Skip to main content

Help gyda’n ADHD mewn ymchwil merched ifanc

Cefndir

Mae merched a menywod ifanc yn llai tebygol o gael diagnosis o anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) na bechgyn a dynion ifanc, a phan fydd yna ddiagnosis, mae yna oedi yn aml cyn iddynt ei gael. Gall yr oedi hwn cyn cael diagnosis olygu bod merched a menywod ifanc yn colli allan ar gymorth cynnar ar gyfer eu diagnosis, a allai effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant. O’r herwydd, mae gennym ddiddordeb ym mhrofiadau ac ymgyflwyniad ADHD ymhlith merched a menywod ifanc.

Pam yr ydym yn cynnal yr ymchwil hon?

Rydym am nodi ymddygiadau sy’n gysylltiedig ag ADHD mewn pobl ifanc rhywedd-amrywiol er mwyn helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu offeryn asesu ADHD newydd a fydd yn gynhwysol o ran rhywedd ar gyfer plant ysgolion cynradd.

Pwy a all gymryd rhan?

  • Oedolion ifanc 18-25 oed sy’n uniaethu â bod yn fenyw, yn anneuaidd neu’n drawsryweddol, ac sydd â diagnosis o ADHD neu ADD (anhwylder diffyg sylw)
  • Rhieni/gofalwyr merched 5-18 oed sydd wedi cael diagnosis o ADHD neu ADD gan feddyg neu weithiwr iechyd proffesiynol arall
  • Gweithwyr addysg neu ofal iechyd proffesiynol sydd â phrofiad o weithio gyda phobl ifanc, yn enwedig merched, ag ADHD
  • Rhaid eich bod yn byw yng Nghymru neu’r DU ehangach

Beth y mae’n ei olygu?

Os ydych yn gymwys i gymryd rhan:

  • Bydd oedolion ifanc yn cymryd rhan mewn cyfweliad un-i-un a fydd yn para rhwng 30 a 60 munud
  • Bydd rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol yn cymryd rhan mewn grwpiau ffocws gyda rhieni/gofalwyr neu weithwyr proffesiynol eraill yn yr un maes gwaith (yn y drefn honno), a fydd yn para 90 munud
  • Bydd y cyfweliadau a’r grwpiau ffocws yn cynnwys cwestiynau a thrafodaeth am y modd y mae ADHD yn ymgyflwyno mewn merched, a phrofiadau bywyd o dyfu i fyny ag ADHD.

Gallwch gymryd rhan ar-lein (e.e. Zoom) neu wyneb yn wyneb (ym Mhrifysgol Caerdydd). Mae gan oedolion ifanc hefyd yr opsiwn i gymryd rhan dros y ffôn. Os byddwch yn cymryd rhan, byddwch yn cael taleb rhodd Love2Shop gwerth £25. Mae talebau ychwanegol ar gael i dalu am gostau teithio a gofal plant (os bydd hynny’n berthnasol).

Mae cymryd rhan yn wirfoddol: chi sydd i benderfynu a ydych am gofrestru.

Cymryd rhan

Lawrlwythwch a darllenwch y daflen wybodaeth berthnasol isod:

Diweddaru

Rydym bellach wedi cau recriwtio ar gyfer y prosiect hwn. Diolch i bawb sydd wedi cofrestru. Os nad oeddech yn gallu, dilynwch ni ar Twitter @ncmh_wales ac Instagram @thencmh i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein cyfleoedd ymchwil.

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd