Skip to main content

Gwasanaeth Seiciatreg Prifysgol Caerdydd (CUPS)

Yn ogystal â chynnal ymchwil, rydym hefyd yn cynnig ail wasanaeth barn ar gyfer ystod gyfyngedig o gyflyrau a ddarperir gan ein tîm academaidd clinigol.

Mae Gwasanaeth Seiciatreg Prifysgol Caerdydd (CUPS) yn wasanaeth clinigol cyfeirio yn unig sy’n defnyddio’r arbenigedd clinigol sy’n arwain y byd yn y brifysgol.

Darperir y gwasanaeth hwn ar y cyd drwy Brifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Rydym yn darparu ail farn ym meysydd arbenigedd ein tîm, sy’n cynnwys:

Yn ogystal, rydym yn darparu gwasanaeth gyda chydweithwyr geneteg y GIG ar ryngwyneb iechyd meddwl a geneteg i ddarparu gwybodaeth ac asesu i gleifion a theuluoedd.

Cael mynediad i’n gwasanaethau

Dim ond atgyfeiriadau gan dimau iechyd meddwl sy’n ymwneud â gofal parhaus y person sy’n cael ei atgyfeirio y gallwn dderbyn atgyfeiriadau. Nodwch nad ydym yn gallu derbyn hunanatgyfeiriadau.

Os hoffech gael ail farn gan y CUPS, yna bydd angen i chi drafod hyn gyda’ch tîm clinigol.

Rhowch sylw i atgyfeiriadau i’r clinigwr unigol – cliciwch ar y staff academaidd clinigol unigol isod i gael crynodeb o’r meysydd clinigol lle maent yn cynnig ail farn.

PsychMedCUPS@Cardiff.ac.uk

Cyrraedd yma

Mae’r clinig wedi’i leoli yn Adeilad Hadyn Ellis. Gweld ein lleoliad ar fap a chael cyfarwyddiadau.

Mae parcio cyfyngedig ar gael i ddefnyddwyr y clinig.

Cysylltwch â ni

Anfonwch atgyfeiriadau at:

Cydlynydd Clinig CUPS
Adeilad Hadyn Ellis
Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd