Skip to main content

Hysteria: hanes o niwed o amgylch iechyd meddwl menywod

I nodi Mis Hanes Menywod, rydym yn archwilio hanes cymhleth istorïaeth a'i effaith trwy'r canrifoedd ar ddealltwriaeth o iechyd menywod.

Drwy gydol hanes, mae labeli misogynaidd wedi dylanwadu ar sut mae iechyd meddwl a chorfforol menywod yn cael ei drin.

Yn tarddu o’r gair Groeg am groth, diffinnir hysteria gan emosiynau gormodol sy’n arwain at ymddygiad emosiynol a nodweddion corfforol fel confylsiynau.

Yn y blog hwn, rwy’n crynhoi’r safbwyntiau a’r driniaeth o hysteria o bedwar ciplun o hanes cymhleth i helpu i lywio pam mae angen dybryd am ymchwil sy’n canolbwyntio ar fenywod.

“Am y rhan fwyaf o hanes, mae iechyd meddwl menywod wedi cael ei ddiystyru, ei gamddeall, neu ei ddefnyddio fel arf yn eu herbyn.” – Yr Athro Arianna di Florio

Yr Hen Roegiaid a Rhufeiniaid – y “groth grwydrol”

Defnyddiwyd y term hysteria am y tro cyntaf gan feddyg o’r Hen Roeg, Hippocrates. Roedd yr hen Roegiaid yn credu bod y groth yn greadur byw a oedd yn dymuno atgenhedlu. Os nad oedd yn cael ei bodloni, byddai’n crwydro’r corff yn gorfforol gan achosi anhwylderau amrywiol.

Roedd y Rhufeiniaid yn defnyddio’r term hysteria hefyd ac roedden nhw mewn cytundeb mai’r groth oedd yr achos.

Roedden nhw’n anghytuno y gallai grwydro ond bod y corff a’r meddwl yn dylanwadu ar ei gilydd.

Byddai anhwylderau corfforol oedd yn cael eu hachosi gan y groth yn arwain at symptomau meddyliol, neu i’r gwrthwyneb, gan ymddangos fel hysteria. Roedden nhw hefyd yn credu bod dynion yn profi hysteria yn deillio o’r un awydd, ond roedd hyn yn llai cyffredin.

Cytunodd y ddau wareiddiad mai’r ateb oedd priodi a beichiogi, gan gyflawni awydd y groth.

I’r Groegiaid, byddai hyn yn ei hatal rhag symud trwy ei hangori. Yn aml nid oedd symptomau’n diflannu gan fod yr “iachâd” hwn yn seiliedig ar dybiaethau anghywir a chamsyniadau a oedd oherwydd bod awtopsïau’n dabŵ diwylliannol.

Heddiw mae’r syniad o “groth grwydrol” yn chwerthinllyd. Mae’n debyg bod y menywod hyn wedi dioddef o afiechydon nad oedd meddygon yn eu deall.

Er enghraifft, strôc a niweidiodd yr ymennydd gan arwain at barlys. Fodd bynnag, nid yw eu holl gredoau yn anghywir, oherwydd gall y corff a’r meddwl ddylanwadu ar ei gilydd.

Oesoedd Canol – cythreuliaid a dewiniaeth

Roedd menywod yn parhau i brofi anhwylderau tebyg yn yr Oesoedd Canol er eu bod bellach yn cael eu gweld trwy lens ysbrydol a chrefyddol ac yn aml nid oedd y cyflwr yn cael ei labelu’n hysteria.

Yn lle hynny, priodolwyd symptomau i ddewiniaeth a meddiant cythreulig. A hwythau’n cael eu hystyried fel y “rhyw wannach”, roedd menywod yn cael eu hystyried yn fwy agored i’r goruwchnaturiol ac yn fwy tebygol o wneud cytundeb â’r diafol.

Wrth i safbwyntiau ar hud newid o fod yn beth da o bosibl i ymosodiad ar grefydd, daeth y driniaeth yn fwy llym, gan newid o dalismonau i alltudio, erlyn a marwolaeth.

Efallai bod yr hyn a ystyrid yn feddiant cythreulig yn seicosis wedi’i achosi gan bwysau crefyddol neu wedi’i egluro gan newidiadau hormonaidd a oedd yn cael eu hwynebu yn ystod mislif, beichiogrwydd neu enedigaeth.

Nid y “rhyw wannach” oedd menywod ond yn hytrach y rhyw oedd yn wynebu mwy o ddisgwyliadau cymdeithasol gan achosi mwy o ofid ynghylch credoau crefyddol ac ysbrydol.

Roedd ofn cael ei labelu’n wrach yn helpu i sicrhau cydymffurfiaeth.

Fictoriaid – cydymffurfiaeth a dechrau newid

Yn ystod oes Fictoria, cafodd hysteria ei gategoreiddio’n anhwylder meddwl, a pharhaodd y gred fod menywod yn israddol, gyda’r syniad mai’r groth oedd yr achos yn dychwelyd.

Daeth hysteria yn un label yn cwmpasu llawer o anhwylderau corfforol a meddyliol, gan gynnwys epilepsi a sgitsoffrenia.

Mewn geiriau eraill, diagnosis diofyn pan nad oedd gan feddygon yr wybodaeth feddygol na’r offer i ddeall eu symptomau.

Defnyddid hysteria i orfodi cydymffurfiaeth â safonau cymdeithasol o fod yn wannach ac yn ddibynnol ar ddynion.

Roedd menywod a wrthryfelodd yn wynebu stereoteipiau o fod yn wallgof, yn afresymol ac yn achosi trafferth a oedd yn tanseilio ei barn, ei safbwyntiau a’i lle mewn cymdeithas.

Roedd y driniaeth ar gyfer hysteria yn amrywio, o dawelyddion i hydrotherapi i ysbytai ac roedd yn seiliedig ar ddifrifoldeb canfyddedig. Yn aml yn canolbwyntio ar dawelu’r groth, dynion oedd yn pennu’r driniaeth.

Roedd gorffwys yn y gwely yn golygu bod yn gaeth i wely a pheidio â chael caniatâd i wneud pethau syml hyd yn oed, fel brodwaith, rhag ofn gorysgogi.

Ym mlynyddoedd diweddarach oes Fictoria, newidiodd y ddealltwriaeth o hysteria. Awgrymodd Jean-Martin Charcot, niwrolegydd enwog, fod hysteria yn niwrolegol ac nad oedd yn gysylltiedig â’r groth. Dadleuodd hefyd fod rhagfarn feddygol yn peri i achosion oedd yn ymwneud â dynion fynd heb i neb sylwi arnynt.

Roedd Sigmund Freud, ffigur dadleuol, yn ystyried hysteria fel anhwylder seiciatrig wedi’i wreiddio mewn trawma. Datblygodd y syniad o niwrosis hysterig y gellir ei rannu’n ddau fath:

  • math daduniadol lle roedd agweddau ar fywyd wedi’u blocio gan eu gwneud yn anymwybodol o brofiadau hysterig
  • math o drosi lle mae agweddau seicolegol yn troi’n symptomau corfforol

Heddiw – cynnydd a’i derfynau

Cafodd hysteria ei gynnwys yn y Llawlyfr Diagnostig ac Ystadegol (DSM) cyn dod yn gategori o niwrosis hysterig. Ym 1980, disodlwyd hysteria gan drosi. Nodweddir trosi gan symptomau neu ddiffygion echddygol a synhwyraidd.

Symudiad o fewn y corff yw symptomau echddygol ac mae symptomau synhwyraidd yn effeithio ar ein pum synnwyr. Mae’r DSM(5) cyfredol yn ymdrin â throsi o dan Anhwylder Niwrolegol Gweithredol.

Heddiw, menywod sy’n fwyaf blaenllaw mewn perthynas â samplau ymchwil, ond mae ymchwil sy’n canolbwyntio ar fenywod yn llai cyffredin, gan arwain at anwybyddu gwahaniaethau rhwng y rhywiau a phenderfynyddion cymdeithasol.

Mae ymchwil niwtral o ran rhywedd yn anwybyddu ffactorau risg sy’n seiliedig ar rywedd sy’n cyfrannu at ddatblygiad anhwylderau iechyd meddwl.

Mae adegau ym mywydau menywod sy’n gallu cael effaith enfawr ar iechyd meddwl fel y glasoed, y mislif, beichiogrwydd a’r menopos yn dal i beidio â chael eu hastudio’n ddigonol.

Er bod cynnydd yn cael ei wneud i ddadwneud ein rhagfarnau a phontio bylchau yn ein gwybodaeth, nid yw’n digwydd yn ddigon cyflym.

“Pan fydda i’n siarad â menywod yn fy nghlinig, rwy’n cael fy synnu’n aml ar ba mor hir maen nhw wedi cael eu gadael heb atebion. Yng Nghaerdydd, rydym yn gweithio i newid hynny — mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar ddeall pam mae rhai menywod yn fwy agored i anhwylderau seiciatrig sy’n gysylltiedig â digwyddiadau bywyd atgenhedlu fel y mislif, genedigaeth a’r menopos. Mae hanes hysteria yn ein hatgoffa o faint o niwed y gall absenoldeb tystiolaeth ei achosi. Dyna’n union pam mae’r ymchwil hon yn bwysig.” – Yr Athro Arianna di Florio

Yma yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, rydym yn gwerthfawrogi profiadau menywod ac mae astudiaethau parhaus sy’n ymchwilio i iechyd meddwl menywod mae hanes wedi’i anwybyddu.

Darllenwch am ein hymchwil

Cymerwch ran yn yr ymchwil

PreDDICT

  • Rydym yn bwriadu nodi ffactorau risg anhwylderau seiciatrig sy’n gysylltiedig â digwyddiadau atgenhedlu er mwyn gwella dulliau presennol.

Mamau ac Iechyd Meddwl (MaM)

  • Rydym yn ymchwilio i achosion a sbardunau salwch meddwl difrifol yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl genedigaeth.

Iechyd meddwl mamol

  • Mae ein hymchwil i iechyd meddwl mamau yn rhoi enghreifftiau o sut y gall profiadau bywyd effeithio ar les ac iechyd meddwl mamau yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl genedigaeth.

 

Stephanie Semmons

Mae Stephanie yn fyfyriwr lleoliad Prifysgol Caerdydd yn gweithio ar brosiect Asesiad Gweledol Ar-lein Caerdydd (CONCA).

Find out more.
Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd