Defnyddir y wybodaeth bersonol a gasglwn i helpu i ateb cwestiynau ymchwil pwysig. Mae problemau iechyd meddwl yn adlewyrchu cydadwaith cymhleth o ffactorau cymdeithasol, seicolegol a biolegol. Mae hyn yn golygu na all un dull ymchwil ddarparu’r holl atebion, felly rydym yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau i ymchwilio i sut mae’r meysydd hyn yn gorgyffwrdd ac yn rhyngweithio.
Ymchwil Seicogymdeithasol
Rydym yn defnyddio cyfweliadau ac asesiadau sy’n seiliedig ar holiaduron (ysgrifenedig ac ar-lein) i gasglu gwybodaeth am ffactorau cymdeithasol a seicolegol a all ddylanwadu ar risg person o fynd yn sâl.
Drwy allu nodi nodweddion penodol mewn personoliaeth a phenderfynyddion cymdeithasol neu ddigwyddiadau bywyd penodol sy’n gysylltiedig â pherygl uwch o salwch, gallwn helpu gweithwyr iechyd proffesiynol i ganfod cleifion sydd mewn perygl yn gynharach a rhoi mynediad iddynt i’r cymorth a’r driniaeth gywir.
Ymchwil fiolegol
Mae ein hymchwil fiolegol yn gam pwysig tuag at ddatblygu gwell diagnosisau a thriniaethau. Mae astudiaethau labordy yn ein helpu i ddeall mwy am sut y gallai salwch meddwl newid y ffordd y mae moleciwlau, celloedd nerfol a systemau’r ymennydd yn gweithio.
Ymchwil Niwroddelweddu
Mae niwroddelweddu yn cynnig mewnwelediad pwerus i strwythur a swyddogaeth yr ymennydd dynol. Gall technegau fel MRI ein helpu i bontio’r bwlch o ran deall sut mae’r symptomau a brofir mewn salwch meddwl yn gysylltiedig â ffactorau risg genetig.
Gallwn hefyd ymchwilio i effeithiolrwydd niwroddelweddu fel triniaeth ar gyfer problemau iechyd meddwl yn ogystal â chaethiwed i gyffuriau ac alcohol.
Gyda phwy rydym yn rhannu’r wybodaeth
Ni fyddwn yn gwerthu eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon. O bryd i’w gilydd, mae’n bosibl y byddwn yn cyflogi cwmnïau ac unigolion eraill i gyflawni swyddogaethau ar ein rhan, fel cysylltu â gwybodaeth iechyd a gesglir fel mater o drefn. Bydd ganddynt fynediad i’r wybodaeth bersonol sydd ei hangen arnynt i gyflawni eu swyddogaethau ond ni fyddant yn ei defnyddio at ddibenion eraill, a phan fo’n bosibl rydym yn gwneud y data yn ddienw yn llwyr. Mae’n rhaid iddynt hefyd brosesu’r wybodaeth bersonol fel y’i nodir yn y polisi preifatrwydd hwn ac fel y caniateir gan Ddeddf Diogelu Data/cyfreithiau’r DU.