Posted March 15th 2022
Dyma ganfyddiad allweddol o arolwg newydd gan Beat, elusen anhwylder bwyta y DU, a gynhaliwyd ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta (EDAW).
Fe holwyd bron i 1,700 o bobl sy’n dioddef neu wedi dioddef o anhwylder bwyta ledled y DU gan holi am eu profiadau gyda gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd.
Gwelwyd bod 92% o’r rhai wnaeth ymateb i’r arolwg yn teimlo y gallai eu meddygon teulu elwa o fwy o hyfforddiant ym maes anhwylder bwyta. Teimlai 67% fod y cyfleoedd i adnabod ac ymyrryd â’u hanhwylder bwyta wedi eu methu.
Tra gwyddwn fod meddygon teulu a staff gofal iechyd yn gweithio’n eithriadol o galed i gefnogi’r 60,000 o bobol yng Nghymru sydd ag anhwylderau bwyta, ni allant wneud hynny heb hyfforddiant o ansawdd.
Ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta eleni, mae Beat yn galw ar bob ysgol feddygol i gynnal hyfforddiant cynhwysfawr ar anhwylderau bwyta fel bod pob meddyg, gan gynnwys meddygon teulu, yn gallu adnabod anhwylderau bwyta a chyfeirio cleifion at gymorth arbenigol heb oedi.
Pam fod yr ymgyrch yma’n bwysig?
Doedd dim rheidrwydd i ddarparu hyfforddiant ar anhwylder bwyta i fyfyrwyr meddygol yn y DU ar hyn o bryd, gyda’r myfyriwr cyffredin yn derbyn llai na dwy awr yn ystod eu cwrs gradd cyfan.
Nid yw un o bob pump o ysgolion meddygol yn darparu unrhyw fath o hyfforddiant o gwbl.
Mae’r rhai gafodd brofiad cadarnhaol gyda’u meddygon teulu yn trafod pa mor bwysig oedd hyn wrth iddynt wella o’r anhwylder bwyta.
Rydym yn gwybod bod cael mynediad i wasanaeth arbenigol cyn gynted ag y bo modd yn rhoi’r cyfle gorau i wella’n llwyr, ac mae o mor bwysig bod pobl yn teimlo’n gyfforddus wrth siarad am eu salwch hefo gweithiwr proffesiynol gofal iechyd.
Mae galw cynyddol amdano
Mae galw brys am hyfforddiant ysgol feddygol o ansawdd erbyn hyn.
Rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021, darparwyd dros 220% yn fwy o sesiynau cymorth yn Beat i bobl wedi eu heffeithio gan anhwylderau bwyta yng Nghymru, o’i gymharu â chyn y pandemig.
Fe wyddwn ni, o’r bobl yr ydym yn eu cefnogi, fod nifer wedi profi gorbryder cynyddol a theimlo’n ynysig yn ystod Covid-19, ac yn anffodus, mae’r galw am gymorth gydag anhwylder bwyta yn parhau i godi yn genedlaethol.
Trawsnewid triniaeth
I roi cymorth i bob person yng Nghymru sydd ag anhwylder bwyta, mae’n hanfodol fod gan bob meddyg yr offer sydd eu hangen arnynt i ddeall y cyflyrau salwch meddwl difrifol hyn a gallu cyfeirio cleifion at driniaeth.
Ond mae’n hanfodol fod y Llywodraeth a’r GIG yn parhau i wneud gwelliannu i wasanaethau anhwylderau bwyta hefyd fel bod cymorth o ansawdd ar gael i bawb.
Yn gynharach eleni, fe gyhoeddodd fy nghydweithwyr a minnau yn Beat adroddiad yn ymchwilio i’r cynnydd a wnaed ers Arolwg Gwasanaeth Anhwylder Bwyta yng Nghymru ers 2018.
Gwelwyd, er fod peth cynnydd wedi digwydd, fod ansawdd ac argaeledd y gwasanaethau yn parhau i fod yn loteri cod post.
I fod o gymorth i sicrhau bod gwasanaethau anhwylder bwyta yn cael eu trawsnewid yn genedlaethol, mae Beat wedi creu pump o argymhellion allweddol i Lywodraeth Cymru a’r GIG.
Roedd yn galonogol gweld Trafodaeth Plaid Cymru ar anhwylderau bwyta ar 2il Mawrth 2022 yn galw ar gael gwared â’r amrywiaeth mewn gwasanaethau ar draws Cymru gan amlygu pwysigrwydd y newidiadau mae Beat yn galw amdanynt.
Rydym yn edrych ymlaen at gael parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a gwneuthurwyr polisïau, er mwyn sicrhau bod pobl sydd ag anhwylderau bwyta yn gallu cael mynediad i’r gwasanaethau y maent eu hangen.
Ynghylch Beat
Os ydych yn poeni am eich iechyd eich hun neu iechyd rhywun arall, mae llinell gymorth Gymraeg Beat ar agor 365 diwrnod y flwyddyn ar 0808 801 0433, o 9am hyd at hanner nos ar ddyddiau’r wythnos a 4pm hyd at hanner nos ar benwythnosau/gwyliau banc neu drwy waleshelp@beateatingdisorders.org.uk
Adnoddau
- Taflen NCMH | Eating disorders
- Beat | Downloads and Resources
Darllen rhagor
- Beat | Eating Disorder Awareness Week campaign
- Beat | Beat’s 3 Years On report
- Blog Beat | My only regret about treatment is that I didn’t access it sooner
- Blog NCMH | Gwasanaethau anhwylder bwyta yng Nghymru’n parhau i fod yn loteri côd postWelsh eating disorder services still a postcode lottery, new Beat report finds
- Blog NCMH | Battling Anorexia