Skip to main content

Canlyniadau iechyd meddwl Covid-19

Mae’r Athro Jon Bisson yn siarad â ni am ganlyniadau iechyd meddwl tebygol Covid-19, yn ogystal â thriniaethau a sut i helpu i atal canlyniadau iechyd meddwl negyddol o ganlyniad i’r pandemig.

Mae gennym hefyd rai adnoddau a lawrlwythiadau ar gael.

Mae’r fideos ar gael yn Saesneg yn unig

 

Beth yw canlyniadau iechyd meddwl tebygol argyfwng Covid-19?

Mae argyfwng Covid-19 yn herio pawb a bydd pobl yn ymateb i’w profiadau mewn ffyrdd gwahanol.

Mae ymatebion cyffredin, normal yn debygol o gynnwys emosiynau cadarnhaol fel ymdeimlad o undod a gobaith, ynghyd ag emosiynau negyddol fel gorbryder a hwyliau isel.  Mae rhai pobl yn debygol o ddatblygu ymatebion mwy difrifol, yn cynnwys galar, gorbryder ac anhwylderau iselder a PTSD.

 

A fydd argyfwng Covid-19 yn achosi PTSD?

Dyw’r mwyafrif o bobl ddim yn debygol o ddatblygu Anhwylder Straen Wedi Trawma (Post-traumatic Stress Disorder – PTSD) neu Complex PTSD (CPTSD) oherwydd argyfwng Covid-19 ond bydd rhai’n gwneud.

I lawer fydd y profiad ddim yn eu hamlygu i farwolaeth wirioneddol na bygythiad o hynny, nac anaf difrifol neu drais rhywiol (sy’n angenrheidiol ar gyfer diagnosis o PTSD).  Fodd bynnag bydd yn cynnwys profiadau llawn straen a gofid fel ynysu cymdeithasol, gwarchod, colled ariannol, colli swyddi, a chael eu hamlygu i sefyllfaoedd a allai achosi haint.

Caiff rhai eu hamlygu i brofiadau trawmatig iawn yn ystod argyfwng Covid-19, yn arbennig bygythiadau i fywyd a marwolaeth a byddan nhw’n datblygu PTSD o ganlyniad i hynny.

 

Pwy sydd â’r risg mwyaf o ddatblygu problemau iechyd meddwl o ganlyniad i Covid-19?

Y ffactor mwyaf tebygol o beri risg uwch o ddatblygu problemau iechyd meddwl o ganlyniad i COVID-19 yw difrifoldeb profiad pobl yn ystod yr argyfwng.

Er enghraifft, bydd pobl sydd wedi bod yn sâl eu hunain neu sydd wedi profi salwch neu farwolaeth perthynas yn fwy tebygol o gael PTSD ac ymateb galar trawmatig.  Mae staff iechyd a gofal cymdeithasol llinell flaen hefyd yn fwy tebygol o gael PTSD oherwydd eu profiadau gyda digwyddiadau trawmatig yn y gwaith.

Bydd pobl sydd wedi cael profiadau gofidus iawn eraill fel colli arian a cholli swydd hefyd yn fwy tebygol o brofi gorbryder ac iselder.

Yn ogystal â natur y profiad, ffactorau eraill sy’n debygol o gynyddu’r risg yw anawsterau iechyd meddwl blaenorol, anhawster delio gyda sefyllfaoedd o straen yn gyffredinol ac, yn hollbwysig, ymdeimlad o ddiffyg cefnogaeth gymdeithasol.

 

Oes triniaethau ar gael os ydw i’n datblygu problemau iechyd meddwl o ganlyniad i Covid-19?

Mae amrywiaeth eang o ymyriadau a thriniaethau ar gael i bobl sy’n datblygu PTSD a chyflyrau eraill o ganlyniad i COVID-19.

Ceir dolenni defnyddiol yn daflenni NCMH:

 

Oes modd atal canlyniadau iechyd meddwl negyddol Covid-19?

Gellir cymryd nifer o gamau cadarnhaol iawn i leihau’r risg o ddatblygu canlyniadau iechyd meddwl negyddol.  Mae’r rhain yn cynnwys bwyta’n iach, cynnal perthnasoedd cymdeithasol, ymarfer corff rheolaidd a gweithgareddau i ymlacio.

Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl a MIND wedi cynhyrchu cyngor a gwybodaeth ddefnyddiol ar hyn.

 

Adnoddau arall

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd