Skip to main content

Hyrwyddwyr Ymchwil NCMH: Huw

Mae Huw yn dad i dri o blant, mae wrth ei fodd â rygbi ac mae’n gweithio mewn diwydiant technoleg uwch. Mae hefyd yn un o Hyrwyddwyr Ymchwil NCMH, gan helpu i ledaenu’r neges am ein hymchwil. Dyma ei stori:

Fy enw i yw Huw. Rwy’n gweithio fel cyfarwyddwr gwerthu i gwmni biotechnoleg, rwy’n briod ac mae gen i dri phlentyn sydd wedi tyfu’n oedolion a dau Labrador. Rwy’n dod o Lanelli yn wreiddiol, a symudais i Gaerfyrddin gyda fy nheulu gan dreulio’r rhan fwyaf o’m cyfnod yn y chweched dosbarth yn chwarae rygbi ac yn mwynhau “cyfarfodydd” ar ôl gemau yn nhafarn y Golden Lion.

Llwyddais i gael digon o gymwysterau Safon Uwch er mwyn astudio ar gyfer gradd mewn Bioleg Ddynol, ac rwyf wedi treulio’r rhan fwyaf o’m gyrfa yn gweithio ym maes y gwyddorau bywyd technoleg uwch. Rwy’n byw y tu draw i Bont Hafren bellach, yn Swydd Bedford.

Mae’n debygol bod fy mhrofiad o iselder yn debyg i brofiad llawer o bobl eraill. I mi, roedd y sbardun yn amlwg – straen yn y gwaith. Dechreuais deimlo o dan fwy a mwy o bwysau i

gyrraedd targedau cynyddol anodd a rheoli tîm gwerthu a oedd yn mynnu llawer o sylw. Gyda jargon ffasiynol byd busnes yn atseinio yn fy nghlustiau yn ddyddiol, dechreuais deimlo nad oeddwn fel fi fy hun.

Fy symptomau cyntaf oedd gorbryder (rwyf wedi dysgu erbyn hyn ei fod yn arwydd rhybudd gwirioneddol i mi), yna rywfaint o baranoia ac, yn olaf, iselder. Collais fy swydd, gan fynd i’r hyn rwy’n ei alw’n “fyd y cwrlid concrid”, lle byddai hyd yn oed godi o’r gwely yn dasg anferthol.

Roeddwn allan ohoni yn gyfan gwbl am chwe mis. Collais y gallu i ysgrifennu neges e-bost neu hyd yn oed adael y tŷ. Fel y dywedodd fy chwaer-yng-nghyfraith wrth fy ngwraig ar y pryd, yn gwbl ddi-flewyn-ar-dafod, sy’n nodweddiadol o rywun o Swydd Efrog, “Liz, mae’n gwneud affliw o ddim.” Ac roedd hi’n iawn – nid oeddwn yn gallu gweithredu o gwbl. Mae iselder i dristwch fel y mae torri coes i daro bawd eich troed – mae ar lefel arall, a gall eich llorio’n llwyr. O dipyn i beth, gwellais. Gyda chymorth y feddyginiaeth a roddodd y meddyg i mi o bosibl, dechreuodd fy lefelau serotonin ddod yn gytbwys; yn fy marn i, credaf mai anghydbwysedd biocemegol sy’n achosi iselder, neu mae’n ffactor sylweddol o leiaf (felly pam mae stigma amlwg ym myd busnes mewn perthynas â phroblemau iechyd meddwl – onid yw’n ddim gwahanol i gyflyrau fel diabetes, clefyd y galon neu ganser, hyd yn oed?).

Efallai mai amser oedd ei angen arnaf. Fel y dywedodd Dylan Thomas yn Dan y Wenallt, “Clywch gerdded traed amser”. Cefais help gan fy anwyliaid hefyd – roedd fy mrawd yn gefn mawr i mi ac roedd fy ngwraig, fy nheulu a’m ffrindiau yn gefnogol dros ben – felly roeddwn yn lwcus.

Dechreuais deimlo fymryn yn well, i’r graddau fy mod wedi penderfynu cerdded ar hyd y stryd fawr leol gyda fy CV yn fy llaw, a chefais swydd ddi-dâl yn helpu yn swyddfa gwerthwr tai lleol. Hyd heddiw, nid ydynt yn sylweddoli i ba raddau y gwnaethant fy helpu i godi yn ôl ar fy nhraed, Fel y digwyddodd hi, roeddwn i’n weddol dda am wneud y gwaith.

Dechreuais ymddiddori mewn ymwybyddiaeth ofalgar ar ôl darllen “The Art of Happiness” gan y Dalai Lama a roddodd fy merch i mi pan ddychwelodd o daith i India, a dysgais sut i fyfyrio yn ein teml Fwdhaidd leol – roeddwn ar y llwybr cywir unwaith eto. A dyma fi, dair blynedd yn ddiweddarach, yn ôl wrth y llyw fel Cyfarwyddwr Busnes, yn ôl ar y trywydd iawn. Felly dyna’r neges bwysig – gyda’r cymorth a’r gefnogaeth gywir, mae’n bosibl gwella.

Cymerais ran mewn gwaith ymchwil gydag NCMH oherwydd, yn sgil fy mhrofiad, roeddwn yn deall ei bwysigrwydd ac yn awyddus i helpu mewn unrhyw ffordd, ni waeth pa mor fach. Ac mae fy mhrofiad wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae’n hawdd siarad â’r ymchwilwyr; maent wir yn dangos eu bod yn eich deall ac mae’r cyfweliadau yn gwbl ddi-boen, a dweud y gwir. Mae’r gwaith a wneir yma yn ein helpu i ddeall pwy ydym ni – yr ymennydd a’i holl

ymwybyddiaeth. Felly, nid oes unrhyw beth pwysicach yn fy marn i. Gallech ddweud nad oes angen meddwl dwywaith! Byddwn wir yn argymell i unrhyw un sy’n ystyried cymryd rhan wneud hynny – ewch amdani! Byddwch yn helpu i feithrin gwell dealltwriaeth o iechyd meddwl ac rwy’n siŵr y byddwch chi, fel fi, yn teimlo’n hapus eich bod wedi gallu rhoi rhywbeth yn ôl.

 

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd