Skip to main content

Cynllun cymorth iechyd meddwl yn cael ei estyn i bob gweithiwr gofal iechyd rheng flaen yng Nghymru

Bydd cynllun cymorth iechyd meddwl rhad ac am ddim i feddygon yn cael ei estyn i bob gweithiwr gofal iechyd rheng flaen yng Nghymru i gefnogi staff y GIG sy’n mynd i’r afael â phandemig y Coronafeirws.

Bydd Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru (HHP), sydd wedi’i sefydlu a’i gynnal gan Brifysgol Caerdydd, yn cynnig lefel “ddigynsail” o gefnogaeth a chyngor i’r holl weithwyr gofal iechyd, gan gynnwys meddygon, nyrsys, myfyrwyr meddygol/gofal iechyd, parafeddygon, therapyddion, deintyddion a gwirfoddolwyr meddygol.

Bydd staff GIG Cymru’n gallu galw llinell gymorth gyfrinachol a gynhelir gan weithwyr gofal iechyd, cael sesiynau cwnsela wyneb-yn-wyneb, a chael adnoddau hunangymorth dan arweiniad ac ar-lein.

Mae academyddion uwch o’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl yn gwirfoddoli i gefnogi’r gwasanaeth hefyd.

Cafodd yr estyniad ei gyhoeddi gan y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, a addawodd £1 miliwn ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gyflogi seiciatryddion a chynghorwyr meddygol ychwanegol, cynnal sesiynau cwnsela a gweithredu ymyriadau pellach ar gyfer anhwylder pryder ôl-drawmatig.

Sefydlodd yr Athro Debbie Cohen, cyfarwyddwr HHP, y gwasanaeth hwn wyth mlynedd yn ôl â chyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y 10,000 o feddygon sy’n gweithio yng Nghymru.

Mae’r athro emeritws yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd wedi bod yn gweithio gyda GIG Lloegr i estyn y model i 60,000 o staff gofal iechyd.

“Mae hon yn adeg hynod anodd i weithwyr gofal iechyd sydd ar reng flaen y frwydr yn erbyn COVID-19, felly rydym yn ehangu ein cynllun cymorth i’n meddygon fel bod pawb yn gallu cael yr un gefnogaeth seicolegol, ni waeth beth fo’u rôl yn GIG Cymru neu’u lleoliad yng Nghymru,” meddai’r Athro Cohen.

“Efallai byddant yn teimlo’n euog am beidio â gallu mynd i mewn i’r gwaith tra bod pobl eraill yn gallu, neu’n profi trawma o’r hyn y maent yn ei weld bob dydd ar y rheng flaen. Mae’n gwbl hanfodol bod y gweithwyr hyn yn cael man cyfrinachol lle maent yn teimlo y gallan nhw siarad â chymheiriaid a chael cefnogaeth mewn modd sy’n addas iddynt.

Nid oes ffiniau i’r feirws hwn, felly mae’n rhaid i ni roi cefnogaeth sydd heb ffiniau chwaith. Dyma hanfod yr hyn rydym am ei gyflawni.

Mae’r cynllun hefyd yn galw am feddygon sydd wedi ymddeol a staff gofal iechyd eraill sydd am helpu drwy gynnal y llinell gymorth rad ac am ddim.

“Hoffem ni glywed gan staff gofal iechyd sydd, am unrhyw reswm, yn methu dychwelyd i’r gwaith ond sydd am gefnogi’r GIG yn ystod y pandemig hwn. Mae cynnig cymorth gan gymheiriaid yn hollol amhrisiadwy,” dywedodd yr Athro Cohen.

Mae’r Athro Jon Bisson, athro mewn seiciatreg ym Mhrifysgol Caerdydd a phrif ymchwilydd yn NCMH, yn un o’r clinigwyr sy’n cefnogi HHP.

Dywedodd yr Athro Bisson: “Mae’n hanfodol bod staff y GIG yn gallu cael gafael ar gymorth iechyd meddwl wrth iddynt ddelio â’r argyfwng iechyd presennol ac rwy’n falch bod fy nghydweithwyr a minnau’n gallu cefnogi’r fenter hon yn ystod yr amser hwn.

“Mae’n wych bod y cynllun nawr yn cael ei gyflwyno i bob gweithiwr gofal iechyd rheng flaen yng Nghymru fel ein bod ni’n gallu eu helpu wrth iddyn nhw barhau i ofalu amdanon ni.”

Bydd y gwasanaeth ar gael rhwng 9am a 5pm drwy ffonio 0800 058 2738 neu ebostio HHPCOVID19@caerdydd.ac.uk.

Gellir defnyddio’r un cyfeiriad ebost i ofyn am wybodaeth bellach am sut i wirfoddoli i gynnal y llinell gymorth rad ac am ddim.

Catrin Hopkins

Catrin yw'r Swyddog Cyfathrebu ar gyfer yr NCMH a Canolfan CYF Prifysgol Caerdydd.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd