Skip to main content

Grŵp Ymchwil Straen Trawmatig

Mae’r Grŵp Ymchwil Straen Trawmatig yn dîm rhyngddisgyblaethol sydd wedi ymroi i wella iechyd a lles pobl y mae digwyddiadau trawmatig wedi effeithio arnynt.

 

Ein cenhadaeth

Ein nod:

  • Hyrwyddo dealltwriaeth o straen trawmatig trwy waith ymchwil o ansawdd uchel, a ariennir yn allanol.
  • Datblygu ymyriadau cost-effeithiol i atal a thrin anawsterau seicogymdeithasol yn dilyn trawma, yn enwedig anhwylder straen wedi trawma (PTSD) a PTSD cymhleth (CPTSD) .
  • Meithrin partneriaethau byd-eang cryf sy’n hyrwyddo gwaith ymchwil rhyngddisgyblaethol ym maes straen trawmatig.
  • Datblygu gallu ymchwil yn y maes.
  • Rhannu a chyfnewid gwybodaeth i sicrhau bod canfyddiadau ymchwil yn hygyrch ac yn seiliedig ar dystiolaeth.

Rydym wedi ymrwymo i gyd-gynhyrchu, gan gynnwys pobl sydd â phrofiad byw o drawma ym mhob cam o’n gwaith. Mae cydweithio wrth wraidd yr hyn a wnawn – gan ein helpu i ddod o hyd i atebion arloesol, go iawn.

Deall anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD)

Gall digwyddiadau trawmatig ddigwydd i unrhyw un. Gall y profiadau hyn arwain at ystod o anawsterau emosiynol a seicolegol, gan gynnwys PTSD.

Mae PTSD yn gyflwr difrifol ac yn aml yn llethol a all ddatblygu ar ôl un neu fwy o brofiadau hynod fygythiol neu ofidus. Gall effeithio ar bobl o unrhyw oedran neu gefndir.

Dyma rai o’r symptomau cyffredinol:

  • Ail-brofi’r digwyddiad trawmatig trwy ôl-fflachiadau, hunllefau neu feddyliau ymwthiol.
  • Osgoi atgofion sy’n gysylltiedig â’r trawma.
  • Newidiadau negyddol mewn meddyliau, emosiynau, neu gredoau amdanoch chi’ch hun neu’r byd.
  • Bywiogrwydd cynyddol (gorgyffro) – teimlo ar bigau’r drain, yn bigog neu’n hawdd eich dychryn.

Gall PTSD achosi gofid sylweddol i unigolion a’r rhai o’u cwmpas, ac yn aml mae’n digwydd ar yr un pryd â chyflyrau eraill fel iselder, gorbryder neu gamddefnyddio sylweddau.

 

Gwella mynediad at driniaeth PTSD

“Un o nodau allweddol y Grŵp Ymchwil Straen Trawmatig yw datblygu a gwerthuso therapïau PTSD sy’n gwneud triniaeth yn fwy hygyrch. Rydym hefyd eisiau dod o hyd i ffyrdd o helpu pobl nad ydynt wedi elwa o ymyriadau PTSD safonol.” – Yr Athro Neil Roberts, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol

Mae llawer o bobl yn cael trafferth o hyd o ran cael mynediad at driniaethau PTSD effeithiol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae ein tîm yn gweithio i newid hynny drwy ddatblygu a phrofi dulliau therapiwtig newydd sydd ar gael ac yn effeithiol.

 

Ein gwaith ymchwil

Rydym yn arbenigo mewn datblygu a gwerthuso therapïau digidol dan arweiniad – triniaethau arloesol sy’n cyfuno:

  • Deunyddiau digidol rhyngweithiol, sydd ar gael trwy apiau a gwefannau
  • Cefnogaeth therapydd strwythuredig i arwain defnyddwyr trwy eu hadferiad.

Nod y dulliau digidol hyn yw cyflawni’r un effeithiolrwydd â therapi traddodiadol sy’n canolbwyntio ar drawma, gan wneud gofal yn fwy hygyrch, cynhwysol ac yn haws ei hehangu.

 

Archwiliwch ein rhaglenni Spring PTSD

  • Spring PTSD – Ar gyfer PTSD sy’n gysylltiedig yn bennaf ag un digwyddiad trawmatig.
  • Spring M-PTSD – Ar gyfer cyn-filwyr milwrol sy’n profi PTSD, gan gynnwys symptomau PTSD cymhleth.
  • Spring PGD – Ar gyfer anhwylder galar hir, gan helpu unigolion i brosesu profedigaeth a cholled.
  • Spring CPTSD – Ar gyfer PTSD cymhleth.
  • Spring YP – Ar gyfer pobl ifanc sy’n profi PTSD. Byddwn yn darparu mwy o wybodaeth am Spring YP yn fuan.

 

Rhagor o wybodaeth am ein tîm

Mae ein sgiliau cyflenwol a’n meysydd arbenigedd yn ein helpu i ymdrin â’n gwaith ymchwil mewn modd cytbwys a chyfannol er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a gwella iechyd a lles pobl sydd wedi profi digwyddiadau trawmatig.

Ceir rhagor o wybodaeth amdanom isod

 

 

 

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd