Diben yr ymchwil
Diben yr ymchwil hon yw ymchwilio i ba mor gymhleth yw’r berthynas rhwng cwsg a hwyliau a sut mae’n effeithio ar ein hiechyd meddwl. Mae insomnia yn gyffredin ymhlith pobl sy’n cael problemau megis gorbryder, iselder ac anhwylder deubegynol, ac mae gwaith ymchwil wedi dangos bod pobl sy’n cael trafferth cysgu yn barhaus yn fwy tebygol o ddatblygu problemau megis iselder.
Pwy all gymryd rhan?
I ddechrau, rydym yn chwilio am unigolion ag anhwylder deubegynol yn unig. Fodd bynnag, anogir unigolion nad oes ganddynt anhwylder deubegynol i wneud cais yn nes ymlaen.
Beth mae’n ei olygu
- Galwad ffôn gan aelod o’n tîm ymchwil. Byddwn yn trafod manylion yr astudiaeth a byddwch yn gallu gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.
- Gofynnir i chi lofnodi ffurflen gydsynio sy’n nodi eich bod yn dymuno cymryd rhan. Wedyn, bydd yr ymchwilydd yn gofyn rhai cwestiynau i chi am eich cwsg a’ch iechyd meddwl. Bydd y cyfweliad hwn yn cymryd rhwng hanner awr ac awr. Mae’n bosibl y byddwch hefyd yn cael rhai holiaduron i’w cwblhau.
- Gofynnir i chi fonitro eich cwsg am hyd at 60 diwrnod. Bydd hyn yn cynnwys gwisgo oriawr sy’n mesur symudiad a llenwi dyddiadur cwsg gan fonitro sut rydych yn teimlo bob dydd.
- Ar ôl i’r cyfnod monitro cwsg a hwyliau ddod i ben, bydd yr ymchwilydd yn cynnal cyfweliad dilynol gyda chi. Bydd hyn yn cymryd tua 20-30 munud.
Bydd gennych hawl i dynnu’n ôl ar unrhyw adeg. Bydd y data a gesglir yn ystod y cyfnod monitro yn cael eu defnyddio i lunio siart. Ar ôl i chi ddychwelyd yr oriawr, bydd modd i ni anfon copi o’ch patrymau cwsg atoch os byddwch yn gofyn i ni wneud hynny.
Sut i gymryd rhan
Os ydych wedi cael diagnosis o anhwylder deubegynol ac rydych yn dymuno cymryd rhan, cysylltwch â thîm yr astudiaeth.
Y Prif Ymchwilydd
Yr Athro Ian Jones, Cyfarwyddwr NCMH.