Adnodd sgrinio Iselder ymhlith Oedolion (PHQ-9)
Gellir defnyddio ein Hadnodd Sgrinio Iselder Ymhlith Oedolion, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, fel canllaw bras ar gyfer adnabod rhai o arwyddion iselder.
Mae’r adnodd yn seiliedig ar yr holiadur a ddefnyddir yn gyffredin, Holiadur Iechyd i Gleifion 9, neu PHQ-9, a ddatblygwyd gan y meddygon o UDA, Kurt Kroenke, Robert Spitzer a Janet Williams yn 2001.
Noder nad yw’r adnodd hwn wedi’i fwriadu i ddisodli asesiad clinigol. Os ydych yn pryderu am eich iechyd meddwl cysylltwch â’ch meddyg teulu.