Skip to main content

Grŵp Ymchwil Straen Trawmatig

Mae’r Grŵp Ymchwil Straen Trawmatig yn dîm rhyngddisgyblaethol gyda chenhadaeth i wella iechyd a lles unigolion sy’n agored i ddigwyddiadau trawmatig.

Ein nodau

Ein nod yw:

  • Gwella dealltwriaeth o straen trawmatig drwy gynnal ymchwil o ansawdd uchel a ariennir yn allanol.
  • Datblygu ymyriadau effeithiol a chost-effeithiol ar gyfer atal a thrin anawsterau seicogymdeithasol ar ôl dod i gysylltiad â digwyddiadau trawmatig, gan ganolbwyntio’n benodol ar anhwylder straen wedi trawma (PTSD) a PTSD cymhleth (CPTSD).
  • Datblygu cydweithrediadau byd-eang rhyngddisgyblaethol cryf i hwyluso ymchwil ym maes straen trawmatig.
  • Datblygu gallu ymchwil ym maes straen trawmatig.
  • Lledaenu a chyfnewid gwybodaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd cael gafael ar driniaeth briodol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer PTSD.

Un o nodau allweddol y Grŵp Ymchwil Straen Trawmatig yw datblygu a gwerthuso therapïau PTSD sy’n gwneud triniaeth yn fwy hygyrch. Rydym hefyd am ddod o hyd i ffyrdd o helpu pobl nad ydynt wedi elwa ar ymyriadau PTSD safonol.

Dr Neil Roberts, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol

Mae digwyddiadau trawmatig yn digwydd yn gyffredin a gallant achosi amrywiaeth o anawsterau seicogymdeithasol, gan gynnwys anhwylderau seiciatrig fel anhwylder straen wedi trawma (PTSD).

Gall PTSD fod yn anhwylder difrifol a gwanychol a all ddigwydd mewn pobl o unrhyw oedran sydd wedi bod yn agored i un neu fwy o ddigwyddiadau eithriadol o fygythiol neu ddychrynllyd.

Fe’i nodweddir gan ail-brofi, osgoi atgoffa o’r hyn a ddigwyddodd, newidiadau negyddol mewn meddyliau a hwyliau, a symptomau hyper-arol.

Mae PTSD yn achosi cryn ofid i’r dioddefwr a’r rhai o’u cwmpas ac yn digwydd yn gyffredin ynghyd â chyflyrau eraill fel iselder, gorbryder a chamddefnyddio sylweddau.

Resources

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd