Skip to main content

Cydnabod ymchwilydd â dyfodol disglair ym maes ymchwil Cymru mewn cynhadledd flynyddol

Mae Dr Samuel Chawner wedi ennill Gwobr Seren Newydd Ymchwil yng Ngwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2024.

Mae’r gwobrau yn cydnabod cymuned ymchwil arloesol ac ysbrydoledig Cymru mewn pedwar categori – Cynnwys y Cyhoedd, Effaith Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Seren Ymchwil Newydd ac Arloesedd Ymarferol, gyda phumed wobr yn cael ei rhoi am yr arddangosfa fwyaf deniadol yn y gynhadledd.

Derbyniodd Dr Samuel Chawner, Uwch-gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig ym Mhrifysgol Caerdydd, wobr Seren Newydd Ymchwil. Mae’r wobr hon ar gyfer ymchwilwyr sydd megis dechrau eu gyrfa ymchwil iechyd neu ofal cymdeithasol, sy’n gwneud cyfraniad sylweddol at eu maes, ac sy’n arweinydd i’r dyfodol.

Rhoddodd y panel ganmoliaeth i raglen ymchwil arloesol ac effeithiol Dr Chawner, sydd wedi’i hariannu gan wobr arobryn, Gwobr Datblygu Gyrfa Ymddiriedolaeth Wellcome. Gwnaeth y panel gydnabod ymrwymiad go iawn i amrywiaeth a chynhwysiant a chefnogaeth i’r gymuned ymchwil ehangach, a fydd yn ysbrydoliaeth i’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr yng Nghymru.

Dywedodd Dr Chawner: “Ro’n i wedi fy synnu, ac mae ennill y wobr hon wir yn fraint. Rydw i wir yn gobeithio y bydd yn codi ymwybyddiaeth o Anhwylder Cymeriant Bwyd Osgoi/Cyfyngol (ARFID) a datblygu’r ymchwil hon. Mae llawer iawn o bobl yn byw gydag ARFID. Dw i wedi clywed gan eu teuluoedd a’r clinigwyr am yr heriau maen nhw’n eu hwynebu, a’r angen am ymchwil i wella gofal a chymorth.”

Panel o feirniaid o bob rhan o’r sector oedd yn dewis yr enillwyr ym mhob categori, sydd i gyd wedi derbyn cyllid o hyd at £250 i fynd ar gwrs hyfforddi, cynhadledd, gweithdy neu ddigwyddiad tebyg i ddatblygu maes o’u sgiliau ymchwil.

Fe’u cyflwynwyd yng nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ddydd Iau 10 Hydref, gan yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a ddywedodd:

“Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod yr unigolion mwyaf addawol yn ein cymuned ymchwil, ac yn gyfle i arddangos y gwaith sy’n gwneud gwahaniaeth mawr i gymunedau Cymru.

“Roedd y cyflwyniadau o safon uchel iawn ac fel bob amser, roedd hi’n dalcen caled i’r beirniaid ddewis yr enillwyr.

“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cael eu cydnabod gyda’r gwobrau hyn, boed yn enillwyr neu’n yr ail safle, ac i’r rhai a gafodd ganmoliaeth uchel am eu cyflwyniadau.”

Dywedodd Dr Chawner, sydd yn ddiweddar wedi’i restru gan Brifysgol Caergrawnt ar ei rhestr cyn-fyfyrwyr Q100 sy’n torri tir newydd ym maes LHDT+: “Rwy’n ddiolchgar am y wobr hon ac yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda chydweithwyr ar draws Y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl i ateb cwestiynau sylfaenol am natur ac achosion ARFID.

“Drwy weithio gydag unigolion sy’n byw gydag ARFID, clinigwyr, Beat a rhwydwaith rhyngwladol o ymchwilwyr, gan gynnwys cydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, rydyn ni’n ceisio dysgu cymaint ag sy’n bosibl am yr anhwylder, ac yn y pen draw, darparu gwell gwybodaeth a chymorth clinigol i’r rhai yr effeithir arnynt.”

Take part in our ARFID research

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda Dr Samuel Chawner ar ei ymchwil i Anhwylder Cymeriant Bwyd Osgoi/Cyfyngol (ARFID). Cofrestrwch eich diddordeb heddiw a’n helpu i wneud gwahaniaeth.

Becs Parker

Becs yw Uwch Swyddog Cyfathrebu y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd