Skip to main content

Hyrwyddwyr Ymchwil NCMH: Sarah

Mae Sarah o Ogledd Cymru wrth ei bodd â cherddoriaeth ac anifeiliaid ac mae ganddi hanes teulu diddorol. Mae hefyd yn un o Hyrwyddwyr Ymchwil NCMH, gan helpu i ledaenu’r neges am ymchwil iechyd meddwl. Dyma ei stori:

Sarah ydw i. Rwy’n 37 oed ac rwy’n byw yng Ngogledd Cymru. Cefais fy ngeni yn Norfolk, ond byddem yn symud o gwmpas yn aml am fod fy nhad yn yr RAF.

Un ffaith ddiddorol am fy nheulu yw bod Arglwydd wedi rhoi ein cyfenw’n rhodd i fy hen, hen, hen (ddim yn siŵr pa mor hen yn union!) daid, a gafodd ei eni yng nghastell Caeredin!

Rwyf wrth fy modd â cherddoriaeth, ac mae fy iPod yn cynnwys cerddoriaeth at bob agwedd meddwl, ond fy hoffter mawr yw fy nghŵn a’m cathod. Mae gen i ddau gi Alsás gwyn a thair cath. Yn ogystal â’m dau aderyn cariad, maent yn fy nghadw’n brysur ac, yn ffodus, maent yn cyd-dynnu’n dda â’i gilydd hefyd! Anifeiliaid achub yw rhai ohonynt ac rwyf wedi maethu ar ran yr RSPCA yn y gorffennol.

Yn anffodus, mae fy salwch meddwl yn ddigon difrifol i’m hatal rhag gweithio ar hyn o bryd, ond byddwn wrth fy modd yn gallu gwneud hynny rhyw ddiwrnod.

Dechreuodd fy mhroblemau iechyd meddwl yn 1994 ar ôl marwolaeth fy nain. Cefais ddiagnosis o anhwylder personoliaeth ffiniol, ac yna yn 2003 chwalodd fy nerfau. Cefais rai symptomau seicotig, a roddodd fraw mawr i mi.

Ar ôl hynny ceisiais newid fy mywyd er gwell a gweithiais yn galed ar aros yn iach. Wedyn, yn 2007, collais fy mab newydd-anedig, ac arweiniodd hyn at ragor o dderbyniadau i’r ysbyty mewn argyfwng.

Ers hynny rwyf wedi llwyddo i frwydro yn erbyn fy salwch a gwneud llawer o gynnydd. Yn ddiweddar, pasiais fy mhrawf gyrru, ac rwy’n falch iawn o hynny.

Un tro pan gefais fy nerbyn i’r ysbyty, codais daflen am NCMH a’i hymchwil. Roeddwn wir am gymryd rhan – gwyddwn na fyddai’n gallu fy helpu i yn y fan a’r lle, ond pe bai’n gallu helpu pobl eraill yn y dyfodol yna byddwn yn awyddus i wneud hynny.

Roedd y profiad cyfan yn anffurfiol iawn ac roedd y bobl i gyd yn hyfryd. Wedyn, roeddwn yn teimlo fel petawn i wedi gwneud cyfraniad pwysig dros ben.

Daeth yr ymchwilydd i’m gweld a gofynnodd rai cwestiynau i mi – nid oedd unrhyw bwysau arnaf ac nid oedd unrhyw atebion cywir nac anghywir. Gwnes i fwynhau’r holl broses, a dweud y gwir. Gwnes i roi ychydig o waed hefyd, ond nid yw hynny’n rhywbeth sy’n fy mhoeni. Roedd y cyfwelwyr yn dda am dawelu fy meddwl ac yn esbonio popeth mewn ffordd roeddwn yn ei deall.

Rwy’n hoff o feddwl fy mod, drwy gymryd rhan, wedi gwneud rhywfaint o wahaniaeth i driniaethau a dulliau gweithredu mewn perthynas â salwch meddwl yn y dyfodol. Drwy ymchwilio i’r geneteg, gobeithio y gallant lunio therapïau genynnau i helpu, a chreu meddyginiaethau gwell. Byddwn yn argymell i unrhyw un sy’n gallu helpu wneud hynny – rwyf wedi gofyn i ffrind fod yn PlusOne i mi yn barod! Efallai na fydd ymchwil yn newid pethau i bobl sy’n dioddef ar hyn o bryd, ond rwy’n siŵr y bydd yn eu helpu yn y dyfodol.

 

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd