Posted August 23rd 2023
Wedi’i gynnal gan ein Rheolwr Cyfathrebu Catrin Hopkins, ymunodd Dave Brown, Hyrwyddwr Ymchwil NCMH â ni, i drafod ei brofiad o anhwylder deubegynol gyda Rheolwr Prosiect UK Minds, Holly Pearce.
“Gadewch i ni rannu ein profiadau i helpu cenedlaethau’r dyfodol gyda’u salwch meddwl. Gorau po fwyaf y gallwn ledaenu’r gair am yr ymchwil hon.” – Dave Brown
Mae UK Minds yn astudiaeth genedlaethol mewn cydweithrediad ag Akrivia Health, sy’n ceisio datblygu cronfa ddata fawr o wybodaeth trwy gyfweliadau a samplau genetig (samplau gwaed) sy’n gysylltiedig â chofnodion dienw y GIG er mwyn helpu ymchwilwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o ddementia a chyflyrau iechyd meddwl penodol ymhellach.
Gwrando nawr
Minisode: Ymchwil iechyd meddwl a dementia
Mae podlediad Piece of Mind yn gydweithrediad rhwng NCMH a Chanolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig Prifysgol Caerdydd (CNGG) sy’n trafod y diweddaraf mewn ymchwil a seiciatreg iechyd meddwl.