Skip to main content

Hyrwyddwyr Ymchwil NCMH: Laura

Mae Laura o Gaerdydd yn wraig, yn fam, yn gefnogwr pêl-droed ac yn bobydd talentog sy’n rhedeg ei busnes ei hun. Mae hefyd yn un o Hyrwyddwyr Ymchwil NCMH, gan helpu i ledaenu’r neges am ein hymchwil. Dyma ei stori:

Rwy’n 31 oed, yn briod ac yn fam i ddau o blant (Jack a Poppy). Rwy’n rhedeg cwmni rhith-gynorthwyydd personol o’r enw Laura Jane PA a chwmni pobi cacennau rhan-amser o’r enw Un, Dau, Tri…CAKE! a enwyd gan fy mab – byddai’n gwrthod ymarfer cyfrif yn Gymraeg ymhellach na’r rhif tri heb gael darn o gacen yn wobr! Rwyf hefyd yn gefnogwr pybyr o dîm pêl-droed Abertawe.

Cefais lawer o broblemau iechyd meddwl pan oeddwn yn disgwyl fy mab, Jack, bedair blynedd yn ôl, a chefais ddiagnosis o Iselder Ôl-enedigol ar ôl iddo gael ei eni a rhoddwyd gwrth-iselyddion i mi ar bresgripsiwn.

Yn y pen draw, sylweddolodd fy meddygon mai’r ffaith bod fy nghoden fustl yn methu oedd yn achosi fy mhroblemau iechyd meddwl. Pan gefais y llawdriniaeth i dynnu fy nghoden fustl, rhoddais y gorau i gymryd fy ngwrth-iselyddion, gan feddwl fy mod yn ‘normal’ a bod y salwch wedi mynd.

Flwyddyn neu ddwy yn ddiweddarach, roeddwn yn disgwyl Poppy ac es i’n sâl unwaith eto. Cefais ddiagnosis o iselder amenedigol, ond gan fy mod yn cymryd meddyginiaeth wrth-salwch yn barod, gwrthodais gymryd mwy o dabledi yn ystod y beichiogrwydd.

Pan aned Poppy, a oedd yn broses eithaf trawmatig, roedd fy meddygon am i mi ailddechrau cymryd fy nhabledi ar unwaith. Nid oeddwn yn fodlon gwneud hyn, am fy mod yn teimlo fy mod wedi bod o dan ddylanwad meddyginiaeth am ormod o amser, ac roeddwn am dreulio rhywfaint o amser gyda fy maban newydd heb gymryd unrhyw beth.

Yn y diwedd aeth fy iselder yn gynyddol waeth a chefais ddiagnosis o Iselder Ôl-enedigol unwaith eto, a Straen Wedi Trawma. Ar ôl cael sawl cyfarfod, rydym bellach yn credu nad oedd fy Iselder Ôl-enedigol wedi mynd ar ôl cael Jack.

Yn y pen draw, dechreuais gymryd fy meddyginiaeth unwaith eto, a’r tro hwn nid oedd unrhyw sgîl-effeithiau. Rwy’n well nawr nag wyf wedi bod ers blynyddoedd.

Rwyf wrth fy modd yn wynebu heriau newydd, a phryd bynnag y bo modd, rwy’n ceisio helpu i godi ymwybyddiaeth o achosion iechyd meddwl. Dyna sut y clywais am y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl. Cwrddais ag ambell aelod o dîm NCMH mewn cynhadledd, ac fe’u gwelais eto mewn gŵyl gerddoriaeth a oedd yn cefnogi achosion iechyd meddwl lle roeddwn yn rhedeg stondin i Depressed Cakes Cymru. Ar ôl siarad â nhw am y gwaith ymchwil, roeddwn yn awyddus iawn i helpu.

Rwy’n siŵr i fy mam ddioddef o broblemau iechyd meddwl heb ddweud wrth neb, ac rwy’n credu’n gryf bod iselder yn etifeddol. Gan fod gen i fy merch fy hun erbyn hyn, credaf fod y gwaith ymchwil hwn yn bwysig dros ben – mae’r syniad y gallem ddeall y geneteg y tu ôl i salwch meddwl ac, i raddau, ‘rybuddio’ rhywun y gallai fod yn dueddol o’i gael, yn anhygoel. Gobeithio y gall helpu cenhedlaeth fy merch i fod yn barod, ac mae’n anrhydedd bod yn rhan ohono.

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd