Pennod 7: Awtistiaeth
Mae awtistiaeth yn anabledd datblygiadol gydol oes sy’n effeithio ar sut mae pobl yn gweld y byd ac yn rhyngweithio ag eraill. Mae tua 700,000 o bobl awtistig yn y DU, ac er bod diagnosis ohono fel arfer yn digwydd yn ystod plentyndod, nid yw rhai pobl awtistig yn cael cydnabyddiaeth o’r cyflwr hyd nes ymlaen mewn bywyd.
Yn y bennod hon, mae Kat Williams yn ymuno â ni. Cafodd Kat ddiagnosis o awtistiaeth pan oedd hi’n 32 oed. Yn y bennod hon mae hi’n rhannu ei phrofiad o dyfu i fyny heb ddiagnosis a magu plentyn awtistig, ac yn trafod effaith labeli fel ‘awtistiaeth gweithredu lefel uchel’.
Yn ymuno â hi mae’r Athro Jeremy Hall, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd. Mae’n trafod yr ymchwil ddiweddaraf yn ymwneud ag awtistiaeth, a pham mae pobl awtistig yn fwy tebygol o gael problemau iechyd meddwl fel iselder a gorbryder.
Papurau ymchwil y cyfeirir atynt yn ystod y bennod hon
- Autism spectrum disorder diagnosis in adults: phenotype and genotype findings from a clinically derived cohort, cyfeirir ato fel astudiaeth o dan arweiniad Dr Jack Underwood.