Skip to main content

Diolch

Diolch am gymryd rhan yn ein hymchwil a bod yn rhan o#TeamNCMH.

Diolch am gymryd rhan yn yr ymchwil. Heb i bobl roi eu hamser yn hael i rannu eu profiadau, ni fyddem yn gallu gwneud y gwaith pwysig rydym yn ei wneud i wella dealltwriaeth o achosion cymhleth Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif.

Roedd y cwestiynau’n ymdrin â rhai pynciau emosiynol a deallwn y gallant weithiau godi atgofion neu deimladau anodd fel tristwch neu ddicter. Gall y wybodaeth isod fod o gymorth os ydych yn teimlo bod angen cymorth ychwanegol.

Os ydych chi’n poeni am sut rydych chi’n teimlo, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â’ch meddygfa. Byddant ar gael yn ystod oriau swyddfa a gyda’r nos ac ar benwythnosau drwy’r gwasanaeth y tu allan i oriau.

Mae’r sefydliadau canlynol yn cynnig gwasanaethau gwrando, cymorth emosiynol a gwybodaeth am ddim: 

Diolch unwaith eto am gymryd rhan yn yr ymchwil, mae eich cyfraniad yn amhrisiadwy.

Cadwch mewn cysylltiad

Byddem wrth ein bodd yn cadw mewn cysylltiad ac yn y pen draw yn adeiladu cymuned o unigolion ymgysylltiedig ledled Cymru a thu hwnt i chwifio’r faner ar gyfer ymchwil iechyd meddwl a’n helpu i herio stigma a chamddealltwriaeth.

Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chi ein helpu i wneud hyn, gan gynnwys:

Adnoddau NCMH

Mae gennym hefyd nifer o adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd