Skip to main content

Helpu gyda’n ymchwil

Amadano’r astudiaeth

Yn ystod y cyfnod hwn nas gwelwyd ei debyg erioed, mae’n bwysig ystyried dylanwad eang argyfwng COVID-19 ar ein cymdeithas. Mae NCMH yn ceisio deall rhagor am effaith yr argyfwng ar bobl sy’n dioddef ag afiechyd y meddwl.

Os penderfynwch chi gymryd rhan, gofynnwn ni ichi roi peth gwybodaeth sylfaenol amdanoch chi, iechyd eich meddwl, eich lles a’ch profiad ynglŷn â COVID-19. Does dim rhaid ichi gymryd rhan a does dim rhaid ichi ateb unrhyw gwestiynau a allai aflonyddu arnoch chi.

Os nad ydych chi’n gyfarwydd â’n hymchwil, hoffen ni nodi pobl a fyddai’n fodlon ystyried cymryd rhan mewn prosiectau eraill ym maes iechyd y meddwl, hefyd.

Cymryd rhan

Ar hyn o bryd mae ein hymchwilwyr yn gweithio ar arolwg newydd ar gyfer yr ymchwil hon ond gallwch gofrestru eich diddordeb mewn cymryd rhan a byddwn yn cysylltu pan fydd ar gael.

Please note that the online survey platform is only available in English

 

Beth fydd yn rhaid i mi ei wneud?

Mae cymryd rhan yn wirfoddol: chi sy’n penderfynu p’un a ydych am gofrestru ai peidio.

Os dewiswch chi gymryd rhan, fe’ch holir a fyddech chi’n fodlon gwneud y canlynol:

  1. Rhoi eich cyfeiriad ebost a pheth gwybodaeth bersonol megis dyddiad eich geni, eich grŵp ethnig a’ch statws cyflogaeth.
  2.  Ateb rhai cwestiynau am iechyd eich meddwl a’ch profiad ynghylch COVID-19. Bydd angen tua 20-25 munud i wneud hynny.
  3. Gadael inni gysylltu â chi yn fynych i ofyn cwestiynau dilynol am argyfwng COVID-19. Bydd mynychder y cysylltu’n dibynnu ar hynt yr argyfwng, ond dim mwy nag unwaith y mis ym mhob achos.
  4. Caniatáu inni ledaenu gwybodaeth ddienw ymhlith ymchwilwyr eraill a chanddynt sêl bendith wyddonol a moesegol ynghylch y cwestiynau yr hoffen nhw ichi eu hateb.

Byddwn ni’n defnyddio’ch atebion i’n helpu i ddeall rhagor am effaith COVID-19 ar iechyd y meddwl a dylanwadu ar bolisïau.

Rydyn ni wedi hel peth gwybodaeth am fudiadau y gallwch chi gysylltu â nhw os oes angen cymorth arnoch chi.

 

Dim ond i bobl sy’n cymryd rhan am y tro cyntaf:
Ar ôl llenwi’r holiadur, cewch chi ddewis a hoffech chi dderbyn gwybodaeth am waith NCMH yn rheolaidd a’n gwahodd i gysylltu â chi am gyfleoedd eraill i gymryd rhan mewn ymchwil. Os cytunwch chi, fe’ch holir a fyddech chi’n fodlon gwneud y canlynol, hefyd:

  1. Rhoi manylion cysylltu ychwanegol megis eich enw, eich cyfeiriad a rhif eich ffôn.
  2. Caniatáu inni gysylltu â chi yn y dyfodol am astudiaethau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi. O wneud hynny, fyddwch chi ddim yn ymrwymo i gymryd rhan mewn unrhyw ymchwil.
  3. Caniatáu inni gysylltu â chi bob 6-12 mis i’ch gwahodd i roi rhagor o wybodaeth am iechyd eich corff a’ch meddwl a’ch ffordd o fyw.

Os cytunwch chi, cewch chi ddewis a hoffech chi gymryd rhan mewn unrhyw astudiaethau, holiaduron neu achlysuron a ddisgrifir pan gysylltwn ni â chi.

Cwestiynau Cyffredin

Os ydych chi’n hapus i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon ewch i’n platfform arolwg ar-lein i ddechrau.

Please note that the online survey platform is only available in English.

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd