Gofal iechyd sylfaenol pobl ag anabledd dysgu
Rydym yn ymrwymedig i bwysigrwydd iechyd cyffredinol a lles ar gyfer iechyd meddwl da.
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi’u harwain gan yr Athro Mike Kerr, wedi datblygu archwiliad iechyd Cymru i bobl sydd ag anabledd dysgu. Mae archwiliad iechyd Cymru wedi cael ei gynllunio i fod yn archwiliad iechyd blynyddol gan feddygon a nyrsys ym maes gofal sylfaenol i bobl 14 oed a throsodd sydd ag anabledd deallusol. Ei nod yw darparu archwiliad iechyd corfforol systemig gan gynnwys archwiliad corfforol, adolygiad meddygol a chynllun gweithredu archwiliad iechyd. Mae’n cymryd tua 1 awr i’w gwblhau ac mae’n adnodd am ddim.
Caiff archwiliad iechyd Cymru ei gyflwyno’n flynyddol i tua 100,000 o bobl drwy eu meddyg teulu, ac mae’n ffurfio rhan o bolisi iechyd Llywodraeth Cymru a’r DU.
Ardystir y fersiwn fwyaf diweddar gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol ac mae’r wefan yn darparu gwybodaeth bellach am y broses. Isod mae gennym gyfieithiadau hefyd yn Tsieinëeg, Ffrangeg, Almaeneg, Japanëeg a Sbaeneg.