Dyma Hwb yr Ymennydd a Genomeg: canolfan newydd yn rhannu cynlluniau i hyrwyddo ymchwil iechyd meddwl
Ddydd Mawrth 30 Medi, lansiwyd Hwb yr Ymennydd a Genomeg yn swyddogol yn Adeilad Hadyn Ellis ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'r ganolfan ymchwil yn nodi cam mawr ymlaen wrth drawsnewid sut rydym yn deall, yn rhoi diagnosis o gyflyrau iechyd meddwl difrifol fel seicosis, sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol ac anhwylder sgitsoaffeithiol, ac yn eu trin.