JAMMIND
Ym mis Medi 2018, gwnaethom weithio gyda Chanolfan MRC ar gyfer Niwroseiciatreg a Genomeg ym Mhrifysgol Caerdydd i gynnal JAMMIND, jam gemau a ariennir gan Ymddiriedolaeth Wellcome.
Daeth JAMMIND â datblygwyr gemau fideo, ymchwilwyr a chlinigwyr iechyd meddwl, ac ymgyrchwyr iechyd meddwl at ei gilydd i greu amrywiaeth o gemau wedi’u hanelu at gyfleu iechyd meddwl yn gywir ac yn gadarnhaol.
Dros y penwythnos, cynhyrchodd ein tîm dair gêm.
Tynnu Llun
Yn y gêm Tynnu Llun, rydych yn chwarae rôl ffotograffydd byd-enwog sy’n olrhain rhywogaeth o garw Llychlyn y credir ei bod yn ddiflanedig. Drwy gydol y gêm byddwch yn dod ar draws madarch y bydd eich cymeriad yn teimlo rheidrwydd i dynnu lluniau ohonynt. Bydd tynnu llun ohonynt yn delio â’r angen i wneud hynny ac yn caniatáu i chi fwrw ymlaen.
Ar ddiwedd y gêm, gofynnir i chi chwilio drwy’r lluniau rydych wedi’u tynnu a chyflwyno llun o’r caribŵ Dawson, sef eich targed.
Developers: Steve Sparkes, Oliver Jackson, Soma Wheelhouse, Munzir Quraishy, Jonaid Iqbal
Lawrlwytho
Noder bod y rheolaethau a’r cyfarwyddiadau ar gyfer chwarae Tynnu Llun wedi’u cynnwys yn y ffeil readme.