Skip to main content

Stori Munzir

Rwy’n fyfyriwr meddygol yn fy mhedwaredd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd. Ar hyn o bryd rwy’n cymryd seibiant o’r cwrs oherwydd fy anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD). Fy mhrif ddiddordeb yw gwneud ffilmiau.

Ers pan oeddwn yn 19 oed, rwyf wedi bod yn dioddef o orbryder. Rwyf bellach yn 22 oed. Dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, dechreuais gael meddyliau treisgar a chymelliadau fel petawn i am eu cyflawni. Rwyf bellach wedi cael diagnosis o anhwylder obsesiynol cymhellol ac wedi datblygu problemau bwyta a chymelliadau rhywiol hefyd.

Clywais am NCMH drwy fy astudiaethau yn ysgol feddygol Prifysgol Caerdydd.

Nid yw salwch meddwl yn cael ei ddeall yn dda ond eto mae mor gyffredin. Os gallwn ei ddeall yn well gallwn atal pobl rhag dioddef. Cymerais ran yn yr astudiaeth oherwydd rwyf hefyd eisiau helpu i dorri’r stigma, gan fod hynny’n niweidiol iawn hefyd.

Roedd gwirfoddoli yn hawdd; Llenwais yr holiadur a rhoddais sampl gwaed. Roedd y person a wnaeth gyfweld â mi yn garedig ac yn broffesiynol. Roeddwn yn poeni ychydig am roi sampl gwaed, gan fod fy anhwylder obsesiynol cymhellol yn golygu na allaf gyffwrdd â gwrthrychau miniog. Fodd bynnag, roedd rhoi’r gwaed yn iawn.

Byddwn yn argymell cymryd rhan yn yr astudiaeth – po fwyaf y gallwn ddeall y cyflyrau hyn, gorau oll. Rwy’n gobeithio bydd yr ymchwil yn meithrin dealltwriaeth o iechyd meddwl fel y gellir datblygu triniaethau mwy effeithiol. Byddai hefyd yn wych er mwyn helpu’r cyhoedd i’w ddeall yn well, i leihau stigma.

Isod mae’r rhaglen ddogfen wnes i gyda’r NCMH y llynedd. Er fy mod eisoes yn hapus iawn gyda’r ffilm mae ganddo fwy o arwyddocâd i mi bellach. Ychydig fisoedd ar ôl gwneud y ffilm, cefais ddiagnosis o anhwylder obsesiynol cymhellol ac yna roeddwn wedyn yn deall stigma iechyd meddwl yn bersonol. Dechreuais ddeall yr hyn roedd y cyfranogwyr yn siarad amdano yn y rhaglen ddogfen.

Fy ngobaith yw y bydd llawer o bobl yn gweld y rhaglen ddogfen ac y bydd yn newid barn pobl am iechyd meddwl. Hyd yn oed os bydd ond yn newid meddwl un person, hyd yn oed os bydd ond yn helpu un person, byddaf yn hapus iawn gyda’r hyn rydym wedi’i gyflawni.

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd