadau fel arfer lawer yn llai.

Mae athrawon a chynorthwywyr addysgu arbenigol ar gael, ac mae plant yn cael mynediad at therapydd lleferydd yn rheolaidd.

Mae’r amgylchedd a’r cwricwlwm cyfan wedi’u haddasu i gyd-fynd ag anghenion y plant ag Anhwylder Datblygu Iaith, gan eu trochi mewn geirfa a rhoi ymyriadau arbenigol drwy gydol y dydd.

 Some artwork by children laid on a classroom floor.

Beth yw Anhwylder Datblygu Iaith?

Mae Anhwylder Datblygu Iaith yn golygu eich bod yn cael anawsterau’n deall a/neu’n defnyddio iaith lafar.

Gall hyn fod yn berthnasol i unrhyw iaith lafar.  Mae’n gallu gwneud amrywiaeth o bethau mewn bywyd yn anodd iawn, fel dilyn cyfarwyddiadau syml, yn enwedig os nad yw’r bobl o’ch cwmpas yn gefnogol i’ch anghenion.

Roedd Anhwylder Datblygu Iaith yn arfer cael ei alw Nam Iaith Penodol, ac mae’n derm cymharol anghyfarwydd, ac eto mae’r cyflwr bum gwaith yn fwy cyffredin nag awtistiaeth, ac yn effeithio ar tua dau blentyn ym mhob ystafell ddosbarth.

Mae’n bleser gwylio’r plant yn dysgu ac yn magu hyder.

Mae plant yn aml yn dechrau yn y ddarpariaeth gyda phroblemau o ran ymddygiad, hyder isel a sgiliau cymdeithasol gwael, ond mae hyn yn aml oherwydd eu bod yn teimlo mor rhwystredig: nid yw pobl yn eu deall, neu maent yn cael trafferth deall iaith.

Wrth i’w hiaith ddatblygu ac wrth iddynt ddod o hyd i offer a dulliau o reoli’r anhwylder, mae eu sgiliau cymdeithasol yn gwella ac mae eu hyder yn tyfu, ac mae hyn heb os yn cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd meddwl a’u lles cyffredinol yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.

Sut beth yw cael Anhwylder Datblygu Iaith?

Rydw i am i chi ddychmygu siarad â rhywun.

Rydych chi’n clywed popeth mae’r person yn ei ddweud, ond yn hytrach na gallu cymryd y geiriau i mewn a’u deall, maen nhw’n hofran i fyny i’r awyr.

Dyma sut mae Anhwylder Datblygu Iaith yn gallu teimlo, a gall fod yn brofiad rhwystredig sy’n peri gofid.

A vibrant and engaging classroom setting to help children learn.

Ystafell ddosbarth fywiog a diddorol i helpu plant i ddysgu.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

10 peth rydw i wedi’u dysgu am yr anhwylder

Rwy’n gobeithio y gallai hyn helpu athrawon eraill i ddeall ac adnabod Anhwylder Datblygu Iaith yn well mewn lleoliad addysg, a’n hatgoffa o’r hyn y gallwn i gyd ei wneud i gefnogi plant a phobl ifanc sydd â’r cyflwr.

Dyma ddeg peth rydw i wedi’u dysgu am yr anhwylder:

  1. Anhwylder Datblygu Iaith yw’r anabledd dysgu mwyaf cyffredin nad oes neb wedi clywed amdano. Nid yw’n cael y cyhoeddusrwydd, y sylw na’r ymwybyddiaeth sydd eu hangen arno. Gan fod llawer o bobl heb glywed am y cyflwr, gall fod yn anodd ei adnabod.
  2. Weithiau mae Anhwylder Datblygu Iaith yn anweledig gan nad yw’n effeithio ar seiniau lleferydd rhywun. Gall ymddangos mewn ffyrdd eraill, fel trafferth yn ffurfio brawddegau’n gywir, yn dilyn cyfarwyddiadau, neu’n bod mewn sefyllfaoedd cymdeithasol.
  3. Mae darpariaethau dysgu uwch ar gyfer Anhwylder Datblygu Iaith yn hanfodol. Efallai na fydd bob amser yn bosibl cael lle i’ch plentyn mewn darpariaeth oherwydd diffyg cyllid, ond mae athrawon yn defnyddio dulliau i helpu i gefnogi’r anhwylder mewn ystafelloedd dosbarth prif ffrwd.
  4. O ddydd i ddydd rwy’n ceisio defnyddio’r dulliau defnyddiol canlynol yn yr ystafell ddosbarth: gwneud datganiadau clir, modelu, ymarfer ac ailadrodd, rhoi amser i blant brosesu’r hyn a ddywedwyd, ac ailadrodd cyfarwyddiadau pwysig gyda chymorth gweledol.
  5. Y cynharaf y gallwch gael diagnosis yw pump oed, ond mae diagnosis cynnar yn hollbwysig ar gyfer rheoli’r anhwylder.A vibrant classroom table designed to help children with disabilities learn.
  6. Gall deall beth mae Anhwylder Datblygu Iaith yn ei olygu helpu rhywun sydd â’r anhwylder.
  7. Mae’n anhwylder gydol oes ond mae modd ei reoli gyda’r gefnogaeth gywir.
  8. Mae lefelau Anhwylder Datblygu Iaith chwe gwaith yn uwch ymhlith pobl ifanc yn y carchar. Gallai hyn fod am nifer o resymau, fel trafferthion yn deall yr iaith ar raglenni adsefydlu.
  9. Mae llawer o gymorth ac adnoddau ar-lein i rieni ac athrawon helpu plant gyda’r anhwylder. Edrychwch ar yr adnoddau isod a allai fod o gymorth.
  10. Mae plant ag Anhwylder Datblygu Iaith yn gallu ac yn gwneud.

Mae’r plant rwy’n gweithio gyda nhw yn dangos penderfyniad, gwydnwch a dewrder wrth wynebu’r heriau sy’n gysylltiedig ag Anhwylder Datblygu Iaith.

Mae’n fraint gweithio gyda’r plant hyn ac rwy’n falch o’r rôl sydd gen i a fy nghydweithwyr o ran helpu’r plant gwych hyn i ffynnu.

Adnoddau

Darllen rhagor

Hannah

Athrawes yw Hannah mewn lleoliad sy’n darparu addysg estynedig ar gyfer plant ag anhwylder datblygu iaith.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd