Animeiddiad
Gadewch i ni siarad am ADHD
Cydweithiodd NCMH â Chanolfan MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatreg i greu adnodd newydd ar gyfer plant sydd newydd gael eu diagnosio ag Anhwylder Gorfywiogrwydd Diffyg Sylw (ADHD).
Gweithiodd tîm ymchwil ADHD ym Mhrifysgol Caerdydd gyda phlant sydd â’r cyflwr, a’u teuluoedd a’u gofalwyr, i greu’r animeiddiad sy’n trafod sut beth yw cael ADHD. Darllenwch fwy am yr animeiddiad.