Skip to main content

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)

Beth yw ADHD/Anhwylder Gorginetig?

Mae Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) neu Anhwylder Gorginetig yn gyflwr cymhleth ac mae diagnosis yn cael ei wneud yn ystod plentyndod yn bennaf, ond gall barhau mewn llencyndod a phan fydd rhywun yn oedolyn.

Anhwylder Gorginetig yw’r term swyddogol sy’n cael ei ddefnyddio gan weithwyr iechyd proffesiynol yn y DU, ond ADHD yw’r term swyddogol sy’n cael ei ddefnyddio yn Unol Daleithiau America, a hwn yw’r term y mae’r rhan fwyaf o bobl yn gyfarwydd ag ef. Yr ymddygiadau sy’n gysylltiedig â’r cyflwr yw gorfywiogrwydd, byrbwylltra a diffyg sylw.

Symptomau ADHD

Mae gorfywiogrwydd yn gallu cynnwys methu eistedd yn llonydd, neu anhawster i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn dawel. Weithiau, mae pobl ag ADHD yn gallu ymddangos fel pe baent ‘yn dal i fynd’ trwy’r amser, neu’n ymddwyn fel pe baent ‘yn cael eu gyrru gan fodur’.

Mae byrbwylltra yn gallu cynnwys torri ar draws neu ymyrryd, (e.e. torri ar draws sgyrsiau neu gemau); cael trafferth yn aros tro neu siarad gormod.

Mae symptomau sy’n gysylltiedig â diffyg sylw yn gallu cynnwys anhawster i roi sylw i fanylion (gan wneud camgymeriadau diofal), methu dal ati i ganolbwyntio ar dasg benodol neu gael problemau i ddilyn cyfarwyddiadau a threfnu gweithgareddau.

Er bod pob un o’r ymddygiadau hyn yn gallu cael eu gweld yn rhan o ymddygiad arferol, (mae pob un ohonom yn gallu bod yn ddiamynedd, yn or-frwdfrydig, yn rhoi’r gorau i ganolbwyntio neu’n ei chael yn anodd canolbwyntio), er mwyn i weithiwr iechyd proffesiynol wneud diagnosis o ADHD, rhaid i’r symptomau hyn fod yn ddifrifol ac achosi problemau i’r unigolyn gartref, yn yr ysgol/yn y gwaith ac yn ei fywyd cymdeithasol.

Mae symptomau ADHD yn dechrau mewn plentyndod, ond nid ydynt bob amser yn cael eu cydnabod a’u trin yn y cyfnod hwn. I rai, mae symptomau’n lleihau neu’n llai amlwg erbyn cyfnod llencyndod, ond i bobl eraill, mae symptomau a nam yn parhau nes byddant yn oedolion.

Mae ADHD yn anhwylder cymhleth a gall effeithio ar unigolion mewn ffyrdd gwahanol – er y bydd y rhan fwyaf o blant ag ADHD yn cael anawsterau mewn gorfywiogrwydd, byrbwylltra a diffyg sylw, efallai y bydd rhai plant yn cael problemau â sylw yn unig.

Mae’r anhwylder yn effeithio ar rai plant yn fwy difrifol na phlant eraill, a gall problemau eraill ddigwydd ochr yn ochr ag ADHD fel Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig (ASDs), problemau ymddygiad, gwingo ac anawsterau dysgu fel Dyslecsia.

Mae rhai pobl ag ADHD yn gallu cael problemau emosiynol hefyd fel Pryder neu Iselder.

Cael cymorth

Os yw rhieni’n dechrau pryderu am blentyn, bydd eu meddyg teulu’n gallu cynnig cyngor ac yn gallu cyfeirio’r plentyn at arbenigwr. Gallai ysgolion godi pryderon hefyd a gallent gyfeirio arbenigwr neu awgrymu y dylid ymweld â’r meddyg teulu.

Mae angen cynnal asesiad llawn a manwl i wneud diagnosis o ADHD. Caiff hyn ei wneud gan Baediatregydd Arbenigol neu Seiciatrydd Plant a’r Glasoed gan amlaf – yn anffodus, nid oes prawf cyflym na hawdd ar gyfer ADHD.

Mae asesiadau’n aml yn casglu gwybodaeth o nifer o ffynonellau gwahanol a gallent gynnwys arsylwadau ac adroddiadau am ymddygiad y plentyn gartref ac yn yr ysgol.

Triniaethau ar gyfer ADHD

Mae nifer o ddulliau gwahanol o helpu pobl ag ADHD, a gall y rhain fod yn effeithiol wrth reoli’r cyflwr. Mae canllawiau’r DU yn argymell y dylai’r driniaeth gyntaf ar gyfer achosion mwy cymedrol o ADHD ganolbwyntio ar ymddygiadau sy’n newid.

Gallai hyn gynnwys hyfforddiant sgiliau cymdeithasol, neu newidiadau bach yn yr ysgol, fel symud plant ag ADHD i du blaen y dosbarth i gael gwared ar ymyriadau a’u helpu i ganolbwyntio. Yn y cartref, gall rhieni fabwysiadu gwahanol ffyrdd o ddelio ag ymddygiadau sy’n gysylltiedig ag ADHD, fel cyflwyno siartiau gwobrwyo.

Gwelwyd bod meddyginiaeth yn lleddfu symptomau ADHD, gan alluogi plant i ganolbwyntio’n fwy effeithiol a lleihau gorfywiogrwydd. Mae meddyginiaethau cyffredin a ddefnyddir i drin y cyflwr yn cynnwys Ritalin, Equasym, Methylphenidate, Strattera, Concerta ac Atomoxetine.

Yn gyffredinol, mae’r meddyginiaethau hyn yn dechrau gweithio ar ôl pob dos, ac nid ydynt yn cael effaith hirbarhaus. Gallant fod yn effeithiol iawn, ond fel pob meddyginiaeth, mae sgil effeithiau yn bosibl.

Ni fydd angen triniaeth ar bob plentyn sydd ag ADHD, a bydd angen triniaeth addysgol neu seicolegol ar y rheiny sy’n cymryd meddyginiaeth.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am feddyginiaeth ar gyfer ADHD yn www.choiceandmedication.org/ncmh.

Resources

Gwahaniaethu rhwng y gwir a chelwydd

Mae’r Athro Anita Thapar yn trafod rhai chwedlau a chamddealltwriaethau sy’n gysylltiedig â’r cyflwr, gan ganolbwyntio ar yr hyn a ddysgwyd gan wyddoniaeth, a sut y gallai hynny fod o gymorth i arferion clinigol ac addysgol.

Yr Athro Anita Thapar yn ateb cwestiynau ar Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)

Mae gan Claire ferch sydd ag ADHD difrifol ac mae’n holi’r Athro Anita Thapar, un o’r prif ymchwilwyr yn NCMH ac athro clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd. Cynhyrchwyd y fideo fel rhan o’r gyfres Herio Caerdydd .

 

Gwefannau defnyddiol
Cofrestrwch nawr er mwyn gwneud gwahaniaeth
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd