Skip to main content

Mynegwch eich hun: defnyddio drama i ddysgu plant am seicosis

Pan oeddwn yn yr ysgol, ychydig iawn o addysg a gafwyd am faterion iechyd meddwl.

Roedd hyn yn creu stigma o’u cwmpas, ac yn fwy tebygol, yn atal myfyrwyr a oedd yn arbennig o agored i niwed rhag cael y cymorth a’r gefnogaeth yr oedd eu hangen arnynt.

Roedd hyn yn arbennig o wir yn achos materion iechyd meddwl llai cyffredin fel seicosis a sgitsoffrenia.

Er bod y cyflyrau hyn yn aml yn dechrau yn hwyrach mewn bywyd, byddai cael gwybodaeth a dealltwriaeth ohonynt o oedran cynharach yn eu gwneud yn llai brawychus i unrhyw fyfyrwyr a fyddai’n eu datblygu neu’n adnabod unrhyw un a fyddai, ac yn eu galluogi i fod yn fwy cefnogol.

Rhaglan On the Edge

Roedd astudiaeth gan Roberts et al. (2007), a oedd yn gweithio gyda rhaglen addysg iechyd meddwl o’r enw On the Edge, yn edrych ar dechnegau a oedd yn seiliedig ar ddrama mewn ysgolion fel ffordd o ddysgu plant am seicosis.

Mae seicosis yn fath o salwch meddwl a nodweddir gan glywed pethau neu weld pethau nad ydynt yno mewn gwirionedd (rhithwelediadau) a/neu fod â chredoau cryf am rywbeth nad yw’n wir (gweld lledrithion).

Mae’r symptomau hyn hefyd i’w gweld mewn pobl â sgitsoffrenia.

Yn aml nid yw pobl â seicosis a sgitsoffrenia yn ceisio cymorth am hyd at ddwy flynedd o fyw gyda’r cyflwr, gan eu bod yn poeni am yr hyn y bydd pobl yn ei ddweud a’i feddwl oherwydd y stigma sy’n gysylltiedig â’r cyflwr hwn.

Mae diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth ymhlith llawer o bobl hefyd wedi’i gysylltu â phobl yn cael cymorth yn hwyrach oherwydd nad ydyn nhw’n gwybod beth yw ystyr eu symptomau.

Mae hon yn broblem, gan fod astudiaeth gan McGlashan (1999) wedi canfod bod triniaeth gynharach yn lleihau symptomau seicotig llai ynghyd â gwella prognosis tymor hir, h.y. mae’r pwl seicotig yn llai tebygol o bara mor hir a bydd yn llai difrifol, felly mae’n bwysig iawn cael triniaeth yn gynharach yn hytrach nag yn hwyrach.

Beth oedd nod On the Edge yn ei wneud?

Roedd tri nod allweddol y rhaglen On the Edge.

Y rhain oedd:

  • Cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o seicosis (yn enwedig y pwl cyntaf [FEP]).
  • Lleihau agweddau negyddol tuag at bobl sy’n dioddef o seicosis a sgitsoffrenia a gwahaniaethu yn eu herbyn.
  • Helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o sut i gael cefnogaeth.

Yr agwedd gyntaf oedd rhoi blwch o eitemau yn seiliedig ar gymeriad i’r myfyrwyr er mwyn ennyn chwilfrydedd a thrafodaeth ar y pwnc.

Yna defnyddiwyd yr eitemau yn y blwch fel propiau yn y ddrama.

Wythnos yn ddiweddarach gwyliodd y myfyrwyr ddrama am yr un cymeriad sy’n datblygu seicosis ac mae’n gorffen gydag argyfwng ac yn gadael y myfyrwyr yn pendroni a fydd pethau’n gwella neu’n gwaethygu.

young asian boy smiling while sat at the front of a class

Yna cafodd y myfyrwyr gyfle i holi’r actorion yn eu cymeriadau a’u bywydau bob dydd, ac fe’u hanogwyd i ddechrau trafodaethau am y mater, gan ganolbwyntio’n benodol ar y syniad o gefnogaeth a sut y gall y cymeriad gael cymorth.

Rhoddwyd holiaduron i’r myfyrwyr ychydig wythnosau’n ddiweddarach gyda chwestiynau am seicosis a chamsyniadau cyffredin.

Yn gyffredinol, dangosodd y myfyrwyr wybodaeth dda o’r cyflwr iechyd meddwl.

O’r cyfweliadau hefyd, dangoswyd bod myfyrwyr o’r farn bod y rhaglen yn syniad da oherwydd eu bod yn teimlo eu bod wedi datblygu gwybodaeth ac wedi dysgu, os ydyn nhw byth yn wynebu’r broblem hon, mae gobaith o wella.

Er enghraifft, pan wnaethant ofyn i bobl cyn y rhaglen i ddechrau a oeddent yn credu bod pobl â seicosis a sgitsoffrenia yn beryglus, yn anrhagweladwy ac yn anodd siarad â nhw, dywedodd mwy o bobl ‘ie’ nag a wnaethant wythnos ar ôl y rhaglen.

Gallwn hefyd weld bod gan fyfyrwyr agwedd llawer mwy cadarnhaol a gobeithiol tuag at wella, gyda 31.1% yn fwy o bobl yn credu y bydd rhywun â seicosis yn gwella’n llawn wythnos ar ôl y rhaglen nag wrth fesur am y tro cyntaf.

Peth cadarnhaol arall o’r rhaglen hon yw ei bod yn gadael myfyrwyr yn teimlo’n fwy hyderus ynglŷn â chael cymorth a gwybod ble i’w dderbyn os ydyn nhw’n profi problem iechyd meddwl.

Beth mae’n ei ddweud wrthym?

At ei gilydd, mae’r astudiaeth hon yn dangos pwysigrwydd addysg iechyd meddwl mewn ysgolion, yn enwedig mewn oedrannau cyn i lawer o anhwylderau iechyd meddwl.

Ddatblygu fel bod plant yn barod ac yn poeni llai am unrhyw faterion y gallant hwy eu hunain eu hwynebu neu unrhyw ffrindiau neu deulu eu hwynebu yn y dyfodol.

 

Cyfeirnodau

Francesca Carmichael

Mae Francesca yn fyfyriwr seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd, ac yn cwblhau blwyddyn ar leoliad proffesiynol yng Nghanolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Genomeg a Geneteg Niwroseiciatrig. Mae hi'n gynorthwy-ydd ymchwil ar gyfer prosiect sy'n edrych ar blant sydd â risg uchel o ddatblygu anhwylderau seiciatryddol.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd