Skip to main content

Gwerthfawr yn y Gwaith

Ar ddydd Llun 3ydd Rhagfyr, marciwyd Diwrnod Cenedlaethol ar gyfer Pobl Anabl gyda gweithdy Gwerthfawr yn y Gwaith wedi’i gynnal gan Ysgol Busnes Caerdydd.

Wedi’i dylunio gan Sefydliad Cyflogaeth y De-Orllewin (SWEI), daeth y digwyddiad dysgu gweithredol â cyflogwyr a gweithwyr proffesiynol cyflogaeth â chymorth ELITE gyda’i gilydd er mwyn cefnogi cyflogwyr i grefftio gwell perthnasau gweithio gyda’r rhai sy’n medru helpu nhw i recriwtio a cyflogi pobl gydag anableddau dysgu.

Cadeiriwyd y digwyddiad gan Dr Stephen Beyer o Ganolfan Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl yn Prifysgol Caerdydd, arweiniwyd gan Carmel McKeogh, a wedi’i darparu gan SWEI.

Croesawyd cynrychiolwyr gan Pennaeth Ysgol Busnes Caerdydd, Rachel Ashworth, a danlinellodd ymrwymiad yr Ysgol tuag at hybu Gwerth Cyhoeddus trwy ei gwaith, a’i ymrwymiad tuag at dwysau ymgysylltiad gyda cyflogwyr o gwmpas cyflogaeth pobl gydag anableddau dysgu ac awtistiaeth.

Roedd y diwrnod yn hynod o rhyngweithiol, yn rhoi mynychwyr y cyfle i gryfhau ac adeiladu perthnasau, rhannu dysgu, a siarad trwy materion ac atebion yn ystod sesiynau trafod. Mae Dewi yn rheolwr siop Co-op yng Nghaerdydd. Dywedodd Dewi,

Mae hi’n ddiwrnod ardderchog. Mae’n neis iawn i rhwydweithio a cyfarfod â phobl o chefndiroedd gwahanol gyda barn gwahanol ar sut rydym ni’n recriwtio, yn gweld, ac yn portreadu pobl gydag anableddau dysgu, a sut mae angen i ni newid ein meddyliau i gael nhw mewn i gyflogaeth.

Ymunwyd Dewi ar y diwrnod gan ei cydweithiwr Carol, Hwylusydd Dysgu o Co-op Bwyd, ac mae’r ddau ohonynt yn edrych ymlaen at gweithio’n agos gyda partner prosiect Engage to Change, ELITE. Fe fydd ELITE yn mynychu cyfarfodydd ardal Rheolwyr Siopa’s Co-op ac mae Carol yn gobeithio i ehangu y partneriaeth i Gaerdydd ar draws De a Dwyrain Cymru.

“Rwy’n meddwl mae amdan meddwl y tu allan i’r bocs, meddwl am sut allen ni wneud pethau’n gwahanol a sut rydyn ni’n herio ein hunain. Felly mae hi yn gwneud i chi feddwl,” meddai Nicki Flower, Rheolwr Dysgu a Datblygu o Cyngor Pen-y-Bont. Mae hi nawr yn meddwl am atebion ymarferol ar gyfer rhai o ardaloedd y Cyngor sy’n anodd i recriwtio, yn cynnwys sut gall ymarferion recriwtio newid, ble mae swyddi yn cael ei hysbysebu, a sut orau i gysylltu gyda ymadawyr coleg ac ymadawyr o ysgolion addysg arbennig.

Ar hyn o bryd mae cyflogaeth pobl gydag anableddau dysgu yn y sectorau preifat a cyhoeddus yn is na grwpiau anfanteisiol eraill. Mae Gwerthfawr yn y Gwaith yn cynnig yr offer ac yn hwyluso’r cysylltiadau i galluogi cyflogwyr i manteisio ar gronfa talent newydd, ym ogystal â cael mynediad i’r cefongaeth angenrheidiol i gyflogi staff bydd yn ychwanegu gwerth unigryw i’w gweithlu.

Clywodd mynychwyr o Sam a’i rheolwr Zsuzsana, a wnaeth cyfuno i darparu stori ysbrydol ynglŷn â taith Sam i gyflogaeth o bersbectif cyflogai a cyflogwr. Mae Sam wedi bod yn gweithio fel cynorthwyydd cymorth dysgu am dros flwyddyn yn Ysgol Craig-y-Parc, ysgol addysg arbenning i’r Gogledd o Gaerdydd.

Derbyniodd Sam gymorth o Engage to Change i ddechrau, ac fe wnaeth ei stori darlunio’n berffaith y buddion y gall cyflogwyr ennill trwy gwneud addasiadau rhesymol i recriwtio a cyflogi pobl gydag anableddau. Ond un o nodweddion Sam yn y rôl yw bod disgyblion yn gallu ymwneud ag ef, a’i gweld fel ysbrydoliaeth ar gyfer yr hyn gellir ei gyflawni yn eu bywyd gwaith.

Mae manteision go iawn ar gyfer cyflogwyr sydd yn cyflogi pobl gydag anableddau dysgu ac/neu awtistiaeth.

Mae tystiolaeth yn dangos eu bod nhw’n gallu perfformio rolau systematig ond cymhleth i safon uchel, yn fuan mewn swyddi trosiant uchel sy’n anodd eu llenwi.

Mae cywiro’r anghydbwysedd a achosir gan eu tangynrychiolaeth yn y gweithlu yn cyflwyno mantesion arall trwy gwell adlewyrchu sylfaen cleientiaid busnesau.

Cafwyd Gwerthfawr yn y Gwaith ei strwythuro o gwmpas ymarfer gorau yn y prosesau recriwtio craidd o denu, dewis a cyflogi pobl gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth, a rhoi gwybodaeth ynglŷn â’r prosesau a canlyniadau o cyflogi pobl yn llwyddiannus. Daeth y mynychwyr i ffwrdd o’r dydd gyda safbwyntiau newydd, cysylltiadau cryfach gyda partneriaid potensial, ac ymrwymiad newydd at gwella bywydau pobl gydag anableddau dysgu ac/neu awtistiaeth trwy ymarferion cyflogaeth cynhwysol a hygyrch.

 

Catrin Hopkins

Catrin yw'r Swyddog Cyfathrebu ar gyfer yr NCMH a Canolfan CYF Prifysgol Caerdydd.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd